Papurau newydd safonol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:20, 22 Hydref 2018 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Broadsheets

Term a ddefnyddir i ddisgrifio fformat (cymharol fawr) papur newydd, o’i gymharu â’r tabloid o faint llai. Mae papurau newydd broadsheet fel arfer yn cael eu lleoli ar begwn ‘difrifol’ y continwwm ansawdd, lle y mae’r wasg ‘boblogaidd’, y ‘tabloid’, ar y pegwn arall.

Yn deillio o’r 1600au a dechrau’r 1700au, pan oedd tudalennau mawr yn cael eu gwasgu ar gyfer eu cysodi ar weisg pren, mae esblygiad graddol nodweddion print gwahanol – megis mwy o ddefnydd o raffeg neu lai o golofnau – wedi cynyddu apêl y tudalennau tabloid. Mae papurau safonol broadsheet yn parhau i ffynnu mewn rhai rhannau o’r byd, lle y mae maint yn cyd-fynd â chanfyddiadau o fri a hygrededd, ond dechreuodd y gwahaniaeth rhwng maint y papurau safonol a’r tabloid ddiflannu mewn sawl man erbyn canol y 1990au, a hynny pan oedd cyllid yn gwneud taenlenni llydan yn ddewis llai fforddiadwy fel fformat.

Yn y Deyrnas Unedig, er enghraifft, symudodd y mwyafrif o deitlau papurau cenedlaethol at y fformat tabloid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r Daily Telegraph yn brif eithriad. Symudodd y Guardian at fformat canolig y ‘Berliner’ – yr un fath â Le Monde yn Ffrainc – yn 2005. Ar ddechrau 2018, cafodd y Guardian a’r Observer eu hargraffu ar ffurf tabloid er mwyn arbed arian.

Yn Unol Daleithiau’r America, symudodd rhai papurau newydd o’r fformat llydan at arddull tabloid ar rai dyddiau o’r wythnos yn unig, megis y St Louis Post-Dispatch, wrth i bapurau eraill, fel y New York Times, leihau maint eu tudalennau.





Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.