Parry, John Orlando (1810-79)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:59, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr, perfformiwr, diddanwr a goganwr a oedd yn ffefryn gyda’r cyhoedd yn oes Victoria. Fe’i ganed yn Llundain ac astudiodd y piano a’r delyn gyda’i dad ( John Parry, Bardd Alaw); yn fachgen byddai weithiau’n perfformio fel trebl yn ei gyngherddau.

Astudiodd y delyn o dan Nicolas Bochsa (1789–1856) yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan ymddangos am y tro cyntaf fel unawdydd o delynor yn Llundain yn 15 oed ym mis Mai 1825. Fel ‘Master Parry’ perfformiodd yn Eisteddfod Powys (y Trallwng, 1824) ac yn Eisteddfod Gwent (Aberhonddu, 1826). Ymhlith ei gyfansoddiadau lleisiol y mae The Flying Dutchman, The Inchcape Bell, Wanted a Governess, Oh, ’tis the Melody a The Polka Explained. Roedd yn bianydd rhagorol, yn arlunydd dawnus (e.e. ‘Stryd yn Llundain’, ‘Y Telynor Cymreig Dall’) ac yn llenor difyr.

Mae ei ddyddlyfrau diddan yn dechrau ar 2 Medi 1828 gyda ‘Tour in North Wales’, sy’n adrodd hanes ymweliad tad a mab ag Eisteddfod Fawr Dinbych, 16–18 Medi, lle perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf fel unawdydd bas. Mae’n rhoi manylion y darnau a gafodd eu chwarae yn y cyngherddau, y perfformwyr a’i ymddangosiadau ei hun fel telynor, pianydd, organydd a chanwr, gan gynnwys perfformiadau gyda’i dad yng nghyfansoddiadau’r tad.

Erbyn 1831 roedd yn adnabyddus fel canwr baledau o fariton a gyfeiliai iddo’i hun ar y delyn. O 4 Gorffennaf 1833 hyd 3 Ebrill 1834 teithiodd i Ewrop i gwblhau ei addysg gerddorol gan ymarfer Ffrangeg, Eidaleg ac arlunio, a chan aros ym Mharis a Napoli a chael gwersi canu yno gan Luigi Lablanche (1794–1858). Bu cyngerdd elusennol yn Posilipo ar 14 Mawrth 1834 yn hwb mawr i’w boblogrwydd ar y cyfandir. Ar 30 Mehefin 1835 priododd Anne Coombe. Ganed dwy ferch iddynt, Maria ac Emily. Canodd mewn budd-gyngerdd ym Mehefin 1836 gyda’r contralto operatig enwog, Malibran (1808–36). Roedd yn gyfaill i’r pianyddion Sigismond Thalberg (1812–71) ac Ignaz Moscheles (1794–1870).

Yn ystod 1840–48 bu’n teithio o amgylch Prydain yng nghwmni nifer o artistiaid cyngerdd o fri rhyngwladol, gan gynnwys Franz Liszt (1811–86) yn 1840–41. Teithiodd Parry ei hun o amgylch de Cymru ym mis Medi 1844 a gogledd-ddwyrain Cymru ym mis Awst 1848, ond yn 1849 rhoddodd y gorau i ganu mewn cyngherddau er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel diddanwr comedi. Rhoddai berfformiad dwyawr bob dydd (caent eu cyd-ysgrifennu ganddo ef ac Albert Smith). Roedd y rhain yn cyfuno ei allu cerddorol ac artistig â’i ddawn fel perfformiwr a dynwaredwr a’i allu i sylwi’n fanwl ar agweddau hurt bywyd. Bu’n diddanu yn yr un modd yn 1850 ac 1852, gan ennill £1,000 y mis ar frig ei yrfa, ond erbyn haf 1853 roedd ei iechyd wedi torri ac fe’i gorfodwyd i orffwys am gyfnod hir. Symudodd i Southsea, Hampshire, ac yno daeth yn organydd yn Eglwys Sant Jwdas, bu’n addysgu a chyhoeddodd Ridiculous Things... (1854).

Dychwelodd i Lundain yn 1860 gan ailddechrau perfformio, ysgrifennu’r Manual of Musical Terms ffraeth (1863) ac ymddeol yn 1869. Ymddangosodd am y tro olaf yn broffesiynol mewn budd-gyngerdd a roddwyd i’w anrhydeddu yn Theatre y Gaiety ar 7 Chwefror 1877. Dirywiodd ei iechyd eto a bu farw yn East Molesey, Surrey, ar 20 Chwefror 1879.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • Janet Snowman, John Orlando Parry and the Theatre of London (Llundain, 2010)
  • Isaac J. Williams, ‘The Diaries of John Orlando Parry’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1938), 87–102
  • Winston Gwynne John, ‘John Parry 1776–1851’ (traethawd MA Prifysgol Lerpwl, 1951)
  • David Allsobrook, ‘Liszt’s Welsh Travelling-Companion: John Orlando Parry (1809–1879)’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 9/5 (1992), 57–71



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.