Meirion, Rhys (g.1966)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:45, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Tenor operatig poblogaidd a aned yn Nhremadog ac sydd wedi ymsefydlu yn Sir Ddinbych. Daw o deulu cerddorol ac roedd ei dad yn aelod o Gôr Meibion Dwyfor. Gwnaeth ei farc ym myd addysg yn gyntaf gan dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, a dod yn bennaeth ar Ysgol Pentrecelyn, Rhuthun, yn ddim ond 26 oed.

Pan y’i gorfodwyd gan anaf i roi’r gorau i chwarae rygbi, trodd ei egni tuag at ganu. Enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo yn 1996 ac Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts y flwyddyn ddilynol yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Y flwyddyn honno rhoddodd y gorau i addysgu a chofrestru ar gwrs opera Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain. Ymunodd ag Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1999, gan ddod yn brif ganwr y cwmni o fewn dwy flynedd. Yn Llundain, bu’n perfformio nifer o’r rhannau mawr operatig ar gyfer tenor, yn amrywio o Mozart a Donizetti i Wagner, Puccini, Strauss a Shostakovich. Ers hynny bu’n canu gydag Opera Australia ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae i’w weld yn aml fel unawdydd ar y llwyfan oratorio, ac yn wyneb cyfarwydd iawn ar deledu, yn enwedig yn sgil ei gyfres boblogaidd Deuawdau Rhys Meirion ar S4C.

Rhyddhaodd ei CD eponymaidd gyntaf yn 2001 ar label Sain. Dilynwyd hyn gan chwe chasgliad arall, gan gynnwys albwm o ddeuawdau gyda’i gyfaill y bariton Bryn Terfel o’r enw Benedictus (Sain, 2005). Enwebwyd yr albwm ar gyfer gwobr Classical Brit yn 2006.

Cychwynnodd pennod newydd yng ngyrfa Rhys yn 2012 pan gwblhaodd ei daith gerdded gyntaf trwy Gymru er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Aeth ar ddwy daith gerdded arall trwy’r wlad yn 2013 a 2014 gan godi cyfanswm o tua £400,000 i’r elusen.

Chris Collins

Disgyddiaeth

  • Rhys Meirion (Sain SCD2272, 2001)
  • [gyda Bryn Terfel] Benedictus (Sain SCD2500, 2005)
  • Celticae (Sain SCD2490, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.