Lloyd, David (1912-69)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o gantorion amlycaf a mwyaf poblogaidd Cymru yn ei ddydd. Fe’i ganed yn Nhrelogan, Sir y Fflint, 6 Ebrill 1912, yn fab i löwr, ac ni chafodd addysg ffurfiol uwchlaw’r elfennol. Wedi gadael yr ysgol yn 14 oed fe’i prentisiwyd yn saer, ond dechreuodd ymddiddori mewn canu a derbyn hyfforddiant gan W. Matthews Williams yng Nghaer. Enillodd gannoedd o wobrau mewn eisteddfodau lleol, ac yn 1933 fe’i cymhellwyd gan John Williams, a oedd yn beirniadu yn eisteddfod Licswm, i ystyried gyrfa broffesiynol. Gyda chefnogaeth ariannol pobl ei ardal, teithiodd i Lundain i gystadlu am ysgoloriaeth yng Ngholeg y Guildhall; bu’n llwyddiannus, a dechrau ar ei yrfa yn y coleg yn 1934. Hyfforddwyd ef gan Walter Hyde (1875-1951), ac yn 1938 ymddangosodd fel unawdydd yn Glyndebourne, gan ennill cryn glod iddo’i hunan. Canodd yno eto yn 1939, ac yn Sadler’s Wells yn 1940. Ymddangosodd hefyd yn Stockholm a Copenhagen yn y cyfnod hwn. Torrodd yr Ail Ryfel Byd ar ei yrfa a bu’n gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cymreig, ond gan ddal i ganu mewn cyngherddau a pherfformiadau o oratorio.

Wedi’r Rhyfel dewisodd beidio â dychwelyd i fyd opera, a datblygodd yrfa fel tenor poblogaidd ar lwyfannau cyngerdd Cymru a thu hwnt. Ymddangosodd yng Ngŵyl Mozart a Verdi yn yr Iseldiroedd yn 1946 ac yng Ngŵyl Prydain yn 1951. Darlledai’n gyson a gwneud recordiau i gwmni Columbia rhwng 1940 ac 1949, a hefyd i Decca dan adain y Welsh Recorded Music Society yn 1948, pryd y recordiodd nifer o ganeuon Cymraeg adnabyddus. Yn 1952 cymerodd ran gyda Kirsten Flagstad mewn recordiad o Dido and Aeneas gan Henry Purcell. Bu ei boblogrwydd yn gryn straen arno ac amharodd ar ei iechyd. Dioddefodd ddamwain ddifrifol yn 1954, ac er iddo ailafael yn ei ganu yn 1960, ni chafodd yr un llwyddiant â chynt. Dirywiodd ei iechyd yn ystod yr 1960au, a bu farw o ganlyniad i godwm yn ei gartref, 27 Mawrth 1969.

Er iddo fethu cyflawni addewid mawr ei flynyddoedd cynnar, enillodd David Lloyd le unigryw iddo’i hun yng nghalonnau ei ddilynwyr, yn enwedig yng Nghymru. Cyfrifir ei lais telynegol prydferth yn un o’r goreuon a gynhyrchodd y genedl, ac mae’r recordiau a ddiogelwyd yn brawf o’i apêl a’i fedr technegol.

Rhidian Griffiths

Disgyddiaeth

  • David Lloyd: y llais arian (Sain SCD2601, 2009)

Llyfryddiaeth

  • Hywel Gwynfryn, David Lloyd: llestr bregus (Llandysul, 2016)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.