Llosgwrn

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:13, 26 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Llinell olaf pennill o gywydd llosgyrnog, a honno’n seithsill o ran hyd. Rhagflaenir y llinell olaf hon gan ddwy neu dair neu bedair llinell wythsill, er mai tair llinell sydd i’r cywydd llosgyrnog fel arfer. Mae’r llinellau sy’n rhagflaenu’r llinell olaf yn odli â’i gilydd ac â gorffwysfa’r llinell honno, er enghraifft, y pennill hwn o waith Dafydd ab Edmwnd:

Y mae gorhoff em a garaf
O gof aelaw ac a folaf,
O choeliaf gael ei chalon.

Ystyr llosgwrn yw cynffon neu gwt, a chynffon y pennill yw llosgwrn.

Alan Llwyd


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.