Newyddiaduraeth llyfr siec

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:08, 22 Hydref 2018 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Chequebook journalism

Talu arian neu fuddion ariannol i unigolion am yr hawl unigryw i gyhoeddi eu storïau neu dystiolaeth ynghylch digwyddiad newyddion. Defnyddir y term ‘pay for play’ yn aml yn Unol Daleithiau’r America (UDA) a ‘cash for copy’ ym Mhrydain, ac mae’r arfer yn cael ei gondemnio’n eang gan wleidyddion a chyfreithwyr am fod yn anfoesol, yn enwedig pan gall wyrdroi cwrs cyfiawnder, e.e. mewn achosion llys.

Mae hanes hir i newyddiaduraeth llyfr siec – mae rhai ffynonellau yn nodi’r achos cyntaf o’i fath yn 1912 pan dalodd newyddiadurwr $1000 i’r sawl a oedd wedi goroesi trychineb y Titanic er mwyn sicrhau stori am suddo’r llong. Roedd sefydliadau newyddion eraill hefyd yn defnyddio’r arfer o dalu am stori. Talwyd biliau cyfreithiol Bruno Hauptmann yn 1935 gan bapurau newydd Randulph Hearst wrth iddo sefyll ei brawf am herwgipio babi Charles Lindbergh, yr awyrennwr cyntaf i hedfan dros Gefnfor Iwerydd yn ddi-dor yn 1927. Talodd y cylchgrawn Esquire Lt. William Calley am ei fersiwn ef o laddfa My Lai yn 1968 yn ystod Rhyfel Fietnam, a thalodd CBS News am gyfweliadau yn ymwneud â sgandal Watergate yn 1975.

Yn 2011, trosglwyddodd News Corporation Rupert Murdoch ffeil drwchus o negeseuon e-bost i Scotland Yard yn datgelu bod swyddogion yr heddlu a swyddogion carchar, milwyr a swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn – yn ogystal â’u ffrindiau a’u perthnasau – wedi derbyn miloedd o bunnoedd am storïau. Yn sgil y wybodaeth hon, lansiwyd Operation Elveden gan yr heddlu a barhaodd am bum mlynedd. Dyfarnwyd tua 30 o bobl a ddatgelodd wybodaeth yn euog ac er bod 34 o newyddiadurwyr wedi’u harestio, dim ond un a ddedfrydwyd pan blediodd Dan Evans o’r Mirror a’r News of the World yn euog o dalu am storïau yn ogystal â hacio ffonau a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder. Dadleuodd y newyddiadurwyr iddynt dalu am wybodaeth er mwyn datgelu materion o ddiddordeb er lles y cyhoedd.

Mae rhai sefydliadau newyddion, fodd bynnag, yn gwahardd newyddiaduraeth llyfr siec yn eu codau moeseg. Yn y Deyrnas Unedig, cynigiodd Comisiwn Cwynion y Wasg (CCW) fesurau diogelu ond nid gwaharddiad ar daliadau o’r fath. Disodlwyd y CCW yn 2014 gyda Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (Independent Press Standards Organisation (IPSO)) yn cymryd ei le. Mae’r rhai sydd o blaid newyddiaduraeth llyfr siec yn mynnu y gellir ei defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol wrth wneud newyddiaduraeth ymchwiliadol, yn enwedig er mwyn sicrhau datganiadau gan bobl sydd fel arall yn gwrthod cydweithredu.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.