Newyddiaduraeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:59, 7 Awst 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Journalism

Yr ystod eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig â darparu a chyflwyno newyddion.

Yn Ffrainc yn y 1700au, cyfeiriodd yr athronydd Denis Diderot at newyddiaduraeth fel ‘gwaith cymdeithas o ysgolheigion’, a chafodd y gair Ffrangeg ‘journalisme’ ei ddefnyddio’n ddiweddarach (1781) i gyfeirio at adroddiadau am ddigwyddiadau cyfredol mewn print.

Heddiw, mae ‘newyddiaduraeth’ yn cyfeirio at gasglu, prosesu a dosbarthu deunydd newyddion a materion cyfoes mewn ffordd drefnus a chyhoeddus. Ymhlyg yn hyn y mae’r syniad bod crefft, arferion, sgiliau a chonfensiynau sy’n cael eu defnyddio wrth newyddiadura yn cwmpasu swyddogaethau galwedigaethol golygyddion, gohebwyr a ffotograffwyr, ymhlith eraill. Mae’r rhain wedi amrywio dros amser, ond, fel y nododd Adam (1993), maen nhw’n cwmpasu’r gallu i bwyso a mesur, adrodd, ysgrifennu a dadansoddi.

Mae’n ofynnol yn aml fod newyddiaduraeth yn dri pheth ar yr un pryd (McNair 2005). Yn gyntaf, mae’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar unigolion a grwpiau er mwyn iddynt allu monitro’r byd o’u cwmpas; yn ail, fel adnodd ar gyfer cefnogi ac yn aml ar gyfer cyfrannu at ddadl yn y ‘maes cyhoeddus’; ac yn drydydd, fel cyfrwng i addysgu a difyrru pobl, sef swyddogaethau hamdden neu ddiwylliannol newyddiaduraeth.

Llyfryddiaeth

Adam, G. S. 1993. Notes Toward a Definition of Journalism: understanding an old craft as an art form. St Petersburg, FL: Poynter Institute.

Mattelart, A. 1996. The Invention of Communication. Cyfieithwyd gan Emmanuel, S. Minnesota: University of Minnesota Press.

McNair, B. 2005. What is journalism? Making journalists: Diverse models, global issues. London and New York: Routledge, tt. 25–43.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.