Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Palladino, Pino (g.1957)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 4: Llinell 4:
 
Gitarydd bas amryddawn a aned yng Nghaerdydd yw Pino Palladino, neu Giuseppe Henry Palladino a rhoi iddo ei enw iawn. Daeth i amlygrwydd ar ddiwedd yr 1970au gan berfformio gyda’r pianydd ''boogie-woogie'' Jools Holland. Fodd bynnag, o ran recordio, gydag artistiaid pop Cymraeg megis [[Emlyn, Endaf (g.1944) | Endaf Emlyn]] a [[Jones, Caryl Parry (g.1958) | Caryl Parry Jones]] y dechreuodd wneud ei farc. Roedd ei gyfraniadau i’w clywed yn amlwg ar recordiau hir megis ''Dawnsionara'' Endaf Emlyn (Sain, 1981), sy’n cynnwys solo gan Palladino ar drac-deitl y record, a ''Ladi Wen'' Caryl a’r Band (Gwerin, 1983).
 
Roedd sain y gitâr fas ddi-ffret ''(fretless bass)'' eisoes wedi ei datblygu yn yr 1970au ym maes [[jazz]]-roc ym mherfformiadau gitaryddion bas megis Jaco Pastorius (Weather Report) a John Patitucci (grŵp Chick Corea), ond llai cyffredin oedd ei defnydd yng nghyd-destun [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | pop a roc]]. Gwnaeth Palladino lawer i amlygu a phoblogeiddio’r sain hon yn yr 1980au trwy bwysleisio ochr delynegol a melodig yr offeryn. Lle’r oedd yr offeryn yn aml yn chwarae rhan eilradd mewn caneuon pop, sicrhaodd perfformiadau medrus Palladino arno ei fod yn chwarae rhan bwysig yng ngwead cyffredinol cân.
+
Roedd sain y gitâr fas ddi-ffret ''(fretless bass)'' eisoes wedi ei datblygu yn yr 1970au ym maes [[jazz]]-roc ym mherfformiadau gitaryddion bas megis Jaco Pastorius (Weather Report) a John Patitucci (grŵp Chick Corea), ond llai cyffredin oedd ei defnydd yng nghyd-destun [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | pop a roc]]. Gwnaeth Palladino lawer i amlygu a phoblogeiddio’r sain hon yn yr 1980au trwy bwysleisio ochr delynegol a melodig yr offeryn. Lle’r oedd yr offeryn yn aml yn chwarae rhan eilradd mewn caneuon pop, sicrhaodd perfformiadau medrus Palladino arno ei fod yn chwarae rhan bwysig yng ngwead cyffredinol cân. [[Delwedd:Palladino The Who.jpg|thumb|<small>Pino Palladino yn perfformio gyda The Who yn Philadelphia, 2008.</small>]]
  
Roedd yn hoff o ychwanegu cyfalawon uwchben nodau isel arferol y gitâr fas, neu linellau mewn wythfedau a chordiau o bryd i’w gilydd, megis yn y caneuon ‘Whenever I Lay My Hat (That’s My Hat)’ ac ‘Everytime You Go Away’, a fu’n llwyddiannus yn siartiau Prydain ac Unol Daleithiau America i’r canwr Paul Young rhwng 1983-5. Profai Palladino y gallai’r offeryn di-ffret fod yn rhythmig hefyd, fel yn ei gyfraniadau deinamig ar record hir unawdol gitarydd The Who, Pete Townshend, ''Quiet City (a Novel)'', hefyd o 1985, megis y gân ‘Give Blood’.
 
Y diwygiad cyfredol, am 12:34, 26 Medi 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gitarydd bas amryddawn a aned yng Nghaerdydd yw Pino Palladino, neu Giuseppe Henry Palladino a rhoi iddo ei enw iawn. Daeth i amlygrwydd ar ddiwedd yr 1970au gan berfformio gyda’r pianydd boogie-woogie Jools Holland. Fodd bynnag, o ran recordio, gydag artistiaid pop Cymraeg megis Endaf Emlyn a Caryl Parry Jones y dechreuodd wneud ei farc. Roedd ei gyfraniadau i’w clywed yn amlwg ar recordiau hir megis Dawnsionara Endaf Emlyn (Sain, 1981), sy’n cynnwys solo gan Palladino ar drac-deitl y record, a Ladi Wen Caryl a’r Band (Gwerin, 1983).

Roedd sain y gitâr fas ddi-ffret (fretless bass) eisoes wedi ei datblygu yn yr 1970au ym maes jazz-roc ym mherfformiadau gitaryddion bas megis Jaco Pastorius (Weather Report) a John Patitucci (grŵp Chick Corea), ond llai cyffredin oedd ei defnydd yng nghyd-destun pop a roc. Gwnaeth Palladino lawer i amlygu a phoblogeiddio’r sain hon yn yr 1980au trwy bwysleisio ochr delynegol a melodig yr offeryn. Lle’r oedd yr offeryn yn aml yn chwarae rhan eilradd mewn caneuon pop, sicrhaodd perfformiadau medrus Palladino arno ei fod yn chwarae rhan bwysig yng ngwead cyffredinol cân.
Pino Palladino yn perfformio gyda The Who yn Philadelphia, 2008.

Roedd yn hoff o ychwanegu cyfalawon uwchben nodau isel arferol y gitâr fas, neu linellau mewn wythfedau a chordiau o bryd i’w gilydd, megis yn y caneuon ‘Whenever I Lay My Hat (That’s My Hat)’ ac ‘Everytime You Go Away’, a fu’n llwyddiannus yn siartiau Prydain ac Unol Daleithiau America i’r canwr Paul Young rhwng 1983-5. Profai Palladino y gallai’r offeryn di-ffret fod yn rhythmig hefyd, fel yn ei gyfraniadau deinamig ar record hir unawdol gitarydd The Who, Pete Townshend, Quiet City (a Novel), hefyd o 1985, megis y gân ‘Give Blood’.

O ganlyniad i’w berfformiadau meistrolgar bu cryn alw am wasanaeth Palladino fel cerddor sesiwn yn ystod yr 1980au a’r 1990au, a recordiodd gyda nifer o brif artistiaid pop a roc y cyfnod, gan gynnwys Joan Armatrading, Phil Collins, David Gilmour (Pink Floyd), Peter Gabriel, Don Henley, Chaka Khan a Tears for Fears. Yn ystod yr 1990au aeth ati i ddefnyddio’r gitâr fas arferol (gyda ffretiau) yn fwy rheolaidd, a gweithiodd gyda Richard Ashcroft o The Verve.

Yn dilyn marwolaeth annisgwyl y gitarydd bas John Entwistle yn 2002, daeth Palladino yn aelod o The Who, gan recordio a theithio gyda’r band. Bu hefyd yn teithio gyda Simon and Garfunkel gan recordio ar albwm unawdol Paul Simon, Surprise (2006). Wedi iddo recordio a pherfformio gyda’r band Nine Inch Nails yn 2013, fe’i disgrifiwyd gan ganwr a chyfansoddwr y band, Trent Reznor, fel ‘gitarydd bas gorau’r byd’. Yn sicr, bu’n un o’r gitaryddion bas mwyaf prysur a chynhyrchiol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Pwyll ap Siôn

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.