Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ods, Yr"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Grŵp indi-pop o Arfon ac Ynys Môn yw Yr Ods a ffurfiwyd gan Griff Lynch (llais, gitâr) a Gruffudd Pritchard (llais, gitâr) tra’r oeddynt yn fyfyrwyr...')
 
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 +
 
Grŵp indi-pop o Arfon ac Ynys Môn yw Yr Ods a ffurfiwyd gan Griff Lynch (llais, gitâr) a Gruffudd Pritchard (llais, gitâr) tra’r oeddynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2006. Yr aelodau eraill oedd Rhys Aneurin (allweddellau), Osian Howells (gitâr fas), a Gwion Llewelyn (drymiau).
 
Grŵp indi-pop o Arfon ac Ynys Môn yw Yr Ods a ffurfiwyd gan Griff Lynch (llais, gitâr) a Gruffudd Pritchard (llais, gitâr) tra’r oeddynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2006. Yr aelodau eraill oedd Rhys Aneurin (allweddellau), Osian Howells (gitâr fas), a Gwion Llewelyn (drymiau).
  
Daeth y band i amlygrwydd ar ôl recordio sesiwn i raglen Huw Stephens yn 2008, gyda John Lawrence (o Gorky’s Zygotic Mynci) yn cynhyrchu, oedd yn cynnwys y gân ‘Gobeithio Heno’. Cipiodd y band gategori ‘y grŵp neu artist ddaeth i amlygrwydd’ yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009, ynghyd â sengl orau’r flwyddyn am ‘Fel Hyn am Byth’ yng Ngwobrau’r Selar. Yn dilyn hyn, chwaraeodd y band ar lwyfan Gŵyl Glastonbury, yn ogystal â pherfformio yng ngwyliau Wakestock a Sŵn.
+
Daeth y band i amlygrwydd ar ôl recordio sesiwn i raglen Huw Stephens yn 2008, gyda John Lawrence (o [[Gorky's Zygotic Mynci]]) yn cynhyrchu, oedd yn cynnwys y gân ‘Gobeithio Heno’. Cipiodd y band gategori ‘y grŵp neu artist ddaeth i amlygrwydd’ yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009, ynghyd â sengl orau’r flwyddyn am ‘Fel Hyn am Byth’ yng Ngwobrau’r Selar. Yn dilyn hyn, chwaraeodd y band ar lwyfan [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]] Glastonbury, yn ogystal â pherfformio yng ngwyliau Wakestock a Sŵn.
  
Rhyddhaodd y grŵp eu EP cyntaf eponymaidd pump trac yn 2010. Gan blethu elfennau o synth-pop melodig yr 1980au (megis Orchestral Manoeuvers in the Dark ac Ultravox) gyda sain fwy amrwd bandiau ''Britpop'' Pulp a Blur, mewn caneuon megis ‘Cofio Chdi o’r Ysgol’ ac ‘Y Bêl yn Rowlio’, derbyniodd y record ymateb hynod ffafriol, gan ennill gwobr EP gorau yng Ngwobrau’r Selar 2010. Rhyddhaodd y band eu record hir gyntaf, ''Troi a Throsi'', gyda’r cynhyrchydd profiadol David Wrench wrth y llyw. Gyda’r pwyslais erbyn hyn yn llai ar yr elfen electronaidd ac yn fwy i gyfeiriad roc, enillodd albwm gorau’r flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar 2011.
+
Rhyddhaodd y grŵp eu EP cyntaf pump trac, ''Nid Teledu Oedd y Bai'', yn 2010. Gan blethu elfennau o synth-pop melodig yr 1980au (megis Orchestral Manoeuvers in the Dark ac Ultravox) gyda sain fwy amrwd bandiau ''Britpop'' Pulp a Blur, mewn caneuon megis ‘Cofio Chdi o’r Ysgol’ ac ‘Y Bêl yn Rowlio’, derbyniodd y record ymateb hynod ffafriol, gan ennill gwobr EP gorau yng Ngwobrau’r Selar 2010. Rhyddhaodd y band eu record hir gyntaf, ''Troi a Throsi'', gyda’r cynhyrchydd profiadol David Wrench wrth y llyw. Gyda’r pwyslais erbyn hyn yn llai ar yr elfen electronaidd ac yn fwy i gyfeiriad roc, enillodd albwm gorau’r flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar 2011.
  
2012 oedd blwyddyn fwyaf Yr Ods, gyda’r band yn cipio [[tair]] gwobr yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru: ‘Band y Flwyddyn’, ‘Albwm y Flwyddyn’ (am ''Troi a Throsi'') a ‘Cân y Flwyddyn’ (am y gân ‘Siân’). Yn dilyn cyfnod o berfformio’n gyson bu pethau’n dawelach wrth i’r band ganolbwyntio ar eu hail albwm ''Llithro'' (2013). Bu iddynt ddychwelyd i’r prif lwyfannau gyda pherfformiad ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Maldwyn 2015, gan ymddangos fel y grŵp olaf ar lwyfan perfformio’r maes ac yna fel rhan o gyngerdd llwyddiannus gig pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, gyda Cherddorfa’r Welsh Pops.
+
2012 oedd blwyddyn fwyaf Yr Ods, gyda’r band yn cipio tair gwobr yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru: ‘Band y Flwyddyn’, ‘Albwm y Flwyddyn’ (am ''Troi a Throsi'') a ‘Cân y Flwyddyn’ (am y gân ‘Siân’). Yn dilyn cyfnod o berfformio’n gyson bu pethau’n dawelach wrth i’r band ganolbwyntio ar eu hail albwm ''Llithro'' (2013). Bu iddynt ddychwelyd i’r prif lwyfannau gyda pherfformiad ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Maldwyn 2015, gan ymddangos fel y grŵp olaf ar lwyfan perfformio’r maes ac yna fel rhan o gyngerdd llwyddiannus gig pafiliwn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol y Fenni yn 2016, gyda Cherddorfa’r Welsh Pops.
  
 
'''Gethin Griffiths'''
 
'''Gethin Griffiths'''
Llinell 16: Llinell 18:
  
 
''Llithro'' (Copa CD019, 2013)
 
''Llithro'' (Copa CD019, 2013)
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 17:24, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp indi-pop o Arfon ac Ynys Môn yw Yr Ods a ffurfiwyd gan Griff Lynch (llais, gitâr) a Gruffudd Pritchard (llais, gitâr) tra’r oeddynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2006. Yr aelodau eraill oedd Rhys Aneurin (allweddellau), Osian Howells (gitâr fas), a Gwion Llewelyn (drymiau).

Daeth y band i amlygrwydd ar ôl recordio sesiwn i raglen Huw Stephens yn 2008, gyda John Lawrence (o Gorky's Zygotic Mynci) yn cynhyrchu, oedd yn cynnwys y gân ‘Gobeithio Heno’. Cipiodd y band gategori ‘y grŵp neu artist ddaeth i amlygrwydd’ yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009, ynghyd â sengl orau’r flwyddyn am ‘Fel Hyn am Byth’ yng Ngwobrau’r Selar. Yn dilyn hyn, chwaraeodd y band ar lwyfan Gŵyl Glastonbury, yn ogystal â pherfformio yng ngwyliau Wakestock a Sŵn.

Rhyddhaodd y grŵp eu EP cyntaf pump trac, Nid Teledu Oedd y Bai, yn 2010. Gan blethu elfennau o synth-pop melodig yr 1980au (megis Orchestral Manoeuvers in the Dark ac Ultravox) gyda sain fwy amrwd bandiau Britpop Pulp a Blur, mewn caneuon megis ‘Cofio Chdi o’r Ysgol’ ac ‘Y Bêl yn Rowlio’, derbyniodd y record ymateb hynod ffafriol, gan ennill gwobr EP gorau yng Ngwobrau’r Selar 2010. Rhyddhaodd y band eu record hir gyntaf, Troi a Throsi, gyda’r cynhyrchydd profiadol David Wrench wrth y llyw. Gyda’r pwyslais erbyn hyn yn llai ar yr elfen electronaidd ac yn fwy i gyfeiriad roc, enillodd albwm gorau’r flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar 2011.

2012 oedd blwyddyn fwyaf Yr Ods, gyda’r band yn cipio tair gwobr yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru: ‘Band y Flwyddyn’, ‘Albwm y Flwyddyn’ (am Troi a Throsi) a ‘Cân y Flwyddyn’ (am y gân ‘Siân’). Yn dilyn cyfnod o berfformio’n gyson bu pethau’n dawelach wrth i’r band ganolbwyntio ar eu hail albwm Llithro (2013). Bu iddynt ddychwelyd i’r prif lwyfannau gyda pherfformiad ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Maldwyn 2015, gan ymddangos fel y grŵp olaf ar lwyfan perfformio’r maes ac yna fel rhan o gyngerdd llwyddiannus gig pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, gyda Cherddorfa’r Welsh Pops.

Gethin Griffiths

Disgyddiaeth

Nid Teledu Oedd y Bai (EP) (Copa CD012, 2010)

Troi a Throsi (Copa CD014, 2011)

Llithro (Copa CD019, 2013)