Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Telynor a chasglwr alawon gwerin Cymreig. Ganed John Parry ym Mryn Cynan ger Nefyn, Sir Gaernarfon, a daeth yn berfformiwr disglair a mawr ei fri ar y delyn deires. Cysylltwyd Robert Parry, perthynas o Lanllyfni, Sir Gaernarfon, a Stephen Shôn Jones, Traeth Mawr, Sir Feirionnydd, ill dau â’i astudiaethau cynnar ar y delyn. Mae’n bosibl iddo gael nawdd yn llanc gan deulu Griffith o blas Cefnamwlch gerllaw. Ymddengys ei fod wedi gadael yr ardal erbyn yr 1730au.

Cyfeiria William Morris (1705-63) at gyfnod a dreuliodd Parry yn Iwerddon, ac erbyn c.1733 roedd yn perfformio yn Llundain, yn Theatr Drury Lane ac yn Covent Garden. Yn 1734 fe’i penodwyd yn delynor i gartref Syr Watkin Williams Wynn (1692–1749), y 3ydd Barwnig, ac yn ddiweddarach i’w olynydd, ei fab o’r un enw, y 4ydd Barwnig (1749–89), y ddau o stad Wynnstay yn Rhiwabon, Sir Ddinbych. Roedd Parry i dreulio llawer o weddill ei fywyd yn byw naill ai yn Llundain neu yn Rhiwabon, lle’r oedd hefyd yn cael ei dalu fel organydd yn eglwys Rhiwabon. Yn Llundain bu’n chwarae i Dywysog Cymru (1738-1820), sef George III yn ddiweddarach (1760-1820).

Daliodd i berfformio ledled Prydain a gwyddom iddo gynnal cyngherddau yn Llundain, Caergrawnt, Rhydychen, Dulyn a Leeds. Ar ymweliad â Chaergrawnt yn 1757 ysbrydolwyd Thomas Gray (1716–71) gan ddatganiadau Parry i gwblhau ei gerdd ‘The Bard’, ac yn Wynnstay yn Hydref 1777 swynwyd yr actor David Garrick (1717–79) gan seiniau ei delyn. Gwyddys bod ei repertoire yn cynnwys Corelli, Geminiani, Handel, Vivaldi ac alawon gwerin o Loegr, yr Alban a Chymru – ynghyd â’i gyfansoddiadau ei hun yn ddiamau.

Yn Llundain, roedd yn aelod egnïol o Gymdeithas y Cymmrodorion. Efallai i hynny ddylanwadu ar ei benderfyniad i gyhoeddi (gyda chymorth ei ysgrifennydd Evan Williams) rhan gyntaf ei Antient British Music; or, a collection of tunes, never before published... (1742), casgliad a ystyrid y cyntaf o’i fath, er nad oes sicrwydd mai alaw Gymreig yw pob un o’r pedair alaw ar hugain o alawon dienw. Mae’r drafft anghyhoeddedig o ail ran ‘Antient British Music’ (c.1745), a ddarganfu Osian Ellis yn llyfrgell y Coleg Cerdd Brenhinol (Llundain), yn cynnwys chwe darn yr ystyrir mai nhw yw’r enghreifftiau cynharaf o osodiadau canu penillion.

Mae A Collection of Welsh, English and Scotch Airs, with New Variations, also Four New Lessons for the Harp or Harpsichord... (1761) yn ddiddorol yn bennaf oherwydd y ‘gwersi’ neu’r Sonatas sy’n enghreifftiau o gyfansoddiadau gwreiddiol Parry. Tybir mai British Harmony... (1781) yw’r gwaith olaf a gyhoeddodd, ac mae’n cynnwys dwy a deugain o alawon ac iddynt deitlau Cymraeg.

Ymhlith ei ddisgyblion yr oedd Edward Randles (1763–1820) a William Williams (Wil Penmorfa; 1759–1828). Priododd Elizabeth Keene a chawsant ddau fab: William, artist dawnus a disgybl i Syr Joshua Reynolds, a David, cerddor a ganai’r delyn (chwaraeodd gyda’i dad gerbron George III), yr organ a’r harpsicord, gan chwarae weithiau yn lle ei dad yn Wynnstay. Er iddo gael ei eni’n ddall, roedd Parry yn chwaraewr drafftiau brwd. Bu farw yn Rhiwabon ar 7 Hydref 1782.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • T. W. Pritchard, ‘Sir Watkin Williams Wynn, Fourth Baronet (1749–1789)’, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 27 (1978), 5–48; 28 (1979), 18–67
  • Osian Ellis, ‘John Parry (c.1710–1782), y Telynor Dall’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2000), 38–65



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.