Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llythyr"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 3: Llinell 3:
 
Darn o ryddiaith sy’n amlygu cyfathrebu uniongyrchol rhwng awdur a darllenydd neu griw o ddarllenwyr, ac sydd wedi ei leoli ar adeg benodol mewn amser.
 
Darn o ryddiaith sy’n amlygu cyfathrebu uniongyrchol rhwng awdur a darllenydd neu griw o ddarllenwyr, ac sydd wedi ei leoli ar adeg benodol mewn amser.
  
Bu ffurf y llythyr yn arf beirniadol poblogaidd dros y canrifoedd i lenorion drafod pynciau athronyddol a llenyddol. Yn llythyrau enwog y bardd Rainer Maria Rilke at y llenor ifanc, Franz Kappus, defnyddir y ffurf i drafod hanfodion y grefft o lenydda ac i gynnig cyngor. Enghraifft enwog yn y Gymraeg yw llythyrau Morrisiaid Môn (Lewis, Richard, William a John Morris); erys tua mil o’r llythyrau a anfonasant at ei gilydd ac at eraill, ac maent yn cynnig sylwebaeth ar fywyd diwylliannol a llenyddol y 18g. Yn yr un modd, cynigia gohebiaeth faith Kate Roberts a [[Saunders Lewis]] rhwng 1923 ac 1983 gip dadlennol ar fydolwg y ddau lenor ynghyd â hinsawdd wleidyddol a llenyddol Cymru yn ystod yr 20g.  
+
Bu ffurf y llythyr yn arf beirniadol poblogaidd dros y canrifoedd i lenorion drafod pynciau athronyddol a llenyddol. Yn llythyrau enwog y bardd Rainer Maria Rilke at y llenor ifanc, Franz Kappus, defnyddir y ffurf i drafod hanfodion y grefft o lenydda ac i gynnig cyngor. Enghraifft enwog yn y Gymraeg yw llythyrau Morrisiaid Môn (Lewis, Richard, William a John Morris); erys tua mil o’r llythyrau a anfonasant at ei gilydd ac at eraill, ac maent yn cynnig sylwebaeth ar fywyd diwylliannol a llenyddol y 18g. Yn yr un modd, cynigia gohebiaeth faith Kate Roberts a Saunders Lewis rhwng 1923 ac 1983 gip dadlennol ar fydolwg y ddau lenor ynghyd â hinsawdd wleidyddol a llenyddol Cymru yn ystod yr 20g.  
  
Yn aml defnyddir ffurf y llythyr mewn cyd-destun lled ffuglennol at bwrpas hyfforddi. Yn ‘Llythyr Martha Philopur at y Parchedig Philo Evangelius ei Hathro’ (1762) ac ‘Atteb Philo-Evangelius i Martha Philopur’ (1763) gan William Williams Pantycelyn, ceir gohebiaeth ffuglennol rhwng y ferch ifanc Martha a’i hathro yn trafod sut i ddehongli’r Beibl. Enghraifft gymharol gyfoes yn y Saesneg o ohebiaeth hyfforddiadol o’r fath yw ''Letters to Alice: On First Reading Jane Austen'' (1998) Fay Weldon sy’n darlunio gohebiaeth Modryb Fay a’i nith Alice ac ymgais y fodryb i ddysgu ei nith am nofelau Jane Austen.   
 
Ym maes ffuglen, ceir gweithiau epistolaidd sy’n defnyddio cyfrwng naratif y llythyr fel modd o gyfleu’r stori ac er mwyn darlunio’r berthynas rhwng gwahanol gymeriadau. Enghraifft amlwg yn y Gymraeg yw ''Ffarwel Weledig'' (1946) Cynan a ddefnyddia ffurf y llythyr i ddweud stori milwr o’r enw Gwilym Bowen sy’n gohebu â’i deulu. Defnyddir y dull epistolaidd hefyd gan Mihangel Morgan yn y stori ‘Cariad sy’n Aros yn Unig’ yn ''[[Tair]] Ochr y Geiniog'' (1996) [[lle]] ceir llythyrau sy’n cynnig sylwebaeth mewn modd chwareus ac ymwybodol iawn ar gyfyngiadau’r ffurf, e.e. ‘mae llythyron bob amser yn hwyr, yn rhy hwyr, felly rwyt ti’n darllen fy ngorffennol bob amser. Mae ar lythyron angen ''immediacy''. Mae llythyr yn annigonol, yn [[lle]]’r presenoldeb.’
+
Ym maes ffuglen, ceir gweithiau epistolaidd sy’n defnyddio cyfrwng naratif y llythyr fel modd o gyfleu’r stori ac er mwyn darlunio’r berthynas rhwng gwahanol gymeriadau. Enghraifft amlwg yn y Gymraeg yw ''Ffarwel Weledig'' (1946) Cynan a ddefnyddia ffurf y llythyr i ddweud stori milwr o’r enw Gwilym Bowen sy’n gohebu â’i deulu. Defnyddir y dull epistolaidd hefyd gan Mihangel Morgan yn y stori ‘Cariad sy’n Aros yn Unig’ yn ''Tair Ochr y Geiniog'' (1996) lle ceir llythyrau sy’n cynnig sylwebaeth mewn modd chwareus ac ymwybodol iawn ar gyfyngiadau’r ffurf, e.e. ‘mae llythyron bob amser yn hwyr, yn rhy hwyr, felly rwyt ti’n darllen fy ngorffennol bob amser. Mae ar lythyron angen ''immediacy''. Mae llythyr yn annigonol, yn [[lle]]’r presenoldeb.’
  
Yn ddiweddar gwelwyd arbrofi â ffurf y llythyr mewn gweithiau academaidd, [[lle]] ceir beirniadaeth lenyddol ar ffurf epistolau. Pwysleisia’r awdures Anne Bower ddefnyddioldeb y genre mewn astudiaethau beirniadol a honna fod y ffurf yn hyblyg ac yn caniatáu i drafodaeth fynd ar sawl trywydd gwahanol:
+
Yn ddiweddar gwelwyd arbrofi â ffurf y llythyr mewn gweithiau academaidd, lle ceir beirniadaeth lenyddol ar ffurf epistolau. Pwysleisia’r awdures Anne Bower ddefnyddioldeb y genre mewn astudiaethau beirniadol a honna fod y ffurf yn hyblyg ac yn caniatáu i drafodaeth fynd ar sawl trywydd gwahanol:
  
A major advantage of the letter form as a mode of personal criticism is its logical way of incorporating elements that so often result form the conditions that shape our lives: class, race, gender, ethnicity, sexual orientation and so on.  
 
Diwygiad 08:37, 6 Mehefin 2016

Darn o ryddiaith sy’n amlygu cyfathrebu uniongyrchol rhwng awdur a darllenydd neu griw o ddarllenwyr, ac sydd wedi ei leoli ar adeg benodol mewn amser.

Bu ffurf y llythyr yn arf beirniadol poblogaidd dros y canrifoedd i lenorion drafod pynciau athronyddol a llenyddol. Yn llythyrau enwog y bardd Rainer Maria Rilke at y llenor ifanc, Franz Kappus, defnyddir y ffurf i drafod hanfodion y grefft o lenydda ac i gynnig cyngor. Enghraifft enwog yn y Gymraeg yw llythyrau Morrisiaid Môn (Lewis, Richard, William a John Morris); erys tua mil o’r llythyrau a anfonasant at ei gilydd ac at eraill, ac maent yn cynnig sylwebaeth ar fywyd diwylliannol a llenyddol y 18g. Yn yr un modd, cynigia gohebiaeth faith Kate Roberts a Saunders Lewis rhwng 1923 ac 1983 gip dadlennol ar fydolwg y ddau lenor ynghyd â hinsawdd wleidyddol a llenyddol Cymru yn ystod yr 20g.

Yn aml defnyddir ffurf y llythyr mewn cyd-destun lled ffuglennol at bwrpas hyfforddi. Yn ‘Llythyr Martha Philopur at y Parchedig Philo Evangelius ei Hathro’ (1762) ac ‘Atteb Philo-Evangelius i Martha Philopur’ (1763) gan William Williams Pantycelyn, ceir gohebiaeth ffuglennol rhwng y ferch ifanc Martha a’i hathro yn trafod sut i ddehongli’r Beibl. Enghraifft gymharol gyfoes yn y Saesneg o ohebiaeth hyfforddiadol o’r fath yw Letters to Alice: On First Reading Jane Austen (1998) Fay Weldon sy’n darlunio gohebiaeth Modryb Fay a’i nith Alice ac ymgais y fodryb i ddysgu ei nith am nofelau Jane Austen.

Ym maes ffuglen, ceir gweithiau epistolaidd sy’n defnyddio cyfrwng naratif y llythyr fel modd o gyfleu’r stori ac er mwyn darlunio’r berthynas rhwng gwahanol gymeriadau. Enghraifft amlwg yn y Gymraeg yw Ffarwel Weledig (1946) Cynan a ddefnyddia ffurf y llythyr i ddweud stori milwr o’r enw Gwilym Bowen sy’n gohebu â’i deulu. Defnyddir y dull epistolaidd hefyd gan Mihangel Morgan yn y stori ‘Cariad sy’n Aros yn Unig’ yn Tair Ochr y Geiniog (1996) lle ceir llythyrau sy’n cynnig sylwebaeth mewn modd chwareus ac ymwybodol iawn ar gyfyngiadau’r ffurf, e.e. ‘mae llythyron bob amser yn hwyr, yn rhy hwyr, felly rwyt ti’n darllen fy ngorffennol bob amser. Mae ar lythyron angen immediacy. Mae llythyr yn annigonol, yn lle’r presenoldeb.’

Yn ddiweddar gwelwyd arbrofi â ffurf y llythyr mewn gweithiau academaidd, lle ceir beirniadaeth lenyddol ar ffurf epistolau. Pwysleisia’r awdures Anne Bower ddefnyddioldeb y genre mewn astudiaethau beirniadol a honna fod y ffurf yn hyblyg ac yn caniatáu i drafodaeth fynd ar sawl trywydd gwahanol:

A major advantage of the letter form as a mode of personal criticism is its logical way of incorporating elements that so often result form the conditions that shape our lives: class, race, gender, ethnicity, sexual orientation and so on.

Yn Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr Rhiannon Marks (2013), defnyddir ffurf y llythyr i gyflwyno sylwebaeth feirniadol ar waith y bardd Menna Elfyn.

Rhiannon Marks

Llyfryddiaeth

Bower, A. (1997), Epistolary Responses (Tuscaloosa: The University of Alabama Press).

Ifans, D. (1992), Annwyl Kate, Annwyl Saunders: Gohebiaeth 1923-1983 (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Marks, Rh. (2013), Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr: Golwg ar Waith Menna Elfyn (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Morgan, M. (1996), Tair Ochr y Geiniog (Llandysul: Gwasg Gomer).

Weldon, F. (1998), Letters to Alice: On First Reading Jane Austen (Cambridge: Cambridge University Press).

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.