Newyddiaduraeth gydweithredol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:45, 19 Chwefror 2019 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Collaborative journalism

Sylw yn y wasg newyddion am fater neu ddigwyddiad gan newyddiadurwyr proffesiynol sydd hefyd yn gweithredu fel newyddiadurwyr sy’n ddinasyddion a newyddiadurwyr sy’n ddinasyddion amatur (‘pro-am’) er mwyn creu adroddiad sydd yn well na’r hyn y gellid ei gynhyrchu gan y naill grŵp neu’r llall ar eu pennau eu hunain.

Fel rheol, mae’r broses hon yn bosibl drwy rannu deunydd a gwybodaeth ar y rhyngrwyd (fel e-bost, blogiau neu negeseuon ar unwaith). Mae’n aml yn codi’n ddigymell gyda dim ond ychydig o gyfathrebu ffurfiol rhag blaen rhwng sefydliadau, mudiadau neu unigolion, neu efallai dim cyswllt o gwbl. Mae’r pwyslais ar gydweithio yn helpu i wahaniaethu’r dull hwn oddi wrth ffurfiau eraill o newyddiaduraeth gyfranogol.

Cafodd newyddiaduraeth gydweithredol sylw mawr yn y cyfryngau yn 2016. Ym mis Ebrill y flwyddyn honno, cyhoeddwyd consortiwm o sefydliadau newyddion y ‘papurau Panama’ – gwybodaeth a ollyngwyd yn ddienw, a oedd yn datgelu am y tro cyntaf y raddfa a’r modd yr oedd cwmnïau ac unigolion â phroffil uchel yn osgoi talu treth.

Er bod y ffynhonnell yn anhysbys, daeth y wybodaeth o gwmni cyfreithiol alltraeth Mossack Fonseca i sylw’r papur newydd Almaeneg Süddeutsche Zeitung. Roedd palu drwy’r mwy na 2.6TB o ddata yn weithred logistaidd enfawr, felly cydlynwyd y gwaith gan yr International Consortium of Investigative Journalists (ICIJ) a rhannwyd y wybodaeth â nifer fawr o gwmnïau cyfryngol drwy’r byd, gan gynnwys y Guardian a’r BBC.

Chwaraeodd yr ICIJ yr un rôl yn achos papurau Paradise a ryddhawyd yn 2017, gan ddatgelu rhagor o weithgareddau busnes alltraeth, er mai o ffynhonnell wahanol (cwmni cyfreithiol Appleby) ddaeth y wybodaeth, a hynny am wahanol sefydliadau/bobl.

Pan ddaeth y papur newydd Süddeutsche Zeitung o hyd i’r ffeiliau digidol, bu’r tîm o newyddiadurwyr yn craffu ar fwy na 13.4 miliwn o ffeiliau am dros flwyddyn, gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein i gyfathrebu a rhannu dogfennau. Cydlynwyd papurau Panama a’r Paradise Papers gan yr ICIJ gyda mwy na 100 o bartneriaid cyfryngol rhyngwladol yn cynnwys mwy na 380 o newyddiadurwyr yn gweithio ar chwe chyfandir mewn 30 o ieithoedd. Dywedodd yr ICIJ i newyddiadurwyr olrhain cofnodion llys, cyfrifon mantolen banc gwleidyddion yn Affrica, Ewrop, Gogledd America ac America Ladin, ac iddynt hefyd wneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth ynghyd â chynnal cannoedd o gyfweliadau gydag arbenigwyr treth, llunwyr polisïau a phobl yn y diwydiant. Y stori fawr a gododd o’r gwaith ymchwiliadol hwn oedd bod y cyfoethog, gan gynnwys mwy na 128 o wleidyddion a swyddogion cyhoeddus o gwmpas y byd, yn manteisio ar gyfundrefnau treth alltraeth gyfrinachol.

Mae cyhoeddiad y Paradise Papers yn arwydd arall o bwysigrwydd cynyddol cydweithio byd-eang ar gyfer newyddiaduraeth ymchwiliadol (Sambrook 2017).

Llyfryddiaeth

Sambrook, R. 2017. Paradise Papers yet another example of the power of collaboration in investigative journalism [ar-lein]. London: The Conversation. Ar gael ar: <http://theconversation.com/paradise-papers-yet-another-example-of-the-power-of-collaboration-in-investigative-journalism-87376> [Cyrchwyd: 20 Mawrth 2018]



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.