Owen, John (Owain Alaw; 1821-83)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:51, 28 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed John Owen yn Crane Street, Caer, i rieni a hanai o Lanfachreth, Meirionnydd. Ar ôl cwblhau ei addysg fe’i prentisiwyd i gwmni gwneud cyllyll yng Nghaer, ond yn 1844 ymddiswyddodd er mwyn neilltuo’i holl amser i gerddoriaeth.

Ei athro cerddoriaeth cyntaf oedd Edward Peters o Gaer, ac yna aeth yn ddisgybl i’r cerddor nodedig o Lundain, Charles Lucas (1808-69), a olynodd Cipriani Potter fel arweinydd cerddorfaol (a phrifathro’n ddiweddarach) yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Daeth John Owen yn organydd yng Nghapel yr Octagon yng Nghaer, un o’r nifer o gymrodoriaethau ledled y Deyrnas Unedig yr oedd Iarlles Huntingdon yn eu cefnogi (Hanshall 1817, 278), er iddo symud yn ddiweddarach i Eglwys Gymraeg y Santes Fair, Caer. Daeth i’r amlwg am y tro cyntaf yn Eisteddfod Rhuddlan, 1851, lle’r enillodd yr wobr gyntaf am yr anthem ‘Debora a Barac’.

Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, yn Eisteddfod Tremadog, daeth yn gyd-fuddugol am ei gantata, Gweddi Habacuc, â J. Ambrose Lloyd (Nicholls 1997). (Barnai S. S. Wesley mai cyfansoddiad Owain Alaw oedd y gorau, ond roedd ei gyd-feirniaid, y Parchedigion John Mills a J. D. Edwards, yn ffafrio J. Ambrose Lloyd.) Ac yntau’n unawdydd bariton arbennig, yn arweinydd, yn gyfeilydd ac yn gyfansoddwr, mae’n debyg mai Owain Alaw oedd cerddor Cymreig mwyaf amryddawn a blaengar y 19g.

Ym mis Mai 1857 cyhoeddwyd fod Eisteddfod Fawr Llangollen i’w chynnal y flwyddyn ddilynol ([di-enw] 1857, 4) – Eisteddfod nodedig a fyddai’n arwain yn uniongyrchol at sefydlu’r Eisteddfod Genedlaethol, ac un a ysbrydolwyd gan y rheithor Anglicanaidd John Williams (Ab Ithel; 1811–62) ac Owain Alaw. Fel cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, cyflwynodd Owain Alaw gystadleuaeth i lunio’r casgliad mwyaf niferus o alawon Cymreig anghyhoeddedig. Dyfarnodd y wobr gyntaf o £10 i’r telynor o Aberdâr, Thomas David Llewelyn (Llewelyn Alaw; 1828–79), er ei fod hefyd yn awyddus i ddiogelu’r casgliad a gyflwynwyd gan ‘Orpheus’ y dyfarnodd iddo’r ail wobr o £5 (Edwards 1989, 9). ‘Orpheus’ oedd ffugenw James James (Iago ap Ieuan; 1833–1902), cyfansoddwr y dôn ‘Glan Rhondda’, a ddaeth maes o law yn anthem genedlaethol Cymru ‘Hen Wlad fy Nhadau’.

Dechreuodd Owain Alaw baratoi ei gyfrol o alawon Cymru, Gems of Welsh Melody (Owen 1860), a chysylltodd â’r argraffydd o Ruthun, Isaac Clarke, cyd-eglwyswr a chyhoeddwr cerddoriaeth anadnabyddus ar y pryd, ynglŷn â chyhoeddi’r gwaith. Yn y cyhoeddiad hwn a argraffwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yr ymddangosodd y copi printiedig cyntaf o ‘Hen Wlad fy Nhadau’ (gw. Williams 1978, 7). Roedd Owain Alaw yn flaenllaw yng nghylchoedd yr Eisteddfod a sicrhaodd boblogrwydd i ‘Glan Rhondda’ drwy ganu’r alaw mewn cyngherddau ledled y gogledd, yn aml yng nghwmni’r bardd John Jones (Talhaiarn; 1810–69), wrth i’r ddeuawd deithio o amgylch yn cyflwyno nosweithiau cerddorol o dan faner ‘Noson gyda Tal ac Alaw.’

Roedd John Jones, a aned yn nhafarn yr Harp‚ Llanfairtalhaearn, Sir Ddinbych, yn bensaer eglwysi ac yn fardd; ef a ysgrifennodd eiriau Cymraeg y gantata Llewelyn (1863) a The Bride of Neath Valley (1866), ynghyd â’r geiriau ar gyfer alawon Cymreig yn Welsh Melodies John Thomas (Pencerdd Gwalia) ([di-enw] 1859, 4). Cyhoeddwyd Gems of Welsh Melody yn 1860. Ddeuddeng mis yn ddiweddarach fe’i hyrwyddwyd wrth arddangos doniau Cymreig yn Neuadd San Siôr, adeilad a dystiai i statws diwylliannol Lerpwl, ac o bosibl y lleoliad uchaf ei fri yng ngogledd-orllewin Lloegr ([di-enw] 1861, 1). Enillodd Owain Alaw wobr yn Eisteddfod Caernarfon 1862 am Tywysog Cymru ac erbyn diwedd y degawd roedd anthem genedlaethol Cymru’n cael ei chanu ar y dôn ‘Glan Rhondda’ a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ennill ei phlwyf yn gadarn.

Mae’n amlwg nad oedd enwadaeth yn mennu dim ar Owain Alaw, er i Caradog Roberts honni bod y cerddor wedi cael ei anwybyddu gan bobl Cymru a hynny oherwydd nad oedd ynghlwm wrth unrhyw un o enwadau Anghydffurfiol mawr y wlad. Roedd yn anffodus iddo ef, yn ôl Caradog Roberts, mai organydd yn Eglwys Loegr ydoedd! (Roberts 1922, 270)

Godfrey Williams

Llyfryddiaeth

  • J. H. Hanshall, The History of the County Palatine of Chester (Caer, 1817)
  • [di-enw] ‘Llangollen’, yn Wrexham Advertiser & North Wales Register (23 Mai 1857), 4
  • [di-enw] ‘Chirk’‚ yn Wrexham Advertiser & North Wales Register (9 Mehefin 1859), 4
  • John Owen (Owain Alaw), Gems of Welsh Melody: A selection of popular Welsh Songs, with English and Welsh words... (Rhuthun, 1860)
  • [di-enw] Advertisements & Notices, yn Liverpool Mercury (13 Rhagfyr 1861), 1
  • Caradog Roberts, ‘Ieuan Gwyllt and Tanymarian’, Y Cerddor Newydd, 1/10 (Rhagfyr, 1922), 270
  • Huw Williams, ‘Y Cyhoeddwr a anghofiwyd’, Y Casglwr, 6 (Nadolig, 1978), 7
  • Oswald Edwards, A Gem of Welsh Melody (Rhuthun, 1989)
  • Robert G. Nicholls‚ ‘Hanes yr Anthem Gysegredig yng Nghymru, 1850–1950’, Seren Cymru (22 Awst 1997), 3



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.