Megàne, Leila (1891-1960)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Margaret Jones oedd enw bedydd y gantores a dyfodd i fod yn un o oreuon ei chyfnod. Fe’i ganed ym Methesda yn un o ddeg o blant a derbyniodd ei haddysg gynnar ym Mhwllheli wedi i’r teulu symud yno yn 1894. Collodd ei mam pan oedd yn saith oed ond bu ei thad yn hynod gefnogol iddi yn ei hymdrech i ddod yn gantores.

Enillodd ar yr unawd contralto agored yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1910 ac yn fuan wedyn aeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yno, daeth yn amlwg yng nghylchoedd Cymry Llundain gan ddod i adnabod nifer o’r rhai mwyaf blaenllaw, megis Lloyd George a’i deulu. Yn dilyn hynny bu’n fyfyrwraig ym Mharis gan astudio gyda’r enwog Jean de Reszke. Ef a awgrymodd ei bod yn newid ei henw i Leila Megàne ac ef hefyd a osododd sylfaen ei thechneg, yn enwedig mewn repertoire Ffrengig ac yn arbennig felly Massenet. Canodd Megàne yn yr Opéra Comique ym Mharis a bu’n difyrru milwyr clwyfedig adeg y Rhyfel Mawr gan ddenu sylw gwleidyddion amlwg fel Churchill a Bonar Law. Bu’n canu am flynyddoedd maith ym Mharis a Monte Carlo ac o 1919 yn Covent Garden, Llundain, hefyd. Yno, daeth i’r amlwg am ei dehongliad o Thérèse Massenet ac ymddangosodd yn ogystal yn Neuadd Aeolian a Neuadd y Frenhines dan arweiniad Syr Henry Wood.

Teithiodd Leila Megàne yn helaeth yn Ewrop gan ganu yn La Scala, Milan, a chyn belled â Mosgo. Yn 1923 ymddangosodd am y tro cyntaf yn y Metropolitan, Efrog Newydd, gan wneud argraff fawr. Y flwyddyn ddilynol priododd â’r cyfeilydd- gyfansoddwr T. Osborne Roberts a hi a recordiodd nifer o’i unawdau poblogaidd megis ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Nefoedd’ a ‘Cymru Annwyl’. Cartrefodd y ddau ym Mhentrefoelas ac ymddeolodd Megàne o ganu proffesiynol yn 1939 ar drothwy’r rhyfel. Wedi marwolaeth ei gŵr priododd ag un o’i chyfoedion sef William John Hughes a bu hithau farw’n ddisymwth yn gynnar ym mis Ionawr 1960.

Mae’r hyn a recordiwyd ganddi’n tystio i lais cyfoethog - mae’r sain gynnes, hudolus ar ei gorau yn nodweddiadol o leisio’r cyfnod – a geirio hynod eglur. Roedd ei haddysg estynedig fel cantores yn sicrhau nid yn unig dechneg gadarn ond ymwybyddiaeth fyw o fanylion cerddorol ac roedd ganddi hefyd ddawn i ddehongli’n ddramatig. Recordiodd lawer gan gynnwys repertoire Gymreig, Ffrengig a Seisnig, a chanddi hi y cafwyd un o’r dehongliadau gorau o Sea Pictures Elgar, o dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun. Manteisiodd amryw ar yr ysgoloriaeth a sefydlwyd yn ei henw yn yr Academi Gerdd Frenhinol ar gyfer cantorion o Gymru.

Lyn Davies

Disgyddiaeth

  • Leila Megàne (Sain SCD 2316, 2001)

Llyfryddiaeth

  • Megan Lloyd Ellis, Hyfrydlais Leila Megàne (Llandysul, 1979)
  • Ilid Jones, Leila Megàne 1891–1960 (Llanrwst, 2001)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.