Monolog

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:29, 12 Medi 2018 gan RobertRhys (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio


Yn y theatr mae monolog yn gyflwyniad geiriol gan gymeriad unigol a ddefnyddir i fynegi ei feddyliau a'i syniadau. Mae’r cymeriad yn siarad ar ei ben ei hun, yn aml mewn araith weddol hir, ond fel dywed Nic Ros yn y rhagymadrodd i’r gyfrol Llais un yn Llefain: 'Nid yw’r monologydd ar ei ben ei hun yn llythrennol – mae ganddo gynulleidfa sy’n dystion i’w ing a’i unigrwydd. Gall yr unigolyn ar lwyfan fod yn fwy pwerus nag ensemble o berfformwyr y sefyllfa gwrthgyferbyniol hyn, sef ei fod ar ei ben ei hun, ac eto nid ydyw chwaith. Mae’r byd yr ydym yn ei weld yn un mwy preifat na mewn drama sawl perfformiwr am mai dim ond y ni sy’n dystion.'

Nid yw’r cymeriad yn disgwyl ateb. Yn hytrach, mae fel petai’n siarad ag ef ei hun er mwyn deall rhyw ddilema wrth i weddill y cymeriadau aros yn fud. Gall monolog ddigwydd yng nghanol drama neu gall y ddrama gyfan fod yn fonolog. Dadleua Glennis Byron fod y monolog yn gorfodi’r gynulleidfa i ddehongli o’r cychwyn cyntaf, am nad oes llais awdurol cryf i’w tywys ac felly i hwyluso’r profiad theatraidd.

Mae i’r monolog sawl diben arall hefyd: mae'r ffurf yn cynnig cyfle i gymeriad gyffesu, er enghraifft, a thrwy hyn mae’n helpu’r gynulleidfa i ddeall cymhelliad cymeriad. Dadleuodd Hannah Sams fod monolog Jiwdas yng ngolygfa 11 yn nrama Aled Jones Williams Iesu! yn enghraifft wych o hyn. Mae Aled Jones Williams yn ddramodydd sydd, mewn dramâu megis Anweledig, Sundance a rhai golygfeydd yn Iesu!, wedi dangos gallu’r cyfrwng hwn i hudo a dychryn cynulleidfa fel ei gilydd. Meddai’r dramodydd am y monolog: 'Gwrthdaro mewnol ydi o, a dweud y gwir yn onest. Pobl sy’n ymlafnio â nhw eu hunain. . . . Ymlafnio mewnol – yn fan’no mae’r gwrthdaro gen i. '

Y monolog mewnol

Defnyddir yr hyn a elwir yn fonolog mewnol fel techneg naratif mewn rhyddiaith hefyd. Mae’r monolog mewnol yn ddull a all ddatgelu meddyliau, teimladau a’r cysylltiadau sy’n rhedeg trwy feddwl cymeriad mewn testunau llenyddol.

Gellir rhannu'r monolog mewnol i ddau gategori: monolog mewnol uniongyrchol a monolog mewnol anuniongyrchol. Mewn monolog mewnol uniongyrchol, nid yw’r awdur yn dangos ei bresenoldeb ac mae gan y darllenydd fynediad uniongyrchol i feddyliau’r cymeriad. Mae'r meddyliau yma yn dod yn syth o feddwl y cymeriad ac nid oddi wrth yr adroddwr. Mae’r monolog mewnol anuniongyrchol hefyd yn adlewyrchu meddyliau'r cymeriad, ond mae’r meddyliau yma yn cael eu hadrodd gan ddetholydd neu sylwebydd sy’n arwain y darllenydd.

Dadleuwyd mai James Joyce sy’n cynnig yr enghraifft orau o fonolog mewnol uniongyrchol oherwydd ei ddefnydd ‘pur’ o’r dechneg. Yn 45 tudalen olaf Ulysses y mae’r awdur yn diflannu ac mae’r dweud yn cael ei adrodd yn y person cyntaf. Nid oes amser penodol i’r ferf, mae’n neidio o’r gorffennol i’r amherffaith i’r presennol i’r amodol ‘as Molly’s mind dictates’ – i ddyfynnu Robert Humphrey. O ran monolog mewnol uniongyrchol gellid crybwyll defnydd Flaubert o'r dechneg - style indirect libre - yn enwedig yn Madame Bovary.

Yn y Gymraeg, nofel a gymharwyd â gwaith James Joyce yw Un Nos Ola Leuad. Adroddir Un Nos Ola Leuad mewn dull naratif yng ngeiriau'r traethydd - heb unrhyw ddyfynodau. Mae’n arllwys y geiriau i’r dudalen fel petai’n arllwys ei feddwl hefyd. Adroddir y naratif fel stori lafar – defnyddir ymadroddion sgyrsiol megis ‘...ddaru fi’, ac ‘ac wedyn...’. Mae’r nofel gyfan yn gyfaddefiad, yn y person cyntaf, yn rhannu ei gyfrinachau mewnol â’r dudalen. Mae’r darllenydd yn dysgu am berthynas atgofion y mab â sefydlogrwydd meddwl yr oedolyn trwy eiriau’r traethydd, sef y bachgen sydd wedi tyfu’n ddyn. Mae geiriau Nic Ros yn addas yn yr achos hwn hefyd, er mai am y monolog mwy theatrig y mae ef yn sôn: ‘rydym y tu mewn i bennau’r cymeriadau hyn, yn clustfeinio ar sgyrsiau a dadleuon gyda nhw’u hunain, gan geisio olrhain llwybr synhwyrol drwy’r anhrefn meddyliol.’ Boed yn fonolog mewn nofel neu stori, neu’n fonolog a adroddir ar y llwyfan, dyna yw hanfod y monolog.

Catrin Heledd Richards

Llyfryddiaeth

Byron, G. (2003), Dramatic Monologue, Cyfres ‘New Critical Idiom’ (London: Routledge).

Egri, Lajos. (2004), The Art of Dramatic Writing (London: Touchstone, 2004).

Humphrey, R. (1954), Stream of Consciousness in the Modern Novel (Berkeley: University of California, 1954).

Joyce, J. (1933), Ulysses (Hamburg: Odyssey Press).

Ros, N. (2002), ‘Rhagymadrodd: ‘Siarad â’u Hunain’, yn Llais un yn Llefain: Monologau Cyfoes Cymraeg, gol. Ian Rowlands (Llanrwst: 2002).

Sams, H. (2017), 'Ffarwél i’r Absẃrd?: Agweddau ar y Theatr Gymraeg Gyfoes’ (Traethawd PhD anghyhoeddedig, Prifysgol Abertawe).

Williams, M. W. (2010), ‘Holi Aled Jones Williams’, Ysgrifau Beirniadol XXIX, gol. Gerwyn Wiliams (Dinbych: Gwasg Gee, 2010).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.