Llewelyn-Jones, Iwan (g.1959)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:04, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.


Pianydd sy’n hanu o Amlwch, Ynys Môn. Fe’i hedmygir am gywreinrwydd ei berfformiadau, yn enwedig yn y repertoire Ffrengig, a gweithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle dyfarnwyd iddo Wobr Chopin, Gwobr Deuawd Offerynnol a Medal Aur Hopkinson. Cafodd lwyddiant mewn cystadlaethau tramor yn Sbaen, Ffrainc a’r Eidal. Astudiodd hefyd gyda Noretta Conci a Cecile Ousset (g.1936). Daeth i sylw ar ôl ei gyngerdd llwyddiannus cyntaf yn Neuadd Wigmore yn 1987.

Mae’n hoff o chwarae cerddoriaeth gan Debussy a Ravel ac mae ei ddehongliad o Ondine gan yr olaf yn hynod synhwyrus. Nid cerddoriaeth o Ffrainc yn unig sy’n apelio ato, fodd bynnag, a chofir am ei chwe datganiad yn 2004 o weithiau gan Chopin. Yn 2001 rhyddhaodd gryno-ddisg o weithiau cyfansoddwyr Cymreig, Portreadau Cymreig, gan ddilyn hyn ddeng mlynedd yn ddiweddarach gyda Caneuon Heb Eiriau, lle bu’n trefnu ac addasu cerddoriaeth Gymreig a’i chyflwyno ar newydd wedd.

Ymhlith y cyfansoddwyr a ysgrifennodd ddarnau ar ei gyfer y mae Alun Hoddinott, Karl Jenkins, Richard Elfyn Jones, Geraint Lewis, John Metcalf a John Pickard. Yn 2005 dyfarnwyd iddo Wobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae wedi perfformio lawer tro gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn gweithiau gan Chopin, Litolff a Mozart, ac mae’n cyfrannu’n gyson i arlwy Radio 3, Radio Cymru ac S4C.

Bu hefyd yn weithgar ym maes cerddoriaeth mewn addysg, gan gyhoeddi nifer o werslyfrau (e.e. ap Siôn a Llewelyn-Jones 2011). Derbyniodd ddoethuriaeth am ddatganiad a thraethawd hir ar gerddoriaeth Ravel o Brifysgol Caerdydd yn 2016. Daeth yn aelod o staff adran gerddoriaeth Prifysgol Bangor yn ystod yr un flwyddyn.

Richard Elfyn Jones

Disgyddiaeth

  • Portreadau Cymreig (Sain SCD2308, 2001)
  • Caneuon Heb Eiriau (Sain SCD2646, 2011)

Llyfryddiaeth

  • Alun Guy ac Iwan Llewelyn-Jones, TGAU Cerddoriaeth – Llawlyfr y Myfyriwr (Llundain, 2009)
  • Pwyll ap Siôn ac Iwan Llewelyn-Jones, Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes: Canllaw i Fyfyrwyr (Aberystwyth, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.