Matthews, Cerys (g.1969)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores o Gaerdydd yw Cerys Matthews. Treuliodd ran o’i phlentyndod yn y ddinas honno yn ogystal ag yn Abertawe. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol St Michael’s yn Llanelli ac yna yn Ysgol Bryanston yn Dorset. Daeth i’r amlwg fel cantores roc a phop yn ystod yr 1990au gyda’r grŵp llwyddiannus Catatonia, ond daeth yn enwog yn ei thro fel cantores unigol hefyd.

Yn ystod ei chyfnod gyda Catatonia bu iddi gydweithio ag ambell artist arall fel Space (ar y gân ‘The Ballad of Tom Jones’) a chyda Tom Jones ei hun ar y sengl Nadoligaidd ‘Baby It’s Cold Outside’. Ymddangosodd hefyd ar brif lwyfan Glastonbury gyda’r Pet Shop Boys yn 2000 gan ganu deuawd o’u cân ‘What Have I Done to Deserve This’.

Ar ôl i Catatonia chwalu yn 2001 aeth ati i gychwyn gyrfa fel cantores unigol, gan symud i Nashville, Tennessee, yn 2002, a chanolbwyntio ar ganeuon gwerin-gwlad. Bu bwriad i greu albwm cyfan ohonynt, ond yn hytrach esblygodd Cockahoop (Blanco y Negro, 2003) i fod yn albwm mwy gwreiddiol, gan ddefnyddio’r genre a’i idiomau cerddorol fel sail. Ar ôl cyflawni prosiectau amrywiol yn Nashville ac ymddangos ar deledu Prydeinig ar raglenni fel I’m a Celebrity... Get Me Out of Here (ITV), penderfynodd y gantores ddychwelyd i Gymru ar drothwy rhyddhau EP uniaith Gymraeg, Awyren = Aeroplane (My Kung Fu, 2007). Ers 2008 bu’n cyflwyno sioe wythnosol ar orsaf radio BBC 6 Music, a bu’n cyflwyno rhaglenni dogfen cerddorol amrywiol ar yr orsaf hefyd.

Bu gan Cerys Matthews ddiddordeb mawr mewn canu gwerin Cymraeg ers ei phlentyndod. Rhyddhaodd albwm o ganeuon traddodiadol, sef Tir (2010), a hynny ar ei label personol Rainbow City. Mae’r albwm yn cynnwys llawer o ganeuon traddodiadol adnabyddus, yn eu plith ddeuawd o’r gân ‘Migldi Magldi’ gyda Bryn Terfel. Chwaraeodd Matthews ran amlwg hefyd yng ngŵyl gerddoriaeth byd WOMEX a ddaeth i Gaerdydd yn 2013.

O’r 1990au ymlaen, felly, llwyddodd i bontio llawer o genres gwahanol a hynny fel cantores flaen, cantores unigol a darlledydd. Mae ei llais ysgafn, amrwd, yn nodweddu ei cherddoriaeth, ac yn ei gynnig ei hun ar gyfer amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol.

Yn ôl rhai ysgolheigion, derbyniodd delwedd Cerys Matthews ormod o sylw gan y wasg bop a roc, a hynny ar draul ei gallu cerddorol (Davies 2001). Diau fod hynny’n wir am ei chyfnod fel cantores gyda Catatonia wrth i gwmni recordio’r grŵp geisio hyrwyddo ei delwedd er mwyn ymestyn poblogrwydd ac apêl y band. Fodd bynnag, gellir dadlau hefyd ei bod wedi cefnu ar ddelwedd y ‘seren bop’ yn ei gyrfa unigol, gan ei hailddyfeisio’i hun fel cantores werin ei natur. Amlygir hyn yn ei phenderfyniad i ailddehongli caneuon gwerin ac emynau Cymraeg, megis ei threfniant o’r emyn-dôn ‘Arglwydd, Dyma Fi’ ar Cockahoop.

Gethin Griffiths

Disgyddiaeth (gw. hefyd ddisgyddiaeth Catatonia)

  • Cockahoop (Blanco y Negro 2564-60306-2, 2003)
  • Never Said Goodbye (Rough Trade RTRADCD227, 2006)
  • Awyren = Aeroplane (My Kung Fu mykungfu030, 2007)
  • Don’t Look Down (Rainbow City Recordings RCMCD001, 2009)
  • Tir (Rainbow City Recordings RCMCD005, 2010)
  • Explorer (Rainbow City Recordings RCMCD006, 2011)
  • Baby It’s Cold Outside (Rainbow City Recordings RWMCDG007, 2012)
  • Hullabaloo (Rainbow City Recordings RCMCD008, 2013)

Llyfryddiaeth

  • David Owens, Cerys, Catatonia and the Rise of Welsh Pop (Llundain, 1999)
  • Helen Davies, ‘All Rock and Roll Is Homosocial: The Representation of Women in the British Rock Music Press Author’, Popular Music, 20/3 (2001), 301–319



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.