Llinell adeiladu

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae llinell adeiladu fel arfer wedi ei bennu ar bellter penodedig o ganol priffordd sydd yn dynodi na ellir adeiladu o flaen y llinell honno.

Bwriad hyn yw amddiffyn yr amgylchfyd gan osod adeiladau yn ôl o’r briffordd gan felly wella ymddangosiad yr ardal a hefyd sicrhau diogelwch i yrwyr.

Pan fo colled ar dir datblygu fel canlyniad i bennu’r llinell adeiladu, gellir hawlio iawndal mewn rhai amgylchiadau. Gelwir llinell adeiladu weithiau’n llinell osod [setback line].

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://www.mybuilder.com/questions/v/25133/building-lines-and-planning

“A Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 24. Deddf Priffyrdd 1980 Cymalau 73 a 74.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.