Luff, Enid (g.1935)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae’r gyfansoddwraig Enid Luff, a aned yng Nglynebwy, wedi bod yn gynhyrchiol am gyfnod o dros ddeugain mlynedd. Astudiodd ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yna cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd gyda MMus. Astudiodd gyfansoddi ym Mangor a hefyd gydag Elizabeth Lutyens (1906-83) ac Anthony Payne (g.1936) yn Llundain a Franco Donatoni (1927-2000) yn yr Eidal.

Mae ei llais cerddorol yn aml yn fyfyriol a thawel, ac yn cwmpasu ystod eang o emosiwn. Llwyddodd i ddyfalbarhau gyda’i gwaith creadigol tra oedd yn magu teulu, a gellir dadlau bod gogwydd fenywaidd yn ei gwaith ar brydiau, yn y crefftwaith sicr, y sensitifrwydd a’r teimladrwydd. Yn 2000 hi oedd un o sefydlwyr Cyfansoddwyr Cymru a gwnaeth lawer i hybu gweithgaredd y mudiad newydd.

Mae ei meddylfryd yn un agored ac eclectig, gan ddangos ymwybyddiaeth lwyr o’r cyfoes. Mae ei cherddoriaeth yn reddfol ond hefyd yn dechnegol gywrain, nad yw’n syndod o ystyried y rhai a’i dysgodd. Mae ei harddull gerddorol yn cwmpasu cyfresiaeth (neu o leiaf awgrym o hynny), canolbwyntiau cyweiraidd o bryd i’w gilydd ynghyd â’r gallu i greu cerddoriaeth siambr sgwrsiol. Darn myfyrgar yw Sleep, Sleep, February (1989) ar gyfer ffliwt, obo, clarinet a thelyn, a cheir elfen arbrofol yn The Glass Wall (1992) ar gyfer tri o ddawnswyr, cello a thâp electronig (adlais o waith ei hathrawes Lutyens efallai) a oedd yn gomisiwn gan y Feeney Trust yn Birmingham.

Ymhlith ei gweithiau comisiwn eraill y mae’r sonata Storm Tide (1986) ar gyfer y pianydd Peter Lawson, sy’n gyfanwaith deniadol ac idiomatig. Yn ‘... trees dropped forth pearls ...’, gwaith ar gyfer gitâr acwstig sy’n seiliedig ar eiriau gan y bardd William Drummond o’r 17g. (‘That zephyr every year …’), mae’r gerddoriaeth yn dal sensitifrwydd telynegol y gerdd am gariad a cholled gan orffen gydag awgrym o gloch angladd. Mae gweithiau mwy diweddar fel ‘... the horror of war and the pity of it ...’, y darn siambr From Switzerland a’r darn cerddorfaol A Crack of Winter oll yn arddangos meddylfryd cyson ymchwilgar y gyfansoddwraig.

Bu Cymru yn ffodus yn ei chyfansoddwyr benywaidd ac yn eu plith mae lle teilwng iawn i lais tawel, diymhongar Enid Luff.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth ddethol

  • Archif a recordiau Tŷ Cerdd



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.