Organoleg ac Offerynnau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Yn y 6g. dechreuodd hanes Cymru fel tiriogaeth, gyda’i hiaith a’i diwylliant annibynnol o holl Geltiaid eraill gorllewin Ewrop. Yn ystod y cyfnod o fil o flynyddoedd a ddilynodd hynny, datblygodd cerddoriaeth yn bennaf trwy gyfrwng y traddodiad llafar. Mae’r casgliad ysgrifenedig cyntaf o gerddoriaeth offerynnol Cymru, sef casgliad y bardd a’r telynor Robert ap Huw (c.1580–1665) o Landdeusant, Ynys Môn, yn dyddio o 1613 ac mae’n cynrychioli’r ymgais gyntaf i groniclo agweddau cerddorol ar y traddodiad barddol cyn iddo ddiflannu’n gyfan gwbl.

Tystiolaeth hanesyddol a llenyddol sy’n profi bodolaeth cerddoriaeth a’r traddodiad offerynnol yng Nghymru yn y canrifoedd cynnar. Ceir cyfeiriadau ym mhregethau’r abad Gildas, De Excidio et Conquestu Britanniae, yn y 6g. at swyddogaeth y bardd teulu yn canmol ei noddwr i gyfeiliant telyn neu lyra, a hynny mewn dull tra gwahanol i arddull cerddoriaeth gysegredig yr eglwys bryd hynny. Yn yr un modd, cyfeiria’r Archesgob o Poitiers, Venantius Fortunatus (c.540–c.600), at ddefnydd y Brytaniaid o’r crwth:

Romanusque lyra, plaudat tibi barbarus harpa,
Graecus Achilliaca, crotta Britanna canat

Dwyn cymhariaeth y mae Fortunatus yn y dyfyniad hwn rhwng yr offerynnau tebyg eu sain a’u dull perfformio a oedd yn gyffredin ledled Ewrop yr adeg honno. Er nad oes cerddoriaeth ysgrifenedig nac enghreifftiau o offerynnau’r cyfnod wedi goroesi yng Nghymru, gwyddys fod y beirdd yn derbyn hyfforddiant trylwyr am gyfnod o oddeutu deuddeng mlynedd, yn ennill graddau barddol, yn arbenigo naill ai mewn cerdd dafod (sef barddoniaeth) neu gerdd dant (sef cerddoriaeth) cyn iddynt gael yr hawl i gyflwyno’u cerddi yn gyhoeddus a hynny i gyfeiliant y delyn neu’r tympan (tympanum). Fel y dengys Thurston Dart, telyn fach, telyn ‘farddol’ neu delyn pen-glin gydag oddeutu 25 o dannau oedd yr offeryn mwyaf cyffredin ymhlith y beirdd yn y cyfnod cynnar hwn (Dart 1968). Dadleua rhai mai tannau o goludd (gut) neu o rawn (blew ceffyl) a oedd yn gyffredin, tra mae ymchwilwyr eraill (Greenhill 1995) o’r farn y byddai offerynwyr proffesiynol o Gymru yn fwy tebygol o efelychu’r traddodiad Gwyddelig a defnyddio tannau o fetel er mwyn cyfoethogi naws y sain.

Er bod crefft y beirdd yn cynrychioli dwy wedd bwysig ar ddiwylliant y Cymry yr adeg honno, ceir dyfyniad yng Ngramadegau’r Penceirddiaid (sy’n ymddangos yn Llawysgrif Peniarth) sy’n brawf o amrywiaeth y traddodiad offerynnol yn y Gymru gynnar:

Tri ryw brifgerd ysyd, nyt amgen: kerd dant, kerd vegin, a cherd dauawt.
Teir prifgerd tant ysyd, nyt amgen: kerd grwth, kerd delyn, a cherd timpan.
Teir prifgerd megin ysyd, nyt amgen: organ, a phibeu, a cherd y got.
Teir prifgerd tauawt ysyd: prydu, a dachanu, a chanu gan delyn.

Cyn i’r wlad golli ei hannibyniaeth yn 1282, cyhoeddodd y clerigwr Gerallt Gymro (c.1146–c.1223) gronicl o’i daith o amgylch Cymru, Itinerarium Cambriae (1191) a Descriptio Cambriae (1194), sy’n cynnwys cyfeiriadau at y defnydd o gerddoriaeth ac offerynnau cerdd yn y diwylliant Cymreig ac sy’n pwysleisio arwyddocâd arbennig y delyn yn nhraddodiadau’r genedl.

Yn ôl Gerallt, a oedd yn deithiwr profiadol, ystyrid y grefft o ganu’r delyn uwchlaw unrhyw ddawn arall, ceid telyn ym mhob tŷ bonedd a byddai’n arferiad i delynoresau ifanc ddiddanu eu hymwelwyr yn ddyddiol. Gwelir cryn fanylder ynghylch y defnydd o offerynnau cerdd yng Nghymru yn y cyhoeddiad hwn - manylder nas cafwyd cyn hynny. Atega Gerallt yr hyn a geir yn neddfau Hywel Dda (c.880–950) a luniwyd yn y 10g., ond na chofnodwyd hyd nes y 13g. Erbyn cyfnod gweithredu’r deddfau cenedlaethol hyn, y delyn oedd prif offeryn y Cymry, tra cyfeirir hefyd at fodolaeth y crwth a’r pibau ( pibgorn).

Er mai’r delyn a’r telynor a hawliai’r flaenoriaeth yn y diwylliant Cymreig bryd hynny, cafwyd ar rai adegau gystadlaethau rhwng y telynorion, y crythorion a’r chwaraewyr pibau fel ag a ddigwyddodd mewn gŵyl a drefnwyd gan yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Ond ceir cydnabyddiaeth amlwg hefyd i allu a medr telynorion Cymreig y cyfnod yn rhai o storïau Ewropeaidd yr Oesoedd Canol.

Wrth drafod hanes Trystan ac Esyllt gan Gottfried von Strassburg (fl.1210), dywed Sally Harper fod yr arwr wedi ei swyno gan gerdd Lydewig a genid gan un ‘a oedd yn feistr ar ei gelfyddyd, y gorau yn y byd, a hwnnw’n Gymro’ ac mai ‘gan ddau delynor o Gymru’ y dysgodd Trystan yntau sut i ganu’r offeryn (Strassburg 1960; Harper 2007). Mewn cerdd a gopïwyd yn Llyfr Taliesin yn y 14g., ymddengys y dyfyniad ‘Wyf bard ac wyf telynawr. / Wyf pibyd ac wyf crythawr / I seith ugein cerdawr’.

Wedi 1282 diflannodd llysoedd y tywysogion Cymreig ond daeth nawdd a chefnogaeth yr uchelwyr bonheddig (tirfeddianwyr dylanwadol oeddynt yn bennaf) i lenwi’r bwlch a chefnogi cerddoriaeth a barddoniaeth y beirdd. Ymysg y 24 crefft neu gamp yr oedd disgwyl i uchelwr eu meistroli yr oedd canu i gyfeiliant offeryn a chanu’r delyn. Ar yr adeg hon hefyd daeth yr hen drefn farddol dan fygythiad y rhai na chawsant raddau barddol nac ychwaith yr un brentisiaeth drwyadl â’u rhagflaenwyr.

Daeth dylanwad Eingl-Normanaidd yn fwy amlwg yng Nghymru; mudai cerddorion dawnus (offerynwyr yn bennaf, gan gynnwys telynorion, crythorion a thrwmpedwyr) i weithio yn y llysoedd yn Lloegr (Bullock-Davies 1978) a diflannodd cerddorion answyddogol ac anghymwys i afradu eu crefft y tu hwnt i’r ffin lle na wyddai’r gynulleidfa ddim am gerddoriaeth Gymreig. Er hynny, cyfeirir at y cyfnod rhwng diwedd y 13g. a’r Deddfau Uno (1536 ac 1542-3) fel ‘Oes Aur’ yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Llafarganwyd y cerddi i gyfeiliant cerddorol (y delyn, mae’n bur debyg) a thyfodd y datgeinydd yn gyfrwng moliant a diddanwch yng nghartrefi bonedd y genedl.

Er mai canu caeth oedd arbenigedd pennaf y bardd Dafydd ap Gwilym (fl. 1340–1370), ymddengys iddo dderbyn hyfforddiant cerddorol, efallai mewn scola cantorum yn Abaty Ystrad Fflur ( Kinney 2011). Amlygir ei ddealltwriaeth drylwyr o’r maes ynghyd â’i ddefnydd o dermau cerddorol a’i gyfeiriadau at y delyn mewn rhai o’i gerddi gan gynnwys ‘Y Bardd a’r Brawd Llwyd’ a ‘Telynores Twyll’. Yn yr un modd, ceir cyfeiriadau manwl yng ngwaith beirdd eraill o’r cyfnod at nodweddion y crwth, er enghraifft yng nghywydd Gruffydd ap Dafydd ab Hywel (fl.1480-1520):

Chwe sbigod, o codwn
A dynna holl dannau hwn;
Chwe thant a gaed o fantais
Ag yn y llaw yn gan llais,
Tant i bob ysbys oedd
A daudant i’r fawd ydoedd.

O bryd i’w gilydd, cynhaliwyd eisteddfod (neu ymryson cerdd dafod a thant) er mwyn gosod trefn ar yr arferion hyn, dyfarnu graddau i’r beirdd a’r cerddorion a chydnabod eu gallu proffesiynol yn y maes. Trwy orchymyn brenhinol Elizabeth I cynhaliwyd Eisteddfod Caerwys yn 1523 ac yn 1567 yn bennaf er mwyn cydnabod medr a gallu’r telynorion, y crythorion a’r beirdd, ond hefyd er mwyn diarddel y tinceriaid a’r cardotwyr na haeddent unrhyw gydnabyddiaeth gerddorol na’r hawl i ennill bywoliaeth yn y maes (Thomas 1968).

Er bod cyfeiriadau niferus at ffynonellau cerdd y cyfnod hwn, nid yw’r mwyafrif ohonynt wedi goroesi. Mae llawysgrif Robert ap Huw yn eithriad ac yn enghraifft o’r llawlyfr telyn cynharaf sydd ar gael yn y traddodiad Cymreig. Defnyddiwyd saith llythyren gyntaf yr wyddor Saesneg (‘a’ i ‘g’) i gynrychioli tannau’r delyn a cheir yn ogystal gyfarwyddiadau ynghylch dulliau cyweirio (neu ‘diwnio’) telyn ac eglurhad am addurniadau gwahanol a oedd yn nodweddu perfformiadau’r cyfnod. Y llawysgrif hon hefyd yw un o ffynonellau cynharaf cerddoriaeth telyn y cyfnod ac o ganlyniad, talwyd cryn sylw iddi gan arbenigwyr Ewropeaidd. Adlewyrchir y berthynas agos rhwng cerddoriaeth a barddoniaeth yr oes yn y modd y cyfeirir at ddarnau yn y llawysgrif trwy gyfrwng teitlau fel ‘Profiad’, ‘Gosteg’, ‘Caniad’ ac ‘Erddigan’.

Parhaodd swyddogaeth ganolog y delyn yn nhraddodiad lleisiol (cerdd dant) yr 17g. a’r 18g. yn ogystal ag fel offeryn unawdol. Fodd bynnag, wrth i gerddoriaeth Ewropeaidd ddatblygu ac wrth i delynorion o Gymru fentro i Loegr i ennill eu bywoliaeth, mabwysiadwyd y delyn deires (a darddai o ddinas Bologna yn yr Eidal). Rhoddodd hyn fod i wneuthurwyr telynau o’r fath (e.e. John Richards, Llanrwst, a Bassett Jones, Caerdydd), telynorion proffesiynol (e.e. John Parry, Parry Ddall) a chasgliadau cyhoeddedig megis Antient British Music (1742) a Musical & Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784) a adlewyrchai chwaeth a natur ddatblygedig y maes yng Nghymru’r cyfnod.

Er bod cyfeiriadau at y pibgorn yn ymddangos yng Nghyfreithiau Hywel Dda ac yn Llawysgrif Peniarth 20 (Brut y Tywysogion), yn y 18g. y croniclwyd hanes yr offeryn gan rai fel William Morris (1759), sy’n cyfeirio at weision fferm ym Môn yn defnyddio eu pibgyrn i ddwyn y gwartheg a’r defaid ynghyd ac yn chwarae’r alawon ‘Meillionnen’ a ‘Mwynen Mai’ i’w diddanu. Wrth drafod yr offeryn yn y cylchgrawn Archaeologia (1786), dywed Daines Barrington fod cystadleuaeth flynyddol yn cael ei chynnal ar gyfer chwaraewyr pibgorn ym Môn a bod 200 ohonynt wedi dod ynghyd mewn digwyddiad o’r fath ar Fferm Castellior, ger Pentraeth, sy’n arwydd o apêl yr offeryn erbyn diwedd y ganrif.

Wrth i boblogrwydd y crwth edwino, croesawyd y feiolin glasurol gan gerddorion y traddodiad Cymreig. Dwy ffynhonnell werthfawr sy’n dyddio o’r 18g. yw’r casgliad llawysgrifol (1752) o waith y ffidlwr John Thomas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsgr. J. Lloyd Williams AH1/36) a llawysgrif Morris Edwards o Ynys Môn (llsgr. Bangor 2294, dyddiedig 1778), sy’n adlewyrchu chwaeth gerddorol y dydd a’r alawon a oedd yn gyffredin – rhai tebyg i ‘Lili ym mûsg y Drain’, ‘Dime gôch’, ‘Fflanti Too’, ‘Dadl dau’ ac ‘Ar hyd y nos’. Mabwysiadwyd y rhain yn y man gan delynorion a chasglyddion cerddoriaeth y delyn yng Nghymru trwy gyfoethogi’r gwead ac ychwanegu geiriau at rai ohonynt cyn eu cyhoeddi yng nghyfrolau’r 18g.

Ochr yn ochr â hyn, tyfodd poblogrwydd y delyn yn y 18g. trwy gyfrwng yr eisteddfod a defnyddiwyd yr offeryn fel cyfrwng cyfeiliant i ganu yn bennaf. Er bod cyfeiliannau ar gyfer y delyn a’r piano yn ymddangos yng nghasgliad cyhoeddedig Maria Jane Williams o ganeuon gwerin, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (Llanymddyfri, 1844), digon diddychymyg a digyfeiriad yw safon a chynnwys y cynnyrch offerynnol hwnnw.

Roedd diffyg addysg a hyfforddiant gerddorol ffurfiol yng Nghymru yn rhwystr i ddatblygiadau cerdd o sylwedd ond eto i gyd, ymddangosodd nifer o unawdau a chasgliadau o waith y telynor John Thomas (Pencerdd Gwalia), er enghraifft Welsh Melodies (1862) sy’n cyflwyno ceinciau Cymreig mewn arddull a diwyg Ewropeaidd-glasurol ei naws. Yn dilyn ei deithiau tramor i Ffrainc, Awstria, Tsiecoslofacia a’r Eidal (lle cyfarfu â rhai o brif gyfansoddwyr y dydd), lledodd yr ymwybyddiaeth o draddodiadau cerddorol y Cymry ynghyd â’i enw fel telynor mwyaf dawnus ei genhedlaeth.

Bu’r cynnydd syfrdanol ym mhoblogaeth de a gogledd-ddwyrain Cymru yn ystod y 19g. yn fodd i ymestyn y galw am gerddoriaeth o bob math, gan gynnwys cyngherddau, eisteddfodau, addysg a hyfforddiant cerddorol, cerddoriaeth gyhoeddedig ac ensemblau. Yn ystod teyrnasiad Victoria y sefydlwyd y bandiau pres cyntaf a gysylltwyd â’r gweithfeydd haearn a dur, glo a llechi, a thyfodd poblogrwydd yr harmoniwm yng nghyd-destun addoliad, ynghyd â’r organ bib fel modd i gyfeilio i ganiadaeth y cysegr, cymanfaoedd canu a pherfformiadau’r cymdeithasau corawl o weithiau fel Messiah (Handel) ac Elijah (Mendelssohn) a ddaeth mor gyffredin yn y cyfnod.

Mentrodd rhai cymunedau i gynnal perfformiadau o oratorios a chantatas y dydd i gyfeiliant bandiau pres (e.e. Band Cyfarthfa, Merthyr) ac yn raddol daeth ymweliadau gan gerddorfeydd clasurol o’r tu hwnt i’r ffin (o Lerpwl a Manceinion, Bryste a Chaerfaddon) yn fwy cyffredin yng ngogledd a deheudir Cymru. Erbyn canol y ganrif bu datblygu’r delyn bedal (arwaith sengl a dwbl) gan aelodau o deulu Erard yn Llundain yn fodd i gyflwyno offeryn mwy hyblyg a dibynadwy i’r traddodiad offerynnol yng Nghymru. Ni ddisodlwyd y delyn fach ‘farddol’ na’r delyn deires gromatig, ond bu dyfodiad y delyn bedal yn rheswm digonol i rai o delynorion proffesiynol y genedl newid eu techneg a’u repertoire yn gyfan gwbl. Y delyn bedal a cherddoriaeth fwy Ewropeaidd a chlasurol ei naws a aeth â bryd y mwyafrif o gerddorion mewn gwirionedd, er i rai barhau’n ffyddlon i’r delyn deires (e.e. John Roberts, Telynor Cymru).

Ar droad yr 20g. bu’r datblygiadau graddol ym myd addysg gerddorol yng Nghymru yn fodd i godi safonau perfformio offerynnol ac i ehangu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd ar wahân i’r delyn. Yn dilyn sefydlu adrannau cerdd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd a Bangor, ffurfiwyd triawdau piano (feiolin, soddgrwth a phiano) a phedwarawdau llinynnol (dwy feiolin, fiola a soddgrwth) a fu’n perfformio’n gyson yn y cymdogaethau hynny ond y cyflawnodd eu haelodau waith fel athrawon offerynnol teithiol yn ogystal.

Henry Walford Davies (1869-1941) a’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol fu’r dylanwad pennaf ar y maes ac a fu’n gyfrwng i ledaenu’r diddordeb mewn offerynnau cerdd (offerynnau cerddorfaol yn bennaf). Pwysleisiwyd pwysigrwydd cerddoriaeth ym maes llafur ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y man penodwyd ymgynghorydd cerdd cenedlaethol yn ogystal ag arolygwyr cerdd sirol i oruchwylio’r datblygiadau arwyddocaol hyn (Allsobrook, 1992).

Yn eu sgil, sefydlwyd y ddarpariaeth offerynnol beripatetig gyntaf o’i bath ym Mhrydain a fu’n ysbrydoliaeth i’r gwaith o sefydlu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (y gerddorfa ieuenctid gyntaf yn y byd) yn 1946-7. Roedd bodolaeth ‘The National Orchestra of Wales’ (1928-31) (gw. Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau) a cherddorfeydd y BBC yng Nghymru (o 1933 hyd at y presennol) yn gyfrwng i ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc a’u hargyhoeddi o werth a phwysigrwydd cerddoriaeth offerynnol hefyd.

Yn yr un modd, bu’r cynnydd sylweddol yn nifer y sefydliadau cerdd Cymreig (e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru, y BBC yng Nghymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru) yn allweddol i’r adfywiad a oedd ar droed bryd hynny. Trwy gyfrwng cerddorfeydd a bandiau pres yn y mwyafrif o siroedd Cymru o’r 1970au hyd yr 1990au, cafwyd cyfle arbennig i feithrin y doniau offerynnol ifanc a oedd yn ymddangos ar lwyfannau’r genedl. Mentrodd rhai ohonynt i golegau cerdd Llundain a Manceinion i fireinio eu crefft, ond dychwelodd eraill i ddiwallu’r angen am athrawon ac offerynwyr o safon yn ensemblau Caerdydd, Abertawe a’r gogledd.

Er mai ym maes cerddoriaeth offerynnol glasurol y Gorllewin y profwyd y dadeni amlycaf yn yr 20g., cafwyd hefyd gryn gynnydd a diddordeb ym maes cerddoriaeth draddodiadol offerynnol wedi’r 1960au. Yn sgil cyfraniad Nansi Richards (Telynores Maldwyn) i fyd y delyn deires, cododd to newydd o delynorion traddodiadol, yn unawdwyr fel Llio Rhydderch a Robin Huw Bowen ac yn offerynwyr mewn grwpiau gwerin (e.e. Dafydd a Gwyndaf Roberts yn Ar Log).

Bu’r galw am offerynnau traddodiadol yn ysgogiad i nifer o wneuthurwyr telynau teires (e.e. John Weston Thomas, Cas-blaidd, Sir Benfro) a gwneuthurwyr crythau (e.e. Robert Evans, Caerdydd) a phibgyrn (e.e. Jonathan Shorland) fynd ati, crefftwyr a oedd yn ymddiddori yn hanes a datblygiad yr offerynnau brodorol hyn yn ogystal â’r grefft o’u hatgynhyrchu a’u canu. Yn dilyn sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach) a trac a thrwy gyfrwng gweithdai, penwythnosau hyfforddi a’r Glerorfa (cerddorfa o offerynwyr traddodiadol), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr offerynwyr a ymddiddorai yn y ceinciau a’r alawon gwerin.

Er bod dylanwad traddodiadau cerddorol Iwerddon yn amlwg yn yr 1990au a’r defnydd o’r mandolin, y gitâr, y bodhran, y bouzouki a’r chwisl dun yn lled gyffredin yng Nghymru, gwelir bod yr awydd i adfywhau offerynnau Cymreig y gorffennol - y ffidil, y delyn, y crwth a’r pibau - yn hawlio cryn sylw ymhlith cerddorion traddodiadol. Bu’r cynnydd yn nifer y clybiau gwerin, gwyliau gwerin (e.e. Gŵyl Werin Dolgellau) a sesiynau cyd-chwarae ledled Cymru, yn ogystal â pharodrwydd y cwmnïau darlledu (BBC Cymru ac S4C) a recordio (Recordiau Sain a Fflach Traddodiadol) i gyflwyno arlwy gerddorol eang yn gymorth i gefnogi’r maes ar drothwy’r 21g.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Cyfreithiau Hywel Dda (Llsg. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth MS 20143A)
  • Gottfried von Strassburg, Tristan: With the Surviving Fragments of the ‘Tristran of Thomas’ (Llundain, 1960)
  • Thurston Dart, ‘The Robert ap Huw Manuscript of Welsh Harp music (ca. 1613)’, The Galpin Society Journal, 21 (Mawrth, 1968), 52–65
  • Constance Bullock-Davies, Menstrellorum Multitudo (Caerdydd, 1978)
  • Ernest Roberts, John Roberts ‘Telynor Cymru’ (Dinbych, 1978)
  • Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1978)
  • Lewis Thorpe (gol.), Journey through Wales/The Description of Wales (Llundain, 1978)
  • Ann Rosser, Telyn a Thelynor: Hanes y delyn yng Nghymru 1700–1900 (Caerdydd, 1981)
  • Trevor Herbert, Bands: the brass band movement in the 19th and 20th centuries (Milton Keynes, 1991)
  • Gareth Williams, Valleys of Song: music and society in Wales 1840–1914 (Caerdydd, 1998)
  • Cass Meurig, Alawon John Thomas: a fiddler’s tune book from eighteenth-century Wales (Aberystwyth, 2004)
  • Wyn Thomas, Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru: Llyfryddiaeth (Llanrwst, 2006)
  • Sally Harper, Music in Welsh culture before 1650: a study of the principal sources (Aldershot, 2007)
  • Paul Whittaker, ‘Ffurfiau Harmonig yn Llawysgrif Robert ap Huw’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 7 (2007), 35–54.
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.