Oed Yr Addewid

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:19, 19 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Mae'n fis Mawrth 1997 ac, yn dilyn deunaw mlynedd o reolaeth Dorïaidd, mae Prydain yn cyrraedd croesffordd wleidyddol. Mae prif weinidog llywodraeth sydd dan warchae yn penderfynu cynnal etholiad cyffredinol mewn ymdrech ofer i ddarbwyllo'r etholwyr bod ei blaid yn haeddu pumed tymor mewn grym. Yn y cyfamser, mae William Davies, sy'n ŵr gweddw ac yn chwarelwr wedi ymddeol, wedi cyrraedd ei groesffordd ei hun. Wedi bod yn sosialydd ar hyd ei oes mae'n teimlo'n ddig ac yn chwerw tuag at lywodraeth sydd wedi anghofio amdano yn ei henaint.

Ar ôl cael ei berswadio gan ei blant i brynu ei dŷ cyngor yn yr wythdegau ffyniannus, mae'n sylwi fod y llwyodraeth honno, a fanteisiodd gymaint ar berchnogaeth ddeng mlynedd ynghynt, yn disgwyl iddo werthu ei eiddo'n awr er mwyn talu am ei ofal pe bai'n rhaid iddo fynd i gartref preswyl.

Wrth i William Davies gerdded o'i dŷ cyngor un bore, mae'n rhoi cynllun anobeithiol a hurt ar waith a fydd yn enill y blaen ar y system yn ei dyb ef.

Ond aiff pethau o chwith wrth i'r hen ddyn sylweddoli ei fod wedi gwenud camgymeriad ofnadwy.

Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosáu, mae William Davies a'i deulu'n dysgu ambell i wirionedd - am eu gilydd ac am eu gwir deimladau am eu cartref.

Ffilm sy'n mynd i'r afael â'r thema cartref ac, yn arbennig, gwahanol ffyrdd aelodau'r teulu o edrych arno.

Lleolir y ffilm mewn cadarnle Cymraeg anghysbell yng ngogledd orllewin cymru yn ystod yr ychydig wythnosau cyn etholiad cyffredinol 1997, pan oedd y blaid geidwadol yn colli eu gafael ar rym ar ôl deunaw mlynedd o lywodraethu.

[crynodeb o wefan swyddogol y ffilm[1]]


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Oed Yr Addewid

Teitl Amgen: Do Not Go Gentle

Blwyddyn: 2000

Hyd y Ffilm: 89 munud

Cyfarwyddwr: Emlyn Williams

Sgript gan: Emlyn Williams

Cynhyrchydd: Alun Ffred Jones

Cwmnïau Cynhyrchu: Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C


Cast a Chriw

Ffotograffiaeth

  • Jimmy Dibling

Dylunio

  • Martin Morley

Sain

  • Tim Walker

Golygu

  • William Oswald


Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: Untitled Certificate

Fformat Saethu: 35mm

Math o Sain: Stereo

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 1.85:1

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Lleoliadau Saethu: Pen Llŷn, Cymru

Gwobrau:

Gwyl Ffilmiau Douarnenez 2001

  • European Award

BAFTA Cymru 2001

  • Actor Gorau - Stewart Jones
  • Ffilm Orau
  • Awdur Gorau ar gyfer y Sgrin - Emlyn Williams

Biarritz International Festival of Audiovisual Programming 2002

  • Gwobr Fipa D'Or (Ffuglen) - Emlyn Williams
  • Gwobr Fipa D'Or (Actor) - Stewart Jones

Gwyl Ffilm Las Palmas, Gran Canaria -2002

  • Gwobr y Rheithgor am y Ffilm Orau
  • Stewart Jones ac Arwel Grufydd (Actorion Gorau)

Lleoliadau Arddangos:

  • Gwyl Ffilmiau Ryngwladol Caerdydd, 2000
  • Pwllheli, Neuadd Dwyfor: Ionawr 29-30, 2001
  • Llanelli, Theatr Elli: Ionawr 29-30, 2001
  • Yr Wyddgrug, Theatr Clwyd: Ionawr 31, 2001
  • Y Bala, Neuadd Buddug: Chwefror 2, 2001
  • Aberystwyth, Canolfan y Celfyddydau: Chwefror 5, 2001
  • Bethesda, Neuadd Ogwen: Chwefror 7, 2001
  • Crymych, Theatr y Gromlech: Chwefror 9-15, 2001
  • Würzburg International Film Weekend, 2001
  • Moscow International Film festival, Mehefin 2001
  • Gwyl Ffilmiau Douarnenez, 2001
  • Filmoteca National, Madrid, 24 Medi 2001
  • Palm Springs International Film Festival (Ionawr 2002)
  • Commonwealth Film FeEstival, Manceinion (Mehefin 2002)


Manylion Atodol

Gwefannau

Gwefan Swyddogol Oed yr Addewid[2] (drwy'r Internet Archive)

Oed yr Addewid ar IMDb[3]

Adolygiadau

Adolygiad Gwyn Griffiths ar BBC Cymru'r Byd[4] "Ffilm â neges bwerus am natur bywyd a thlodi a henaint yn y Gymru wledig."

Adolygiad Robert Koehler yn Variety[5], 14 Chwefror 2002 "As subdued in its dramatic storytelling as it is strident in its political messages, Emlyn Williams' "Do Not Go Gentle" fails to satisfy aud expectations for a film detailing an elderly man's battle with Alzheimer's Disease."

Adolygiad ar wefan Robert Yahnke[6], 2002 "I wrote this screenplay when I was in the seventh grade. This is a rough draft of a film, and it adds little insight and demonstrates little creativity beyond the character of the old man."

Erthyglau

"Festival offers feast of film"[7] Jon Gower, Gwefan BBC Wales , 29 Tachwedd 2001

"Oed yr Addewid ar daith"[8] BBC Cymru'r Byd, Ionawr 2001

"Cinema tour for S4C's film"[9] 4FRV.co.uk, 17 Ionawr 2001

"S4C, the public service broadcaster for Wales, have announced that another of the channel’s films, ‘Oed yr Addewid’ (‘Do Not Go Gentle’), will now be shown in cinemas during the next three months."

"S4C sweeps boards at BAFTA Cymru awards"[10] NewsWales, 27 Mai 2002