Maffia Mr Huws

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ffurfiodd Maffia Mr Huws (neu ‘Maffia’ i nifer) yn ardal Bethesda yn 1981, a daethant yn un o grwpiau roc mwyaf poblogaidd Cymru yn ystod yr 1980au. Yr aelodau gwreiddiol oedd y brodyr Siôn a Gwyn Jones (gitâr flaen a drymiau) a Deiniol Morris (gitâr fas), gynt o’r grŵp ysgol Weiran Bigog, a’r canwr Hefin Huws. Daeth y band i amlygrwydd yn ystod 1982 ar ôl cyfnod o gigio cyson ac yn dilyn recordio’r gân ‘Ffrindiau’ ar gyfer y rhaglen radio Sosban. Roedd sengl gyntaf y grŵp ar label Fflach yn 1982 yn rhagflas clir o’r hyn a oedd i ddod – cyfuniad o roc pwerus ‘Gitâr yn y To’ ynghyd â reggae hwylus, ffwrdd-â-hi ‘Reggae Racs’, gyda’r cynhyrchydd Richard Morris wrth y llyw (gŵr a fu’n gweithio gyda bandiau megis Ail Symudiad a Crys).

Yn 1983 rhyddhaodd y band EP pedair cân o’r enw ‘Hysbysebion’ ar eu liwt eu hunain (ariannwyd y record trwy osod hysbysebion gan siopau a busnesau ar y clawr), ac yn sgil llwyddiant yr EP aeth y band i Stiwdio Sain i recordio eu record hir gyntaf, Yr Ochor Arall (Sain, 1983). Parhaodd y band i berfformio’n gyson ledled Cymru, gyda’r gitarydd a’r lleisydd Neil Williams erbyn hyn yn aelod (aeth Hefin Huws i Lundain am gyfnod gan ddychwelyd yn 1986 i recordio’r sengl boblogaidd ‘Dawns y Dail’ gyda’r grŵp pop Llwybr Cyhoeddus cyn dilyn gyrfa amrywiol fel artist unigol a drymiwr i’r grŵp roc-gwerin Bob Delyn a'r Ebillion).

Perthynai gonestrwydd a diffuantrwydd ffres i Maffia, ac yn wahanol i nifer o fandiau ‘coleg’, rhoddai’r aelodau eu holl egni, arian ac ymdrechion i ddatblygu a hyrwyddo’r grŵp, gan fyw mewn bwthyn ym Methesda am gyfnod. Cynyddodd eu dilyniant yn sgil egni ac arddeliad eu perfformiadau byw, nodweddion sy’n amlwg ar ail ochr eu hail record hir, Da Ni’m Yn Rhan O’th Gêm Fach Di - recordiad ohonynt yn perfformio yng Ngŵyl Pesda Roc yn 1984. Roedd cân eponymaidd ar ochr gyntaf y record - beirniadaeth lem ar bolisi tramor gweinyddiaeth arlywydd America ar y pryd, Ronald Reagan - hefyd yn brawf eu bod yn barod i ganu caneuon ‘gwleidyddol’ o bryd i’w gilydd, ac roedd ‘Halen ar y Briw’ yn deyrnged i’r rhai a fu’n rhan o streic fawr chwarel y Penrhyn (1900-3).

Bu’r grŵp yn fuddugol ddwy flynedd yn olynol yn 1983 ac 1984 fel Prif Grŵp Roc Cymru yn nosweithiau gwobrwyo’r cylchgrawn pop Sgrech, ynghyd ag ennill gwobr am y record orau yn 1983. Aeth y band i gyfeiriad mwy masnachol yn 1985 a chlywid synths yr allweddellydd Alan Edwards am y tro cyntaf ar eu hail sengl ‘Newyddion Heddiw’/‘Nid Diwedd y Gân’ (Sain, 1985).

Flwyddyn yn ddiweddarach daeth cynnig i gydweithio, cydrecordio a theithio gyda Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, un o arwyr pennaf y grŵp. Canlyniad y cydweithio oedd casét EP Taith y Carcharorion. Yn fuan wedyn cydgynhyrchodd Jarman raglen ddogfen am hanes y band o’r enw Awe ’Fo’r Micsar (S4C, 1986). Cafodd nifer o ganeuon newydd ar gyfer y rhaglen eu rhyddhau dan yr un teitl yn 1987, ond daeth trasiedi pan laddwyd Alan Edwards mewn damwain car tra oedd y band ar daith yn Llydaw.

Dychwelodd Maffia i Fethesda i stiwdio Les Morrison (un a fu’n gysylltiedig â’r band o’r dechrau) i recordio Twthpêst Ozone Ffrendli, ond roedd poblogrwydd y band ar drai erbyn hyn. Erbyn dechrau’r 1990au roedd y gitarydd bas Deiniol Morris wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac yn gweithio ar y gyfres animeiddiedig boblogaidd Gogs (HTV); chwaraeai’r gitarydd Siôn Jones gyda’r Anhrefn a’r band ffync-reggae Y Jecsyn Ffeif, a pherfformiai ei frawd Gwyn ar y drymiau gyda nifer o grwpiau ac artistiaid, gan gynnwys Siân James, Geraint Jarman a Tich Gwilym.

Ers yr 1990au ailffurfiodd y band ar gyfer gwahanol achlysuron gan berfformio yng Ngŵyl y Faenol yn 2000 a 2008, mewn eisteddfodau, a hefyd, yn dilyn marwolaeth eu ffrind agos, y cerddor Les Morrison, yn Pesda Roc 2011.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • ‘Gitâr yn y To’/‘Reggae Racs’ [sengl] (Fflach 0013, 1982)
  • Hysbysebion [EP] (Pesda Roc R001, 1983)
  • Yr Ochor Arall (Sain 1286/C886, 1983)
  • Da Ni’m Yn Rhan O’th Gêm Fach Di (Sain 1307A/C907, 1990)
  • ‘Nid Diwedd y Gân’/‘Newyddion Heddiw’ [sengl] (Sain 115S, 1985)
  • [gyda Geraint Jarman] Taith y Carcharorion (Sain C963B, 1986)
  • Awe ’Fo’r Micsar (S4C, 1987)
  • Twthpêst Ozone Ffrendli (1989)

Casgliad:

  • Croniclau’r Bwthyn (Goreuon Maffia Mr Huws) (Sain SCD2553, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.