Limrig

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Pennill unigol ar fesur penodol a ddefnyddir, bron yn ddeithriad, at bwrpas doniolwch ac ysgafnder yw limrig.

Pum llinell a geir, yn odli a a b b a, gydag wyth neu naw sillaf (neu dri phrif guriad) yn llinellau 1, 2 a 5, a phum neu chwe sillaf (neu ddau brif guriad) yn llinellau 3 a 4. Gellir cywreinio’r mesur trwy gynnwys odl gyrch rhwng diwedd y bedwaredd linell a chanol y llinell olaf, neu trwy ddefnyddio odlau dwbwl.

Addasiad o’r Saesneg limerick yw’r term Cymraeg, ond mae union wreiddyn y term hwnnw’n aneglur. Daeth yn boblogaidd yn yr 20g., yn arbennig trwy waith Idwal Jones, a lluniwyd rhai hefyd gan ei gyfaill coleg, Waldo Williams. Yn ddiweddarach daeth yn fesur poblogaidd mewn ymrysonau ac ar gyfres Talwrn y Beirdd, BBC Radio Cymru. Yn aml mewn cystadlaethau, gosodir un llinell o limrig er mwyn annog cystadleuwyr i gwblhau’r pennill. Mae hiwmor y limrig yn tueddu at yr ysmala a'r abswrd, gyda disgynneb yn aml yn y llinell olaf. Un o brif limrigwyr y cyfnod diweddar yw Tegwyn Jones, a chyhoeddodd ddau gasgliad o limrigau gan amrywiol awduron. Dyma enghraifft nodweddiadol o'i waith:

Un rhyfedd yw Joni Brynhafod,
Mae'n cadw moch bach a llwynogod.
Eu bwydo y mae
Bob bore dydd Iau -
Pam bore dydd Iau dwi'm yn gwybod.

Robert Rhys a Llŷr Gwyn Lewis

Llyfryddiaeth

Jones, T. (gol.) (1999) Limrigau: 'Ro'dd cadno yn ardal y Bala (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).

Jones, T. (gol.) (2011) Sachaid o Limrigau (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.