Llyfryddiaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:41, 11 Tachwedd 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio


Rhestr o weithiau neu ffynonellau sy’n perthyn i gategori neilltuol yw llyfryddiaeth. Math penodol, a chyffredin, o lyfryddiaeth yw honno sy’n ymddangos ar ddiwedd llyfr, neu erthygl, neu gofnod, neu ryw destun ysgrifenedig arall, ac sy’n cynnwys y gweithiau y cyfeirir atynt yn y testun, neu sy’n berthnasol i’r testun mewn rhyw ffordd. Fodd bynnag, nid yw llyfryddiaeth yn gyfyngedig i’r defnydd hwn yn unig. Gellir llunio llyfryddiaeth, sef rhestr o weithiau perthnasol, yn gyhoeddiad ar wahân: er enghraifft, yn ymwneud â phwnc penodol (rhamantiaeth Gymraeg, dyweder), neu weithiau cyhoeddedig awdur, neu eitemau a gyhoeddir mewn cylchgrawn, neu restr drefnedig o eitemau. Am enghreifftiau o lyfryddiaethau diweddar safonol o’r fath, gweler Huw Walters, John Morris-Jones 1864-1929 – Llyfryddiaeth Anodiadol neu Huw Walters, Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1851-1900.

Simon Brooks

Llyfryddiaeth

Ifans, Rh. (2006), ‘Llyfryddiaeth’, Y Golygiadur: Llawlyfr i awduron a golygyddion (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion), t. 164.