Naratif newyddion

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:16, 1 Awst 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: News narrative

Trefnu stori newyddion sy’n disgrifio sut mae digwyddiadau, neu faterion cyfoes yn datblygu, yn ôl paramedrau’r cyfrwng technolegol. Fel adrodd straeon, mae naratif yn cynnig ffyrdd epistemegol sylfaenol o adnabod y byd, sef dilyniant, gosodiad, persbectif, nodweddu, tôn, a pherthynas â’r cyhoedd.

Mae gan naratif ddwy agwedd: ei gynnwys (yr hyn y mae’n ei ddweud, y stori neu’r plot) a’i ffurf (sut y mae’n cael ei adrodd). Er bod naratif newyddion yn cael ei yrru’n gyffredinol gan nodweddion dethol, megis pa mor gyfoes yw’r stori neu ei bwysigrwydd, mae naratif yn cael ei lunio hefyd ar y cyd â chodau adrodd storïau’r newyddion, sef posibiliadau a chyfyngiadau’r cyfryngau newyddion.

Mae naratif newyddion radio yn fwy prysur ac yn ailadroddus ac yn defnyddio rhyddiaith llai cymhleth nag y mae llyfr o draethodau. Mae naratif newyddion yn dwyn ynghyd yr amrywiol eitemau sydd ynddo, fel y bydd delwedd mewn papur newydd yn cael ei osod nesaf at y testun sy’n cefnogi’r stori.

Mae naratif newyddion yn dueddol o ddilyn fformiwla: mae stori trychineb naturiol yn pwysleisio buddugoliaeth yr ysbryd dynol, er enghraifft, ac mae’n cael ei bwysleisio hefyd mewn storïau am ddigwyddiadau neu faterion tebyg. Ond mae mwy nag un math o naratif newyddion (Schudson 1978). Fel arfer, mae’r ‘model gwybodaeth’ o’r newyddion yn ymddangos ar dudalennau blaen papur newydd ac yn dilyn fformat newyddion caled, sef y pyramid gwrthdro sy’n cyflwyno’r wybodaeth bwysicaf yn gyntaf. Mae tôn yr adroddiad yn wybodus a dideimlad ac mae wedi’i ysgrifennu yn y trydydd person. Mae’n rhagdybio bod angen cyhoeddi’r manylion a ddarparwyd eisoes, ac mae’r math hwn o naratif newyddion yn tueddu i roi ffeithiau syml am ddigwyddiadau neu faterion, sy’n amlygu uchafbwyntiau stori i’r rhai na fyddant yn darllen y stori yn ei chyfanrwydd. Yn y ffordd hon, mae creu’r naratif newyddion yn golygu cyflwyno gwybodaeth yn gyntaf a’r stori’n ail.

Mae ail fath o naratif – ‘model stori’ y newyddion sy’n dilyn ffurf stori ffuglen – yn ceisio dal sylw’r darllenwyr. Mae’n llawn drama a diddordeb dynol, hyd yn oed os yw’r rheiny’n cystadlu â’r wybodaeth sydd yn y darn.

Wedi’i osod yn nhrefn amser, mae’r math hwn o naratif yn adrodd stori o’r dechrau i’r diwedd trwy gynnig hanesion a storïau’r digwyddiadau mewn ffordd gronolegol. Roedd yn gyffredin mewn llyfrau newyddion cynnar a baledi, yn enwedig mewn straeon am drychinebau mawr. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, gyda’r cynnydd mewn newyddiaduraeth boblogaidd, yr oedd yn ffordd aneffeithiol o adrodd newyddion caled. Serch hynny, mae’n ymddangos mewn gwahanol ffurfiau ac yn amlwg ymhlith y storïau newyddion a ysgrifennwyd yn dda – e.e. storïau o ddiddordeb dynol a newyddion meddal. Gwelir y ‘model stori’ mewn erthyglau ‘ffordd o fyw’ sy’n cyflwyno storïau mwy dramatig fel ffilm ddogfen, a hyd yn oed yn y cyfryngau print cyfoes, lle y bu’r hyn a elwid yn ‘newyddion naratif’ yn destun gweithdai a chyrsiau hyfforddi ers dechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Llyfryddiaeth

Schudson, M. 1978 Discovering the News. New York: Basic Books.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.