Meic Povey (Archif Ddrama Radio)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Proffil

Meic Povey
  • Enw: Meic Povey
  • Geni: 1950
  • Cefndir Teuluol: Fe’i magwyd yn Nant Gwynant, Eryri tan yn un ar ddeg oed pryd symudodd y teulu i fyw i Garndolbenmaen.
  • Addysg: Ysgol Nant Gwynant
Ysgol Garndolbenmaen
Ysgol Uwchradd Porthmadog
  • Gwaith: Yn bymtheg oed, fe adawodd yr ysgol i weithio am ddwy flynedd fel clerc o fewn swyddfa cyfreithwyr yng Nghricieth.
Yn 1968, ymunodd â Chwmni Theatr Cymru a bu’n teithio gyda’r cwmni am dair blynedd yn gweithio ar amryw o brosiectau hyd nes iddo symud i Gaerdydd yn 1971.
Rhwng 1974–1977, gweithiodd i’r BBC fel golygydd sgriptiau o dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry, a oedd yn gyfrifol am lunio cyfresi cyntaf Pobol y Cwm. Nid fel dramodydd yn unig y daeth Meic Povey i amlygrwydd, ond fel actor. Ymddangosodd ar y gyfres i deledu rhwydwaith Minder rhwng 1982 a 1989. Yn Y Gymraeg ymddangosodd ar nifer o gynhyrchiadau, yn eu plith Sul y Blodau yn 1986 ac Yr Enwog Wmffre Hargwyn yn 1992.
  • Gwraig a Phlant: Priododd â’i wraig Gwenda yn 1985.
Unig ferch – Catrin Powell (Actores).
  • Digwyddiadau pwysig
    • 1991: Enillodd wobr Bafta Cymru am y sgript orau am ei ffilm Nel.
    • 2005: Enillodd wobr Bafta Cymru am y gyfres deledu Talcen Caled.
  • Dramâu: Wyneb yn Wyneb (1993), Perthyn (1994), Yn Debyg Iawn i Ti a Fi (1995), Fel Anifail (1995), Bonansa (1997), Tair (1998), Yr Hen Blant (1999), Diwedd Y Byd (1999), Indian Country (2003), Life of Ryan...and Ronnie (2005), Hen Bobl Mewn Ceir (2006), Tyner yw’r Lleuad Heno (2009)
  • Ffilm/Teledu: Pobol y Cwm, Talcen Caled, Taff Acre (HTV), Nel, Yr Heliwr, Sul y Blodau

O’ch Chi’n Gwybod...???

  • Treuliodd dair blynedd yn y 70au fel golygydd sgriptiau o dan adain Gwenlyn Parry, a fu’n ddylanwad mawr arno wrth iddynt gydweithio ar y cyfresi cyntaf o Pobol y Cwm.
  • Heb os, mae Meic yn cael ei ystyried yn un o ddramodwyr gorau Cymru gyda Sul y Blodau a Nel yn cael eu hystyried yn uchafbwyntiau arlwy dramâu teledu Cymraeg.
  • Yn ei yrfa fel actio, mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn chwarae DC ‘Taff’ Jones yn y gyfres deledu rhwydwaith Minder rhwng 1982 a 1989 (ITV).
  • Mae Meic bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers bron i ddeugain mlynedd, ond mynd nôl i’w fagwraeth yn Nant Gwynant ger Beddgelert a wna am syniadau ac ysbrydoliaeth.
  • Derbyniodd rôl actio fel gyrrwr ar y gyfres boblogaidd Dr Who yn 2005. The Unquiet Dead oedd enw’r episod.
  • Yn un o ddeg o blant.
Llyfryddiaeth
Archifau Cymru. (2008) Papurau Meic Povey