Miles, Bethan

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:52, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor a cherddolegydd. Cwblhaodd ei thraethawd MA ar ‘Swyddogaeth a Chelfyddyd y Crythor’ ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1983. Gan ymddiddori yn bennaf ym maes cerddoriaeth gynnar (yn arbennig o gyfnod y Tuduriaid), cyhoeddodd erthyglau yn yr Archaeological Journal ynghyd â chyfrannu erthyglau ar ‘Robert ap Huw’ a’r ‘Crwth’ yn yr Oxford Dictionary of National Biography a’r New Grove Dictionary of Music and Musicians. Bu’n aelod o’r grŵp gwerin-roc Bob Delyn a'r Ebillion.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.