Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llwyd, Owain (g.1984)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cyfansoddwr yn bennaf ym maes cerddoriaeth ffilm a’r [[cyfryngau]]. Ganed Owain Llwyd yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy ac yn Ysgol y Berwyn, y Bala. Aeth wedyn i Brifysgol Bangor lle derbyniodd radd BMus gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Gan arddangos doniau cerddorol a chreadigol yn ifanc iawn, enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr yn [[Eisteddfod]] yr Urdd dair gwaith – yng Nghaerdydd a’r Fro (2002), Ynys Môn (2004) ac am yr ail waith yng Nghaerdydd (2005) – ynghyd â Thlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau (2003) a Chasnewydd (2004): yr unig gyfansoddwr i gyflawni’r gamp.
+
Cyfansoddwr yn bennaf ym maes cerddoriaeth ffilm a’r [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]]. Ganed Owain Llwyd yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy ac yn Ysgol y Berwyn, y Bala. Aeth wedyn i Brifysgol Bangor lle derbyniodd radd BMus gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Gan arddangos doniau cerddorol a chreadigol yn ifanc iawn, enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] yr Urdd dair gwaith – yng Nghaerdydd a’r Fro (2002), Ynys Môn (2004) ac am yr ail waith yng Nghaerdydd (2005) – ynghyd â Thlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau (2003) a Chasnewydd (2004): yr unig gyfansoddwr i gyflawni’r gamp.
  
Aeth ymlaen i gwblhau PhD ym maes cyfansoddi ar gyfer ffilm a’r cyfryngau yn 2010, gan dderbyn ysgoloriaeth addysg uwch gan Mantais, cyn ei benodi’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Er ei fod wedi cyfansoddi ymron pob ''genre'', gan gynnwys darnau cerddorfaol, [[corawl]], unawdol, [[bandiau pres]], ynghyd ag [[opera]] mewn addysg ''(Prospero)'' ac opera gymunedol ''(Cofi Opera)'', daeth i sylw yn bennaf drwy ei waith ym maes cerddoriaeth ffilm a’r cyfryngau. Datblygodd bartneriaeth agos gyda nifer o gyfansoddwyr ffilm yn Llundain rhwng 2010–18, gan gyfrannu at gerddorfaeth cerddoriaeth ''trailers'' ar gyfer ffilmiau megis ''The Hobbit'' (gw. Morris 2015). Gwnaeth farc arbennig ym maes cerddoriaeth llyfrgell, ac fe ddefnyddiwyd ei gerddoriaeth mewn rhaglenni fel ''X-Factor, Top Gear, Big Brother, MasterChef,'' a ''Chef’s Table France.''
+
Aeth ymlaen i gwblhau PhD ym maes cyfansoddi ar gyfer ffilm a’r cyfryngau yn 2010, gan dderbyn ysgoloriaeth addysg uwch gan Mantais, cyn ei benodi’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Er ei fod wedi cyfansoddi ymron pob ''genre'', gan gynnwys darnau cerddorfaol, [[Corau Cymysg | corawl]], unawdol, [[Bandiau Pres | bandiau pres]], ynghyd ag [[opera]] mewn addysg ''(Prospero)'' ac opera gymunedol ''(Cofi Opera)'', daeth i sylw yn bennaf drwy ei waith ym maes cerddoriaeth ffilm a’r cyfryngau. Datblygodd bartneriaeth agos gyda nifer o gyfansoddwyr ffilm yn Llundain rhwng 2010–18, gan gyfrannu at gerddorfaeth cerddoriaeth ''trailers'' ar gyfer ffilmiau megis ''The Hobbit'' (gw. Morris 2015). Gwnaeth farc arbennig ym maes cerddoriaeth llyfrgell, ac fe ddefnyddiwyd ei gerddoriaeth mewn rhaglenni fel ''X-Factor, Top Gear, Big Brother, MasterChef,'' a ''Chef’s Table France.''
  
Perfformiwyd a recordiwyd ei gerddoriaeth gan gerddorfeydd megis [[Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]], Cerddorfa Ffilharmonig Budapest, Cerddorfa Ffilm Berlin, Cerddorfa Symffonig Genedlaethol Slofacia a’r English Session Orchestra. Bu’n gyfrifol am drefnu caneuon gan y grwpiau pop [[Sŵnami]], [[Yr Ods]], [[Yws Gwynedd]] ac Alys Williams ar gyfer y Welsh Pops Orchestra mewn cyngherddau hynod boblogaidd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni (2016) ac yn Sir Fôn (2017).
+
Perfformiwyd a recordiwyd ei gerddoriaeth gan gerddorfeydd megis [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]], Cerddorfa Ffilharmonig Budapest, Cerddorfa Ffilm Berlin, Cerddorfa Symffonig Genedlaethol Slofacia a’r English Session Orchestra. Bu’n gyfrifol am drefnu caneuon gan y grwpiau pop [[Sŵnami]], [[Ods, Yr | Yr Ods]], [[Frizbee | Yws Gwynedd]] ac Alys Williams ar gyfer y Welsh Pops Orchestra mewn cyngherddau hynod boblogaidd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni (2016) ac yn Sir Fôn (2017).
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''

Y diwygiad cyfredol, am 21:11, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr yn bennaf ym maes cerddoriaeth ffilm a’r cyfryngau. Ganed Owain Llwyd yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy ac yn Ysgol y Berwyn, y Bala. Aeth wedyn i Brifysgol Bangor lle derbyniodd radd BMus gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Gan arddangos doniau cerddorol a chreadigol yn ifanc iawn, enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd dair gwaith – yng Nghaerdydd a’r Fro (2002), Ynys Môn (2004) ac am yr ail waith yng Nghaerdydd (2005) – ynghyd â Thlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau (2003) a Chasnewydd (2004): yr unig gyfansoddwr i gyflawni’r gamp.

Aeth ymlaen i gwblhau PhD ym maes cyfansoddi ar gyfer ffilm a’r cyfryngau yn 2010, gan dderbyn ysgoloriaeth addysg uwch gan Mantais, cyn ei benodi’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Er ei fod wedi cyfansoddi ymron pob genre, gan gynnwys darnau cerddorfaol, corawl, unawdol, bandiau pres, ynghyd ag opera mewn addysg (Prospero) ac opera gymunedol (Cofi Opera), daeth i sylw yn bennaf drwy ei waith ym maes cerddoriaeth ffilm a’r cyfryngau. Datblygodd bartneriaeth agos gyda nifer o gyfansoddwyr ffilm yn Llundain rhwng 2010–18, gan gyfrannu at gerddorfaeth cerddoriaeth trailers ar gyfer ffilmiau megis The Hobbit (gw. Morris 2015). Gwnaeth farc arbennig ym maes cerddoriaeth llyfrgell, ac fe ddefnyddiwyd ei gerddoriaeth mewn rhaglenni fel X-Factor, Top Gear, Big Brother, MasterChef, a Chef’s Table France.

Perfformiwyd a recordiwyd ei gerddoriaeth gan gerddorfeydd megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Budapest, Cerddorfa Ffilm Berlin, Cerddorfa Symffonig Genedlaethol Slofacia a’r English Session Orchestra. Bu’n gyfrifol am drefnu caneuon gan y grwpiau pop Sŵnami, Yr Ods, Yws Gwynedd ac Alys Williams ar gyfer y Welsh Pops Orchestra mewn cyngherddau hynod boblogaidd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni (2016) ac yn Sir Fôn (2017).

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Uncle Art – A Temporal Shift (UA001, 2016)

Llyfryddiaeth

  • Josh Morris, ‘Man behind Hobbit score premiers [sic] new piece in North Wales’, Daily Post, 16 Chwefror 2015



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.