Newyddiaduraeth hyperleol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Hyper-local journalism

Newyddion lleol iawn. Mae newyddiaduraeth hyperleol yn ‘hyper’ i’r graddau ei bod yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau lleol mewn modd mor arbenigol fel ei bod yn atal diddordeb neu sylw’r rhai sydd y tu allan i’r gymuned a dargedir. Er y gellir dadlau bod newyddiaduraeth hyperleol yn nodweddu papurau newydd cymunedol da, mae’r rhyngrwyd yn gallu diffinio’r ‘gymuned’ dan sylw mewn cyd-destun llawer culach.

Ar hyn o bryd, mae’n anodd cynnal newyddiaduraeth hyperleol oherwydd nid oes model fusnes lwyddiannus ar gael. O ganlyniad, mae nifer o newyddiadurwyr sy’n cyfrannu at wefannau neu bapurau newydd hyperleol yn gweithio am ddim a nifer helaeth yn newyddiadurwyr-ddinasyddion.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.