Newyddion 24 awr

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:04, 2 Mai 2019 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Rolling news

Newyddion teledu sy’n darlledu ddydd a nos mewn cylch newyddion 24 awr. Mae gwasanaethau newyddion fel CNN, BBC News, Al-Jazeera, France 24 neu STAR News, yn cynnig gwasanaeth parhaus i’r gwylwyr am ddigwyddiadau newyddion wrth iddynt ddatblygu. Erbyn hyn, nid yw gwylwyr yn gorfod aros am fwletinau’r bore neu raglenni nosweithiol er mwyn cael y newyddion diweddaraf.

Mae beirniaid y fath ddarpariaeth yn credu bod y galw am ddioededd (immediacy) yn golygu bod gohebwyr tramor, yn arbennig, yn llai tueddol o gymryd rhan mewn adroddiadau ymchwiliol yn y maes. Yn hytrach, unwaith y daw newyddiadurwr o hyd i gefndir ‘dilys’ priodol i wneud adroddiad byw, mae’r gohebydd yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddarllen copi newyddion a ysgrifennwyd ar ei gyfer gan gynhyrchwyr (gan ddefnyddio asiantaethau newyddion, swyddogion y wladwriaeth, ac ati) yn ôl yn y stiwdio.

Canfu astudiaeth Cushion et al. (2014) bod dulliau newyddiadurol penodol newyddion 24 awr (sef rhoi ymdeimlad o gyflymder i adroddiadau byw, diweddariadau cyson neu ymestyn gofod daearyddol ar leoliad) nawr yn ymddangos yn rheolaidd ar fwletinau teledu confensiynol i raddau gwahanol mewn gwledydd ar draws y byd. Mae’r awduron yn awgrymu bod mabwysiadu’r dulliau hyn, wrth osod adroddiadau bywiog yng nghanol rhaglenni newyddion cenedlaethol, yn darparu modd o gyfathrebu sy’n dehongli storïau yn ddyfnach na phecynnau newyddion a olygwyd ac a sgriptiwyd ymlaen llaw.

Llyfryddiaeth

Cushion, S., Aalberg, T. a Thomas, R. 2014. Towards a rolling news logic in fixed time bulletins? A comparative analysis of journalistic interventions in the US, UK and Norway. European Journal of Communication 29(1), tt. 100–109.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.