Mapio Llifogydd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:22, 13 Awst 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: flood mapping)

Mae modd mapio llifogydd o amryw o ffynonellau megis dŵr wyneb, dŵr daear, afonydd, nentydd, dŵr arfordirol, llynnoedd a chronfeydd dŵr. Gyda chynifer o ffynonellau llifogydd mae’n bwysig llunio mapiau llifogydd dealladwy a chlir. Datblygwyd cylchfaoedd llifogydd i gynorthwyo cynllunwyr a’r cyhoedd ond ni ddylid eu hystyried yn gofnod terfynol.

Mae meddalwedd systemau gwybodaeth ddaearyddol (Geographical Information Systems) megis ArcGIS a MapInfo yn galluogi daearyddwyr i weld canlyniadau’r model gan greu mapiau o lifogydd ar raddfeydd gwahanol megis llifogydd sydd â thebygolrwydd blynyddol o 0.1% neu 1% o ddigwydd. Mae tebygolrwydd blynyddol yn ddull o ddangos y tebygolrwydd y bydd llifogydd o raddfeydd gwahanol yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn. Felly mae llifogydd sydd â thebygolrwydd blynyddol o 0.1% yn dynodi bod llifogydd o’r maint hwn a llifogydd mwy, â 0.1% siawns o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn. Gellir cyflwyno canlyniadau’r model mewn amryw o ffyrdd megis mapiau dyfnder llifogydd, ymlediad llifogydd, perygl o lifogydd a chyflymder y llif. Wrth gyflwyno’r canlyniadau gellir eu cyfuno gyda mapiau’r Arolwg Ordnans er mwyn gweld yn fanwl lle mae llifogydd yn bosibl o ddigwydd. Gellir hefyd greu animeiddiadau sy’n dangos y canlyniadau dros amser (e.e. dyfnder llifogydd ar wyneb tir y model). Felly, yn hytrach na gweld amlinelliad eithaf y llifogydd yn unig mae modd creu animeiddiadau sy’n dangos amlinelliad y llifogydd ar ddechrau, canol a diwedd y cyfnod gorlifo. Gellir cyfuno’r canlyniadau gyda meddalwedd 3D megis Google Earth sy’n eich galluogi i ‘hedfan’ uwchben y llifogydd gan fanylu ar rai mannau penodol.

Pwrpas mapiau llifogydd yw eu bod yn ddull dealladwy o gyflwyno canlyniadau model perygl o lifogydd er mwyn cyfleu i gynllunwyr a’r cyhoedd beth yw lefel y perygl i ardal benodol. Yn aml, bydd y mapiau yn sail ar gyfer cynllunio gwaith atal llifogydd neu i adeiladu isadeiledd megis ffyrdd, pontydd a thai preswyl ac felly mae’n bwysig bod y mapiau yn glir a hunanesboniadol.

Mae’r mwyafrif o amlinelliadau llifogydd afonol sydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd wedi deillio o fodelau cyfrifiadurol cyffredinol jflow, sy’n fras ddull o fodelu. Mae diweddariadau mapiau llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn disodli canlyniadau’r model jflow gan fod yr astudiaethau hyn yn cynnwys gwaith ymchwil hydrolegol o safon uchel, croestoriadau afonol wedi’u harolygu a modelu cywirach. Mae’r mapiau hyn yn cyflwyno gwahanol raddau'r perygl o lifogydd drwy gylchfaoedd, sef 1, 2, 3a a 3b, sy’n seiliedig ar y diffiniadau a geir yn PPS 25. Yng nghylchfa llifogydd 1 mae’r ardaloedd sydd â thebygolrwydd blynyddol isel o lifogydd sef llai na 0.1%. Dengys cylchfa llifogydd 2 yr ardaloedd o dir sydd â 0.1% neu fwy o debygolrwydd blynyddol bod llifogydd o afonydd neu’r môr am ddigwydd ond sydd â llai na 1% o debygolrwydd blynyddol bod llifogydd o afonydd neu 0.5% o’r môr am ddigwydd. Cynrychiola cylchfa llifogydd 3a yr ardaloedd o dir sydd â 1.0% neu fwy o debygolrwydd blynyddol bod llifogydd o afonydd a 0.5% neu fwy o’r môr am ddigwydd. Yng nghylchfa llifogydd 3b mae’r ardaloedd sydd â 5% neu fwy o debygolrwydd bod llifogydd am ddigwydd (gelwir yr ardaloedd hyn hefyd yn orlifdir gweithredol).

Er bod y mapiau presennol yn dangos y sefyllfa “heb amddiffynfeydd”, mewn rhai mannau detholedig, dangosa’r mapiau llifogydd yr “ardaloedd sydd ar eu hennill oherwydd amddiffynfeydd” (areas benefiting from defences). Dyma’r ardaloedd lle mae’r amddiffynfeydd yn atal llifogydd, er y dybiaeth yw bod yr amddiffynfeydd yn gadarn, heb dyllau a’u bod yn cael eu cynnal a’u cadw, ond nid yw hyn o angenrheidrwydd yn wir bob amser.

Llyfryddiaeth

  • Department for Communities and Local Government. (2010) Planning Policy Statement 25: Development and Flood Risk (PPS 25), The Stationery Office, Llundain.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.