Mydr

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:14, 27 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Symudiad neu guriad rheolaidd mewn barddoniaeth yw mydr, ac mewn canu rhydd – sonedau, telynegion, emynau, hen benillion – y ceir mydr. Pwyslais rheolaidd a chyson ar sillafau sy’n creu mydr. Tra bo’r brif acen a’r is-acen yn digwydd mewn dau le yn unig mewn llinell o gynghanedd, sef yr orffwysfa a’r brifodl, fe geir acen ar bob sillaf yn y canu rhydd. Un o’r mydrau mwyaf poblogaidd mewn canu rhydd yw’r mydr iambig, lle rhoir pwyslais ysgafn (–) ar sillafau 1, 3, 5, 7, 9, a phwyslais trwm (´) ar sillafau 2, 4, 6, 8 a 10, er enghraifft:

Mae hiraeth yn y môr a’r mynydd maith
– ´ – ´– ´– ´– ´

Ceir amryw byd o batrymau mydryddol gwahanol yn y canu rhydd, er enghraifft:

Ar ôl y tywydd garw,
Yr eira llaith a’r lluwch,
Rôl cyffro rhaffu’r tarw
A throi rhyferthwy’r fuwch ...
– ´ – ´– ´–
– ´ – ´– ´
– ´ – ´– ´–
– ´ – ´– ´

Alan Llwyd


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.