Moniars, Y

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Y (gw. hefyd Wyn, Arfon)

Grŵp roc-gwerin hwyliog o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn bennaf am eu perfformiadau byw egnïol yn ystod yr 1990au a degawd cyntaf yr 21g. Ffurfiwyd y band yn 1990 gan Arfon Wyn (prif lais, gitâr) ac Einion Williams (congas, bongos a bodhran), dau o aelodau’r grŵp gwerin-roc blaengar Pererin.

Ar wahân i Arfon, Einion a Richard Synnott (sacsoffon), bu aelodaeth y band yn gymharol hyblyg dros y blynyddoedd, gan gynnwys cerddorion megis Barry Evans (llais cefndir), Malcolm Budd ( ffidil, mandolin), Colin Roberts (gitâr fas), Brian Griffiths (drymiau), Siôn Llwyd (gitâr fas, piano, synths), Nathan Owen (gitâr), Gwion Gwilym (gitâr fas) a Deian Elfryn (drymiau). Bu’r gantores Elin Fflur hefyd yn aelod, ynghyd â Sara Mai a Mared Ellis Huws.

Adeiladodd y band ddilyniant yn bennaf drwy berfformio’n gyson yn ystod yr 1990au, gan ddatblygu sain werin-roc egnïol tebyg i grwpiau Gwyddelig megis y Pogues. Roedd eu repertoire yn gyfuniad o ganeuon gwreiddiol Arfon Wyn ynghyd â threfniannau o ganeuon poblogaidd ac alawon traddodiadol o Gymru a thu hwnt, megis ‘Defaid William Morgan’, ‘Blaenau Ffestiniog’, a ‘Guantanamera’, gyda’r trefniannau yn amrywio o pync-gwerin i arddulliau reggae, cajun a Lladin-Americanaidd. Rhyddhaodd y band saith record hir, gyda chaneuon gorau’r ddwy record hir gyntaf, Fe Godwn Eto (Crai, 1992) ac I’r Carnifal (Crai, 1993), yn ymddangos ar y casgliad Y Gorau o Ddau Fyd (Crai, 1995). Clywid cyffro eu perfformiadau byw ar Hyd ’Noed Nain yn Dawnsio (Crai, 1995), oedd yn cynnwys ffefrynnau cân Richie Valens, ‘La Bamba’, a ‘Santiana’.

Rhoddwyd mwy o bwyslais ar faledi pop a chaneuon telynegol ar Harbwr Diogel (Sain, 2002), oedd yn cynnwys y gantores Elin Fflur, gyda’r gân a roddodd deitl i’r albym eisoes wedi ennill gwobr Cân i Gymru yn gynharach yn yr un flwyddyn. Gydag Elin Fflur yn dechrau gyrfa lwyddiannus fel cantores unigol, clywid llais y gantores o Gaernarfon, Sara Mai, ar yr albym Edrych Ymlaen at Edrych yn Ôl (Sain, 2005). Er i’r grŵp berfformio’n llai cyson yn ystod degawd cyntaf yr 21g., rhyddhawyd eu seithfed record hir, Cyn I’r Haul Fynd Lawr, yn 2015 i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r band.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Fe godwn eto (Crai C024A, 1992)
  • I’r carnifal (Crai C038,1993)
  • Hyd ’Noed Nain yn Dawnsio (Crai C052/CD052, 1995)
  • Methu Cadw Ni Lawr (Fflach CD208H, 1998)
  • Harbwr Diogel [gydag Elin Fflur] (Sain SCD2380, 2002)
  • Edrych Ymlaen At [gyda Sara Mai] (Sain SCD2435, 2005)
  • Cyn I’r Haul Fynd Lawr (Sain, 2015)

Casgliad:

  • Y Gorau o Ddau Fyd (Crai CD0451, 1995)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.