Meurig, Cass

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cafodd Cassandra Lucy Meurig addysg gerddorol eang gan dderbyn hyfforddiant clasurol ar y ffidil, feiola a’r piano. Tra’n astudio ym Mhrifysgol Bangor arbenigodd mewn cerddoriaeth werin gan gwblhau astudiaeth PhD yn 2001 ar lawysgrif John Thomas o 1752 o gerddoriaeth ar gyfer y ffidil yn ystod y 18g. Cyhoeddodd hefyd ar ddawnsfeydd traddodiadol yng Nghymru (gw. Meurig 2007). Bu’n chwarae’r ffidil mewn nifer o grwpiau gwerin, gan gynnwys Pigyn Clust a Fernhill (2000–4). Tra’n cwblhau ei gwaith ymchwil PhD dechreuodd ymddiddori yn y Crwth, gan ryddhau record hir o gerddoriaeth ar gyfer yr offeryn ar label Fflach Tradd yn 2004. Ers hynny bu’n perfformio a chydweithio gyda’r gwneuthurwr ffidlau o Ddinorwig, Nial Cain, gan ryddhau dwy record hir.

Disgyddiaeth

  • Crwth (Fflach Tradd CD272H, 2004)
  • [gyda Nial Cain] Deuawd (Fflach Tradd CD323H, 2009)
  • [gyda Nial Cain] Oes i Oes (2012)

Llyfryddiaeth

  • Cass Meurig, ‘Composing Traditional Music’, yn Sally Harper a Wyn Thomas (goln.) Cynheiliaid y Gân: Ysgrifau i Anrhydeddu Phyllis Kinney a Meredydd Evans (Caerdydd, 2007), 240–50



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.