Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Novello, Ivor (1893-1951)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Cyfansoddwr, actor a dramodydd. Ganwyd David Ivor Davies yng Nghaerdydd ar aelwyd gerddorol. Roedd ei fam, [[Clara Novello Davies]] yn [[arweinyddes]] ryngwladol nodedig i’r Côr Merched Brenhinol Cymreig ac yn hyfforddwraig leisiol gyda chanolfannau yng Nghymru, Llundain ac Efrog Newydd. Oherwydd cysylltiadau a dylanwadau ei fam, daeth ei mab i gymysgu a chymdeithasu â rhai o sêr cerddorol amlycaf y dydd, megis Clara Butt ac [[Adelina Patti]], a hynny o’i blentyndod cynnar.
+
Cyfansoddwr, actor a dramodydd. Ganwyd David Ivor Davies yng Nghaerdydd ar aelwyd gerddorol. Roedd ei fam, [[Davies, Clara Novello (1861-1943) | Clara Novello Davies]] yn [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddes]] ryngwladol nodedig i’r Côr Merched Brenhinol Cymreig ac yn hyfforddwraig leisiol gyda chanolfannau yng Nghymru, Llundain ac Efrog Newydd. Oherwydd cysylltiadau a dylanwadau ei fam, daeth ei mab i gymysgu a chymdeithasu â rhai o sêr cerddorol amlycaf y dydd, megis Clara Butt ac [[Patti, Adelina (1843-1919) | Adelina Patti]], a hynny o’i blentyndod cynnar.
  
Derbyniodd Ivor Novello ei addysg mewn ysgol breifat leol ar Cathedral Road dan ofal Mrs Soulez. Pan oedd yn ddeg oed derbyniodd ysgoloriaeth i Goleg Magdalen, Rhydychen, a bu’n unawdydd trebl cyson gyda’r côr am dair o’r pum mlynedd a dreuliodd yn Rhydychen. Ni chanodd yn gyhoeddus fel unawdydd clasurol ar ôl y cyfnod hwn. Dychwelodd i gartref ei rieni yng Nghaerdydd ar ôl i’w gyfnod yn Rhydychen ddod i ben, a bu’n hyfforddi ar y piano a chyfeilio i gôr ei fam, y Côr Merched Brenhinol Cymreig cyn symud i Lundain yn 1913. O’r pwynt yna, ac eithrio cyfnod byr yn Hollywood, fe ddaeth Llundain yn gartref iddo am weddill ei fywyd.
 
Y diwygiad cyfredol, am 16:48, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr, actor a dramodydd. Ganwyd David Ivor Davies yng Nghaerdydd ar aelwyd gerddorol. Roedd ei fam, Clara Novello Davies yn arweinyddes ryngwladol nodedig i’r Côr Merched Brenhinol Cymreig ac yn hyfforddwraig leisiol gyda chanolfannau yng Nghymru, Llundain ac Efrog Newydd. Oherwydd cysylltiadau a dylanwadau ei fam, daeth ei mab i gymysgu a chymdeithasu â rhai o sêr cerddorol amlycaf y dydd, megis Clara Butt ac Adelina Patti, a hynny o’i blentyndod cynnar.

Derbyniodd Ivor Novello ei addysg mewn ysgol breifat leol ar Cathedral Road dan ofal Mrs Soulez. Pan oedd yn ddeg oed derbyniodd ysgoloriaeth i Goleg Magdalen, Rhydychen, a bu’n unawdydd trebl cyson gyda’r côr am dair o’r pum mlynedd a dreuliodd yn Rhydychen. Ni chanodd yn gyhoeddus fel unawdydd clasurol ar ôl y cyfnod hwn. Dychwelodd i gartref ei rieni yng Nghaerdydd ar ôl i’w gyfnod yn Rhydychen ddod i ben, a bu’n hyfforddi ar y piano a chyfeilio i gôr ei fam, y Côr Merched Brenhinol Cymreig cyn symud i Lundain yn 1913. O’r pwynt yna, ac eithrio cyfnod byr yn Hollywood, fe ddaeth Llundain yn gartref iddo am weddill ei fywyd.

Y gân ‘Spring of the Year’ (1908) oedd ei gyfansoddiad cyhoeddedig cyntaf. Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn gyhoeddus yn un o gyngherddau Clara Novello Davies yn yr Albert Hall gydag Ivor yn cyfeilio. Dyma lle y dechreuodd arddel yr enw Ivor Novello yn gyhoeddus; newidiodd ei enw’n swyddogol i Ivor Novello yn 1927.

‘Keep the Home Fires Burning’ oedd ei lwyddiant pennaf, cân a gyfansoddwyd yn 1914 i eiriau’r bardd Americanaidd, Lena Guilbert Ford (1870–1918). Bu’n llwyddiant ysgubol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Perfformiwyd y darn am y tro cyntaf gan Sybil Vane, un o ddisgyblion Clara Novello Davies. Yn ôl yr hanes, roedd y gynulleidfa gyfan wedi ymuno yn y canu erbyn yr ail gytgan a galwyd am 16 encore. Derbyniodd Novello oddeutu £15,000 o elw o’r gân a daeth yn enw cyfarwydd ar aelwydydd ar hyd a lled y wlad fel cyfansoddwr. Ymunodd â llu awyr y llynges yn 1916 ond ar ôl dwy ddamwain awyren fe’i trosglwyddwyd i swyddfa’r Weinyddiaeth Awyr tan ddiwedd y Rhyfel.

Caiff Ivor Novello ei gydnabod yn bennaf am ei sioeau cerdd. Ei lwyddiant cyntaf oedd Theodore & Co. a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr y Gaiety yn 1916. Roedd yr 1930au yn enwedig yn gyfnod nodedig iddo. Yn ystod y degawd llwyfannwyd Glamorous Nights (1935), Careless Rapture (1936) a The Dancing Years (1939). Ychydig yn ddiweddarach daeth Perchance to Dream (1945) yn boblogaidd o ganlyniad i’r gân ‘We’ll gather lilacs’. Roedd ei sioe olaf, King’s Rhapsody (1949), hefyd yn llwyddiant sylweddol. Novello ei hun fyddai’n chwarae’r brif ran yn ei sioeau, yn enwedig y rhai diweddar. Er na fu i lawer o’r sioeau oroesi eu cyfnod, The Dancing Years (1939) yw un o’r rhai mwyaf hirhoedlog, ac mae ‘Waltz of my Heart’ yn derbyn perfformiadau hyd heddiw ar lwyfannau ledled y byd.

Cyfunodd Ivor Novello ei gefndir yn y byd clasurol a baledi Oes Fictoria yn ei sioeau cerdd gan greu arddull a oedd yn unigryw i’r maes. Christopher Hassall oedd awdur y geiriau i Glamorous Nights, ei sioe gerdd gyntaf a berfformiwyd yn Theatr Drury Lane. Fe brofodd yn llwyddiant sylweddol a bu’r ddau yn cydweithio’n gyson.

The Call of the Blood (1919) oedd ffilm fud gyntaf Novello, ac er nad oedd yn cael ei gydnabod fel actor nodedig, gallai ddenu cynulleidfaoedd niferus pan ymddangosai ar y llwyfan, a llwyddodd i gael gyrfa lwyddiannus ym maes y ffilmiau mud oherwydd ei apêl a’i gyfaredd. Penderfynodd sefydlu ei hun fel actor-reolwr gyda’i arian ei hun gan lwyfannu y ddrama The Rat yn 1924. Dyma oedd ei ddrama gyntaf ac fe’i perfformiwyd dros 600 o weithiau yn y West End, Llundain ac fe’i troswyd yn ffilm yn 1925. Fe’i dilynwyd gan ffilm arall yn 1926, The Triumph of the Rat ac yna’r Return of the Rat yn 1928.

Symudodd Novello am gyfnod i Hollywood yn 1931, lle bu’n actor ac yn awdur ar gyfer y sgrîn. Fe’i cofir yn bennaf yn ystod y cyfnod hwn am ei waith ar sgript Tarzan the Ape Man a’r llinell hanesyddol (er iddi gael ei cham-ddyfynnu’n gyson) ‘Me Tarzan. You Jane’.

Prynodd gartref arall ger Maidenhead yn 1927 a alwodd yn Redroofs. Ar ôl marwolaeth sydyn ei dad David Davies yn Hydref 1931, penderfynodd ddychwelyd i Lundain a Redroofs ac ymgartrefodd yno am weddill ei fywyd. Croesawodd rai o sêr amlycaf ei ddydd i’w gartrefi, megis Gladys Cooper, Noel Coward a Vivien Leigh, ac roedd yn enwog am ei fywyd cymdeithasol.

Fe’i carcharwyd am bedair wythnos yn 1944 am gam-ddefnyddio’i gar mewn cyfnod o ddogni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe gafodd hyn effaith gorfforol a meddyliol arno am flynyddoedd. Bu farw yn ei gartref o thrombosis coronaidd ar 6 Mawrth 1951, oriau yn unig ar ôl ymddangos mewn perfformiad o’i sioe, King’s Rhapsody. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn St Martin-in-the-Fields ar 28 Mai 1951 i dyrfa o rai miloedd.

Gwerthwyd Redroofs ar ôl ei farwolaeth ac fe’i hagorwyd fel cartref ymadfer i actorion. Yn 1956, sefydlwyd gwobrau The Ivor Novello Awards (‘The Ivors’) i anrhydeddu cyfraniad Ivor Novello i’r theatr. Hyd heddiw, maent yn dathlu ac yn cydnabod rhagoriaeth a chyrhaeddiad cerddorol ym maes cyfansoddi caneuon gan gyfoedion yn y diwydiant ac yn dyst i gyfraniad nodedig Ivor Novello i’r maes.

Gwawr Jones

Disgyddiaeth

  • Ivor Novello: The Ultimate Collection (Prism Platinum 767, 2002)

Llyfryddiaeth

  • C. N. Davies, The Life I have Loved (Llundain, 1940)
  • P. Noble, Ivor Novello: Man of the Theatre (Llundain, 1951/R)
  • W. Macqueen-Pope, Ivor (Llundain, 1952)
  • R. Rose, Perchance to Dream (Llundain, 1974)
  • S. Wilson, Ivor (Llundain, 1987)
  • J. Harding, Ivor (Llundain, 1987)
  • P. Webb, Ivor Novello: a Portrait of a Star (Llundain, 1999)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.