Noddwr

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Un sy’n cynnig nawdd (e.e. arian, llety neu gynhaliaeth) i grefftwr yn gyfnewid am ddarn o gelfyddyd, boed yn farddoniaeth, llawysgrif, yn gelf weledol, cerddoriaeth ac ati. Cyfeirir at y cytundeb rhwng y noddwr a’r crefftwr yn aml fel 'comisiwn'.

Y berthynas greiddiol hon rhwng y noddwr a’r bardd a sicrhaodd ffyniant y traddodiad barddol Cymraeg am dros fil o flynyddoedd, o’r chweched ganrif, pan ganodd Taliesin o dan nawdd y tywysogion Urien Rheged a’i fab Owain ab Urien yn yr Hen Ogledd, hyd at ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Hanfod y berthynas oedd y cysyniad o gyfnewid ‘rhodd am rodd’, fel yr esbonnir yn groyw gan Ddafydd ap Gwilym mewn cywydd mawl i’w gyfaill a’i noddwr Ifor Hael o Wernyclepa:

Telais yt wawd tafawd hoyw,
Telaist ym fragod duloyw.
Rhoist ym swllt, rhyw ystum serch,
Rhoddaf yt brifenw Rhydderch.

Y tywysogion Cymraeg oedd pennaf noddwyr Beirdd y Tywysogion neu’r Gogynfeirdd a ganai’n fras rhwng tua 1075 a 1282. Disgrifiodd Cynddelw Brydydd Mawr, bardd disgleiriaf a mwyaf toreithiog y cyfnod, y berthynas rhwng y noddwr a’i fardd fel un gydradd, lle dibynnai’r naill ar y llall. Esboniodd wrth yr Arglwydd Rhys y byddai’r naill ohonynt heb y llall yn ddi-lais ac felly’n ddi-rym: Ti hebof, nid hebu oedd tau, / Mi hebod, ni hebaf finnau. Y bardd oedd yn gyfrifol am glod ac enw da’r noddwr, a’r noddwr oedd yn gyfrifol am sicrhau cynhaliaeth ddigonol i’r bardd, yn win a medd, gwleddoedd moethus, aur ac arian a gwisgoedd lliw arbennig (megis gwyrdd, coch neu borffor).

Daeth y berthynas gadarn hon rhwng y bardd proffesiynol a’i noddwr-dywysog i ben gyda chwymp y tywysogion a’r Goncwest Edwardaidd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Cafwyd cyfnod o argyfwng, ond buan y daeth yr uchelwyr a’u gwragedd, a oedd yn fwy lleol eu hawdurdod, i gymryd lle’r tywysogion fel prif noddwyr y beirdd. Ac i gyd-fynd â’r newid hwn, daeth mesur symlach y cywydd i gymryd lle’r awdl draddodiadol fel prif gyfrwng y canu mawl. Cyfeirir at y beirdd a ganai dan nawdd yr uchelwyr o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen fel y Cywyddwyr neu Feirdd yr Uchelwyr. Yn hytrach na bod yn gysylltiedig ag un noddwr penodol, byddai’r beirdd hyn gan amlaf yn teithio rhwng cartrefi rhwydwaith o noddwyr ar draws y wlad yn clera, a chroesewid hwy’n arbennig ar wyliau penodol, fel y Nadolig, y Calan a’r Pasg ac yn ystod dathliadau arbennig fel gwyliau’r saint a neithiorau. Canodd Guto’r Glyn, un o brif feirdd mawl proffesiynol y bymthegfed ganrif, i dros ddeg a phedwar ugain o noddwyr ar hyd a lled Cymru a’r Gororau.

Ann Parry Owen

Llyfryddiaeth

Bowen, D. J. (1994–5), ‘Beirdd a noddwyr y bymthegfed ganrif’, Llên Cymru, 18, 53–89.

Bowen, D. J. (1994–5), ‘Beirdd a noddwyr y bymthegfed ganrif (Rhan II)’, Llên Cymru, 18, 221–57.

Bowen, D. J. (1996), ‘Beirdd a noddwyr y bymthegfed ganrif (Rhan III), Llên Cymru, 19, 1–29.

Gwefan Dafydd ap Gwilym (2007), http://www.dafyddapgwilym.net, cerdd 13 (‘Cywydd Mawl i Ifor Hael’) [Cyrchwyd: 2 Awst 2016].

Gwefan Guto’r Glyn (2012), http://gutorglyn.net, ‘Noddwyr a Beirdd’ [Cyrchwyd: 2 Awst 2016].

Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), yn enwedig y bennod ‘Y gyfundrefn farddol’, tt. 18–49.

Jones, N .A. a Parry Owen, A. (goln) (1995), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, ii (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), cerdd 9 (‘Awdl Ddadolwch yr Arglwydd Rhys’).

Owen, M. E. (1996), ‘Noddwyr a beirdd’, yn Owen, M. E. a Roberts, B. F. (goln), Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.