Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Owen, David (Dafydd y Garreg Wen; 1711-41)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
(Llyfryddiaeth)
Llinell 22: Llinell 22:
 
*John Edwards Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire families'' (Horncastle, 1914)
 
*John Edwards Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire families'' (Horncastle, 1914)
  
*William Rowland, ‘Dafydd y Garreg Wen (1711–1741)’,
+
*William Rowland, ‘Dafydd y Garreg Wen (1711–1741)’, ''Gwýr Eifionydd'' (Dinbych, 1953), 60–66  
''Gwýr Eifionydd'' (Dinbych, 1953), 60–66  
 
  
 
*Huw Williams, ''Canu’r Bobol'' (Dinbych, 1978)
 
*Huw Williams, ''Canu’r Bobol'' (Dinbych, 1978)

Diwygiad 15:20, 29 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Telynor oedd David Owen, neu Dafydd y Garreg Wen. Yn fab i Gwen Roberts, Isallt Fawr, Llanfihangel-y-Pennant, Sir Gaernarfon, a’i gŵr cyntaf, Owen Humphrey o Ynyscynhaearn, ger Pentrefelin, yn yr un sir, roedd yn byw yn y Garreg Wen, ffermdy uwchlaw Llyn y Garreg Wen ger y ffordd rhwng Porthmadog a Morfa Bychan. Credir mai un o’i athrawon oedd Capten Williams, y Borth (‘Y Smyglwr’ fel y’i gelwid), un o nifer o delynorion a drigai yn yr ardal bryd hynny. Oherwydd bod cyn lleied yn hysbys am ei fywyd, mae traddodiad wedi tueddu i wneud iawn am y diffyg ffeithiau.

Mae’n enwog am un alaw yn arbennig ac am amgylchiadau ei chyfansoddi. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf gan Edward Jones (Bardd y Brenin) yn Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784), dros ddeugain mlynedd wedi marw Owen, lle mae Jones yn nodi:

Mae traddodiad cyffredin yn Sir Gaernarfon i fardd o’r enw hwn, ar ei wely angau, alw am ei delyn a chanu’r alaw brudd hon, gan ofyn iddi gael ei chanu hefyd yn ei angladd. Byth ers hynny, mae’r alaw wedi dwyn ei enw, ac enw’r Garreg Wen, y tŷ lle’r oedd yn byw yn y sir honno, tŷ sy’n dal i sefyll heddiw.

Yn ôl y telynor Lewis Roberts (Eos Twrog; 1756–1844) a oedd wedi siarad â rhywun a fu yn y cynhebrwng, gwireddwyd ei ddymuniad, ond mae Edward Jones yn betrus ynghylch dilysrwydd yr alaw, gan ychwanegu hyn amdani: ‘Nid oes sicrwydd a oedd hi’n hen alaw, ynteu ai’r Bardd ei hun a’i cyfansoddodd wrth farw.’ Yn wir, ceir adlais ynddi o rai elfennau sy’n debyg i’r Andante yn Sonata yn D fwyaf (1761) gan ŵr a oedd yn cydoesi bron a John Parry (Parry Ddall, Rhiwabon) (c.1710–82). Honnwyd hefyd fod tebygrwydd rhyngddi ac alaw werin Rwsiaidd adnabyddus, a rhyngddi ac alaw Albanaidd o’r enw ‘July Jott’.

Awgrymir cysylltiad Albanaidd hefyd ag alaw arall a briodolir i Owen: ‘Difyrrwch Gwŷr Cricieth’. Mae tebygrwydd rhyngddi mewn mannau a ‘Roslin Castle’, alaw a gasglwyd gan François Hippolyte Barthélémon (1741–1808) ar droad y 19g. ac sydd wedi ymddangos mewn nifer o gasgliadau ers hynny. Yn ôl un traddodiad, Owen a’i cyfansoddodd yn ystod ymweliad â pherthynas a oedd yn gweithio fel garddwr yng Nghastell Roslin, Midlothian, yn yr Alban; a thraddodiad arall yw mai gartref y’i cyfansoddodd fel ‘Difyrrwch Gwŷr Cricieth’, ac iddo’i hanfon at ei berthynas, a bod enw’r alaw wedi ei newid wedi hynny yn ‘Roslin Castle’.

Priodolwyd trydedd alaw, ‘Codiad yr Ehedydd’, i Owen gyntaf mewn casgliadau yng nghanol y 19g., gan gynnwys Cant o Ganeuon (1863). Yn ôl un traddodiad fe’i cyfansoddodd ger y Garreg Wen wrth ddychwelyd adref ar doriad gwawr, ac yntau wedi bod yn canu’r delyn hyd yr oriau mân ym Mhlas- y-Borth gerllaw, ac yn clywed cân yr ehedydd wrth iddi wawrio.

Bu Owen farw’n ddibriod o’r diciâu ar 2 Awst 1741 ac fe’i claddwyd ym mynwent Ynyscynhaearn. Gosodwyd carreg newydd yn 1840 yn lle’r hen garreg arw (y credir bod llun o delyn arni) ag arian a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus, er y gwyddys bellach fod rhai o’r manylion sydd arni’n anghywir.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • John Edwards Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire families (Horncastle, 1914)
  • William Rowland, ‘Dafydd y Garreg Wen (1711–1741)’, Gwýr Eifionydd (Dinbych, 1953), 60–66
  • Huw Williams, Canu’r Bobol (Dinbych, 1978)
  • Geraint Jones, Hen Gerddorion Eifionydd (Caernarfon, 1993)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.