Mynediad am Ddim

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:10, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o grwpiau gwerin mwyaf hirhoedlog Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 1974, a thros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach roedd yn dal i fynd.

Myfyrwyr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, oedd y chwe aelod gwreiddiol: tri lleisydd, sef Emyr Wyn, Robin Evans a Mei Jones, a thri offerynnwr, sef Iwan Roberts (gitâr a mandolin), Graham Pritchard (ffidil, mandolin a phiano) a Dewi Jones (corn Ffrengig). Yr unig fwriad ar y dechrau oedd cystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol Bangor 1974, ond yn dilyn eu llwyddiant yno rhaid oedd dal ati.

Roedd hiwmor a’r elfen ‘ffwrdd-â-hi’ yn nodwedd amlwg yn eu canu o’r dechrau a cheid ganddynt gyfuniad o ganu gwerinol ei naws, a oedd yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr Cymraeg y coleg ar y pryd, a chaneuon gwreiddiol hwyliog. Roedd elfen gref o dynnu coes yn yr enw ei hun ac ymgais i ddrysu cyhoeddwyr a darllenwyr posteri cyngherddau a nosweithiau llawen.

Yn 1975 cafwyd ychwanegiad allweddol at y chwe aelod gwreiddiol, sef Emyr Huws Jones, gãr ifanc a oedd eisoes wedi gwneud ei enw gyda’r Tebot Piws. Un o’i ganeuon ef, sef ‘Padi’, a ddewiswyd pan aeth y band i’r stiwdio recordio am y tro cyntaf i gyfrannu un trac at y record amlgyfrannog Lleisiau (Adfer, 1975).

Cafodd y band wythnos lwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975, a daeth cyfle yn fuan wedyn i recordio record hir ar label Sain, Wa McSbredar, ar ôl un o ganeuon mwyaf poblogaidd y cyfnod hwnnw. Yn fuan wedyn ymadawodd Dewi Jones ac ymunodd Alun ‘Sbardun’ Huws, un arall o gyn-aelodau’r Tebot Piws.

Rhyddhawyd ail record hir, Mae’r Grŵp yn Talu (Sain, 1976), ac roedd pob cân bron naill ai o waith Emyr Huws Jones neu’n ganeuon/ alawon traddodiadol, cyfuniad a fu’n sail i repertoire y band o hynny ymlaen. Buont yn teithio’n helaeth yng Nghymru a hefyd yn Iwerddon. Yn 1976 penderfynodd Emyr Huws Jones gefnu ar berfformio, ond daliodd i gyfrannu caneuon. Llanwyd y bwlch gan Pete Watcyn Jones, gitarydd a mandolinydd profiadol.

Yn 1977 rhyddhawyd record hir arall, Rhwng Saith Stôl (Sain, 1977), a threfnwyd taith i Lydaw (gyda Dafydd Iwan). Ar ôl y recordiad hwn gadawodd Alun ‘Sbardun’ Huws er mwyn canolbwyntio ar gyfeilio i Tecwyn Ifan, a hefyd Mei Jones er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel actor a dramodydd. Yn sgil profiadau Iwerddon a Llydaw, penderfynwyd canolbwyntio fwyfwy ar ganu gwerin traddodiadol. Trefnwyd taith arall gyda Dafydd Iwan – trwy Gymru y tro hwn – ac aed ati i recordio casgliad o ganeuon gwerin, gan anelu at farchnadoedd Celtaidd a thu hwnt yn ogystal â Chymru. Y canlyniad oedd rhyddhau Torth o Fara (Sain, 1978) – 17 o ganeuon, gyda phwyslais cyfartal ar y lleisiol a’r offerynnol. Teithiodd y grŵp i Lydaw eto dros yr haf. Yn sgil yr holl brysurdeb trafodwyd y posibilrwydd o droi’n broffesiynol, ond ni ddigwyddodd hynny.

Yn sgil ymadawiad Pete Watcyn Jones, ymunodd Geraint Davies, un o gyn-aelodau Hergest, â’r band. Yn 1979 Mynediad am Ddim oedd un o brif atyniadau Gŵyl Guipavas ger Brest. Yn y cyfnod hwn recordiwyd y cyntaf o ddau gasét i’r Mudiad Ysgolion Meithrin, casgliad o hwiangerddi a chaneuon eraill i blant bach o’r enw Hwyl Wrth Ganu (dilynodd ail gasét, Hwyl yr Ŵyl, ar thema’r Nadolig, yn 1986).

Yn 1982 ymunodd Rhys Ifans (a fu gyda Bando) fel gitarydd bas. Yr aelodau hyn – Emyr Wyn, Robin Evans, Graham Pritchard, Geraint Davies a Rhys Ifans – oedd asgwrn cefn y band o hynny ymlaen. Yn niwedd yr 1990au ychwanegwyd Delwyn Siôn fel aelod achlysurol.

Yn 1992, i ddathlu pen-blwydd y band yn ddeunaw oed (a oedd yn cyd-daro â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth), rhyddhawyd casgliad o’r caneuon mwyaf poblogaidd, a chyhoeddwyd yr un pryd lyfr lloffion, Digon Hen i Yfed, yn olrhain hanes y grŵp. Yna, yn 1993, cyhoeddwyd tâp fideo o berfformiad byw o flaen cynulleidfa yn stiwdio Barcud, Caernarfon, Dyma Mynediad am Ddim. Yn ystod yr 1980au hwyr a’r 1990au yr uchafbwyntiau oedd perfformio yng Ngŵyl y Cnapan bum gwaith, ac yna, yn 2003, ymddangos gerbron torf o tua 8,000 yng Ngŵyl y Faenol ger Bangor.

Yn 2010 cyhoeddwyd cryno-ddisg arall, Hen, Hen Bryd a gynhwysai draciau newydd i gyd, ac ers hynny bu Geraint Cynan (a fu’n aelod o Bwchadanas ac yn perfformio’n gyson gyda Siân James) hefyd yn cyfrannu mewn perfformiadau byw ar yr allweddellau.

Arfon Gwilym

Disgyddiaeth

  • Mynediad am Ddim (Sain 1021M, 1975)
  • Mae’r Grwp yn Talu (Sain 1064M, 1976)
  • Rhwng Saith Stôl (Sain 1103M, 1977)
  • Torth o Fara (Sain 1137M, 1978)
  • Hen, Hen Bryd (Sain SCD 2604, 2010)

Casgliad:

  • 1974–1992 (Sain SCD2003, 1992)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.