O'r Ddaear Hen

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:44, 19 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dŷ cyngor daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddiorfodi i William symud y pen o'r tŷ. Yn ei dro aiff a'r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy'n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy'n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw'r pen aiff a fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tŷ. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: O'r Ddaear Hen

Blwyddyn: 1981

Hyd y Ffilm: 50 munud

Cyfarwyddwr: Wil Aaron

Sgript gan: Gwyn Thomas

Stori gan: Gwyn Thomas

Cynhyrchydd: Gwilym Owen

Cwmnïau Cynhyrchu: Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Genre: Arswyd


Cast a Chriw

Prif Gast

  • Valerie Wynne-Williams (Miriam Vaughan)
  • J.O. Roberts (Arthur Vaughan)
  • Bethan Jones (Anna Vaughan)
  • Lindsay Evans (Alan Wyn)
  • Charles Williams (William Jones)
  • Elen Roger Jones (Jane Jones)

Cast Cefnogol

  • Stewart Jones - Dyn yn y dafarn
  • Clive Roberts - Plisman

Rhannau Eraill -

  • Fred Williams
  • Jim Fieldsend
  • Victor Tudor
  • Alwyn Pleming
  • Aelodau o Theatr Fach Llangefni

Ffotograffiaeth

  • Graham Edgar

Sain

  • Gus Lloyd

Golygu

  • Lewis Fawcett

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Cynorthwywr Camera - Kevin Duggan
  • Cynorthwywr Sain - Bob Webber
  • Rheolwr Cynhyrchu - Gwynfryn Roberts
  • Coluro - Mary Hillman
  • Cynorthwydd Cynhrychu - Shân Davies


Manylion Technegol

Fformat Saethu: 16mm

Math o Sain: Mono

Lliw: Lliw

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Lleoliadau Saethu: Prifysgol Bangor; Din Llugwy, Mon.


Manylion Atodol

Llyfrau

David Berry, Wales and Cinema (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994)

ap Dyfrig, R., Jones, E H G, Jones, G. The Welsh Language in the Media[1] (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)