Mandamws

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Yn llythrennol golyga hyn ‘rydym yn gorchymyn’.

Yn wreiddiol, gwŷs llys ydoedd ond erbyn hyn y mae’n orchymyn uchelfraint [prerogative order] Llys Adrannol Mainc y Frenhines [Queen’s Bench Divisional Court] sydd yn gorchymyn person, corff neu lys is i berfformio dyletswydd gyhoeddus.

Dan Ddeddf yr Uchel Lys a Rheolau’r Uchel Lys, Gorchymyn 53, mae mandamws yn un o’r rhwymedi lle mae person wedi ei dramgwyddo yn cael cyfiawnder drwy broses arolwg barnwrol.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://legal-dictionary.thefreedictionary.com/mandamus

The Glossary of Property Terms, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 119



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.