Libreto

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Geiriau neu destun ar gyfer opera, opereta, oratorio neu waith cerddorol lleisiol hir yw libreto. Cymharol brin yw’r enghreifftiau a geir yn Gymraeg, ond cafwyd ambell ymgais i gyfansoddi rhai yn ystod dechrau’r 20g.

Fel libreto, yn wreiddiol, y bwriadwyd awdl delynegol T. Gwynn Jones, ‘Tir na-nÓg’ (1916), er enghraifft. Ysgrifennodd David Lloyd Jenkins a S. M. Powell libreto yn seiliedig ar gerddi Dafydd ap Gwilym ar gyfer ‘Y Trwbadŵr’ J. T. Rees (1929). Enghraifft arall yw libreto J. Dyfnallt Owen (‘Dyfnallt’) ar gyfer opera bum act David Tawe Jones, ‘The Enchantress’, ychydig cyn marw’r cyfansoddwr yn 1949. Cyfieithwyd y libreto gan William Evans (Wil Ifan).

Yn fwy diweddar, cyfansoddwyd gwaith ar gyfer llais a cherddorfa gan Karl Jenkins yn 2004 i ddathlu agor Canolfan Mileniwm Cymru. Enw’r gwaith yw ‘In these stones horizons sing’, a chyfansoddwyd y geiriau ar ei gyfer gan y beirdd Menna Elfyn, Grahame Davies a Gwyneth Lewis.

Nid dyma unig weithiau operatig yr awduron hyn; mae Menna Elfyn wedi cyfansoddi nifer o libreti i wahanol gyfansoddwyr, gan gynnwys ‘The Red Lady of Paviland’ yn 2010. Mae Gwyneth Lewis hefyd wedi cyfansoddi nifer o libreti eraill, gan gynnwys operâu siambr i blant ac oratorio.

Llŷr Gwyn Lewis


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.