Newyddiaduraeth teithio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Travel journalism

Ffurf boblogaidd o newyddiaduraeth sy’n canolbwyntio’n bennaf ar rinweddau a diffygion gwahanol leoliadau gwyliau. Mae’n ffurf sy’n nodweddu papurau newydd. Ers y 1970au, gwelir erthyglau am deithio yn aml mewn adran ar wahân neu fel atodiad. Mae newyddiaduraeth teithio yn cynnig rhywfaint o ddihangfa i ddarllenwyr sy’n chwilfrydig am leoliadau egsotig. Yn aml, dywedir bod newyddiaduraeth teithio yn dweud cymaint am y teithiwr (ei daith bersonol trwy fywyd) ag y mae am y siwrnai ei hun.

Yn ogystal â disgrifiadau manwl o’r hyn y gallai ymwelwyr ei ddisgwyl, gyda lluniau trawiadol, mae adroddiadau fel arfer yn darparu cyngor ac awgrymiadau ymarferol, gyda gwefannau newyddion ar-lein yn annog y darllenwyr i rannu eu profiadau hefyd. Oherwydd bod natur y cynnwys yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, mae newyddiaduraeth teithio wedi denu beirniadaeth gan rai sy’n amheus ynghylch a yw’r math hwn o newyddiaduraeth yn newyddiaduraeth mewn gwirionedd. Mae eraill yn cyfeirio at i ba raddau y mae swyddogion cysylltiadau cyhoeddus yn gweithio y tu ôl i’r llenni er mwyn ceisio gogwydd sydd o blaid y cwmni yn unol â’i fuddiannau masnachol. Yn wir, mae’n arfer cyffredin i gwmnïau teithio gynnig talu am holl gostau teithio’r newyddiadurwyr yn gyfnewid am erthyglau ffafriol. Mae sefydliadau newyddion safonol yn gwrthod yn llwyr â chytuno i wneud hyn, neu o leiaf yn datgelu’n glir yn yr erthygl beth yw’r berthynas rhyngddynt a’r cwmni teithio.

Yn y bôn, mae newyddiaduraeth teithio yn cael ei defnyddio er mwyn denu cwmnïau sy’n rhan o ddiwydiant mawr i hysbysebu. Mae hyn hefyd yn esbonio cyn lleied o erthyglau yn y wasg neu eitemau rhaglenni sy’n feirniadol eu naws neu sy’n cynnwys newyddiaduraeth ymchwiliol. Os bydd ‘newyddion go-iawn’ yn digwydd yn y lleoliad yn ystod ymweliad y newyddiadurwr, mae’n debygol y bydd y stori honno’n cael ei hailosod fel eitem newyddion caled mewn man arall yn y papur newydd.

Ers blynyddoedd, ceir apêl yn y ffordd y mae newyddiaduraeth teithio yn llwyddo i fwrw golwg ar fwy o leoliadau nag y gall y darllenydd cyffredin ei brofi yn bersonol, ynghyd â gallu’r newyddiaduraeth honno i sbarduno diddordeb yn y cyrchfannau hynny. O ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae newyddiaduraeth teithio wedi newid yn sgil datblygiadau technolegol sy’n gysylltiedig â llongau teithio moethus er enghraifft, trenau cyflym, dyfodiad trydan a’r telegraff, er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am diroedd pell. Er enghraifft, daeth cyfrol gyntaf North American Review, a gyhoeddwyd yn Unol Daleithiau America (UDA) yn 1815, â newyddion o Baris i Americanwyr, tra gwnaeth Scribner’s Monthly gyfres o erthyglau rheolaidd ar ddinasoedd Ewrop ychydig ddegawdau’n ddiweddarach. Ym Mhrydain, gwelwyd colofn deithio rheolaidd ‘The Tourist’ yn y cylchgrawn Queen, a oedd yn cynnig cyngor ar wisg a moesau i fenywod wrth deithio dramor.

Wrth i ysgrifau teithio, dyddiaduron, llythyrau ac erthyglau ymddangos yn gynyddol ar draws y wasg Ewropeaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth twristiaeth yn rhywbeth a anelwyd fwyfwy at y dosbarth canol, yn hytrach nag at y crachach yn unig, gan sefydlu cyswllt o’r cychwyn rhwng newyddiaduraeth a lledaeniad poblogaidd twristiaeth. Er enghraifft, roedd cylchgronau Prydain yn defnyddio erthyglau teithio gan ddinasyddion preifat yn gynyddol. Yn y Picture Post neu’r World Wide Magazine, gwelwyd hanesion unigolion a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden fel sledio a beicio ar draws dwyrain Ewrop. Erbyn diwedd y 1890au, dechreuodd cylchgronau a phapurau newydd America a Phrydain ddefnyddio gohebwyr i deithio ac ysgrifennu, ac yng nghylchgronau megis Queen, The Saturday Evening Post, MacMillan’s Magazine, Travel a Atlantic Monthly, roedd cofiannau teithio rheolaidd a’u hawduron wedi derbyn tâl am yr erthyglau.

Datblygwyd newyddiaduraeth teithio ymhellach o ddiwedd y 1800au hyd at y 1900au cynnar gan fod datblygiadau technoleg a newidiadau yn y ffordd o fyw yn gwneud teithio i bellafoedd byd yn fwy hygyrch. Trawsnewidiwyd teithio o fod yn rhywbeth elitaidd i’r breintiedig cyfoethog i fod yn weithgaredd hamdden boblogaidd wrth i dechnolegau wella a thrafnidiaeth gyflymach (gan gynnwys ceir a’r awyren) gynyddu, yn ogystal â thwf demograffig ac economaidd gwell (megis mwy o gyfoeth a mwy o amser hamdden).

Ym Mhrydain yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu cylchgronau’n targedu eu darllenwyr a’u rhannu’n gymunedau ar wahân. Roedd awgrymu cyrchfannau newydd ar gyfer teithio yn fodd o hybu twristiaeth ymhellach fel gweithgaredd hamdden posibl ar gyfer mwy a mwy o bobl y dosbarth canol.

Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd diwydiant twristiaeth wedi dechrau datblygu mewn mannau amrywiol ledled y byd. Tyfodd asiantaethau teithio, gwelwyd nifer cynyddol o deithiau grŵp a chyhoeddwyd llawlyfrau teithio mewn nifer fawr o leoliadau amrywiol gan greu ffocws ar gyfer newyddiaduraeth teithio. Daeth nifer o gylchgronau fel Ladies Home Journal, Cosmopolitan a Colliers i’r amlwg gydag erthyglau rheolaidd yn arbenigo ar dwristiaeth, ac ymddangosodd nifer o gylchgronau wedi eu neilltuo’n benodol i’r pwnc, fel National Geographic. Drwy ddefnyddio lluniau o 1896 ymlaen er mwyn ennyn diddordeb mewn gwledydd pell, roedd y cyfnodolion yn dod â gwledydd tramor yn fyw i’r darllenydd. Roedd yn gylchgrawn llwyddiannus a chyhoeddwyd cylchgronau eraill fel Travel and Leisure.

Drwy’r cyfan, roedd newyddiaduraeth teithio yn ganolog i’r diddordeb cynyddol mewn gwledydd pell gan adeiladu ar boblogrwydd cynharach y stereocards a phosteri teithio drwy gyhoeddi lluniau a oedd yn dod â’r lleoliadau anghysbell yn nes. Llwyddodd awduron megis Jan Morris, Michael Palin a Bethan Gwanas, ynghyd â’r gyfres deledu Pacio (S4C) i ddod â lleoliadau tramor a’u trigolion i gartrefi darllenwyr a gwylwyr teledu cyfoes.

Gan fod cwmnïau teithio yn talu newyddiadurwyr i fynd ar wyliau er pwrpas hyrwyddo, mae beirniaid y math hwn o newyddiaduraeth yn honni bod hyn yn arwain at adroddiadau sy’n rhy ffafriol, ac nad yw’r newyddiadurwyr yn ddi-duedd.

Yn ogystal â hynny, mae’r diwydiant twristiaeth yn manteisio ar sylwadau defnyddwyr yn sgil twf y cyfryngau newydd gan wneud newyddiaduraeth teithio yn bwnc cyfleus i flogwyr sydd â diddordeb mewn ysgrifennu am eu teithiau. Mae newyddiaduraeth teithio gyfoes hefyd yn canolbwyntio’n fwy ar y defnyddiwr, gan fod ‘gohebwyr teithio’ heddiw yn defnyddio eu platfformau i rybuddio am arferion drwg y diwydiant twristiaeth, i gynghori ynghylch cyrchfannau peryglus a chynghori ar y ffordd orau i sicrhau gwerth am arian.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.