Llain las

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

At bwrpas cynllunio, dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhan o dir gwledig sydd yn amgylchynu tref, dinas neu ganolfan poblogaeth, lle na anogir datblygu a gyda’r bwriad o amddiffyn yr amgylchfyd a naws gwledig drwy ddynodi penllanw a ffin ar ddatblygiad neu blerdwf trefol [urban sprawl] neu gyfuniad o gymunedau cyffiniol [coalescence of adjoining urban areas].


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Planning Law and Practice, James Cameron Blackhall, Cavendish Publishing, argraffiad 1998, tudalennau 6, 7-8, 145, 326, 357, 319 a 325-326



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.