Mwyn, Rhys (g.1962)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Anhrefn)

Yn gerddor a gitarydd bas gyda’r grŵp pync roc, Anhrefn, bu Rhys Mwyn hefyd yn rheolwr ar label recordiau, yn hyrwyddwr nifer o artistiaid pop a roc, yn feirniad di-flewyn-ar-dafod ar y diwylliant Cymraeg a Chymreig, ac yn golofnydd dadleuol mewn nifer o gyhoeddiadau ers yr 1980au.

Ganed Gwynedd Rhys Thomas (Rhys Mwyn) yn yr Amwythig. Cafodd ei fagu yn Llanfair Caereinion. Astudiodd archeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, ond erbyn hynny roedd wedi dechrau ymddiddori mewn cerddoriaeth pync roc ac yn trefnu dawnsfeydd yn ardal Llanfair Caereinion gyda rhai o grwpiau pync mwyaf blaenllaw y cyfnod.

Wedi ei ddadrithio gan bolisi’r prif labeli recordiau yng Nghymru i ryddhau cerddoriaeth ddiflas, canol- y-ffordd, aeth ati i sefydlu ei label ei hun gyda’i frawd, y canwr a’r gitarydd Sion Sebon. I bob golwg, pwrpas Recordiau Anhrefn oedd rhyddhau cynnyrch y grŵp, ond bu’r label hefyd yn flaengar wrth ryddhau recordiau hir amlgyfrannog megis Cam o’r Tywyllwch a Gadael yr Ugeinfed Ganrif, gan ddod â sylw i fandiau newydd oedd yn cael eu hanwybyddu gan gyfryngau Cymraeg ar y pryd, megis Tynal Tywyll, Datblygu, Y Cyrff a Llwybr Llaethog. Disgrifiodd Gruff Rhys y ddau albwm yn ‘gerrig milltir i gerddoriaeth Gymraeg ac yn dystiolaeth i egni ac anarchiaeth gerddorol y cyfnod’ (Mwyn 2006, 6), ac yn ôl Mwyn ei hun ‘does dim dwywaith … na fyddai Catatonia na’r Super Furry [Animals] wedi datblygu heblaw bod Cam o’r Tywyllwch wedi digwydd’ (Mwyn 2006, 58).

Yn 1984, yn dilyn gwahoddiad gan Emyr Price, golygydd Y Faner, dechreuodd Rhys Mwyn gyfrannu erthyglau yn gyson i’r cylchgrawn. Bu’n fodd iddo leisio ei rwystredigaethau ynglŷn â thestunau oedd yn amrywio o gulni’r diwylliant Cymraeg i’r profiad o ddioddef o acne. Yn ddiweddarach daeth yn golofnydd i Yr Herald Cymraeg.

Wedi cyfnod prysur o deithio o gwmpas Ewrop gyda’r Anhrefn yn ystod yr 1980au, bu’n gweithio yn bennaf fel hyrwyddwr a rheolwr annibynnol. Bu’n hyrwyddo label Crai yn ystod yr 1990au, gan ddod â grwpiau megis Catatonia, Big Leaves, Gwacamoli ac Anweledig ar restr y label, ynghyd â datblygu gyrfaoedd Siân James a Gwenno Saunders. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect ôl-Anhrefn o’r enw Hen Wlad fy Mamau gydag artistiaid amrywiol yn cyfrannu, megis Jamie Reid, Sion Sebon o’r Anhrefn, drymiwr y Super Furry Animals Dafydd Ieuan, a’r delynores glasurol Elinor Bennett. Yn y rhagair i hunangofiant Rhys Mwyn, Cam o’r Tywyllwch, dywed Gruff Rhys, canwr y Super Furry’s: ‘llwyddodd pync cegog ifanc o Lanfair Caereinion i greu rhwydwaith pan-Ewropeaidd i don newydd gyffrous o artistiaid … ugain mlynedd cyn myspace’ (Mwyn 2006, 5). Mae’r diolch yn bennaf i Rhys Mwyn am hynny.

Pwyll ap Siôn

Llyfryddiaeth

  • Rhys Mwyn, Cam O’r Tywyllwch (Talybont, 2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.