Parry, Joseph (1841-1903)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr ac addysgwr. Fe’i ganed yn Georgetown, Merthyr Tudful, yn fab i weithiwr yng Nghyfarthfa, gwaith haearn W. T. Crawshay. Dechreuodd Joseph ei hun weithio yno yn ddeuddeg oed, ac yntau eisoes wedi gweithio am dair blynedd mewn pwll glo. Ni chafodd fawr ddim addysg ffurfiol, ond honnai pan oedd yn hŷn iddo glywed band enwog Cyfarthfa (y band a gâi ei noddi gan R. T. Crawshay) yn perfformio yn yr awyr agored ac i hynny ennyn cariad ynddo at gerddoriaeth a fyddai’n pennu hynt ei fywyd.

Yn 1854 mudodd i America gyda’i fam a’i frodyr a’i chwiorydd i ymuno â’i dad, a oedd wedi mynd yno flwyddyn ynghynt i chwilio am well byd. Ymgartrefodd y teulu yn nhref Danville, Pennsylvania, lle’r oedd y nifer mwyaf dwys o fewnfudwyr o Gymru i ogledd America yn byw. Cafodd waith crefft yn lleol, ond yn Danville y cafodd y cyfle i ddysgu cerddoriaeth yn ffurfiol dan gyfarwyddyd athrawon a oedd hefyd wedi mudo o Gymru. Dysgodd yn gyflym, ac erbyn 1860 roedd wedi ennill gwobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Danville. Bu’r llwyddiant hwn yn anogaeth iddo anfon cyfansoddiadau i’w hystyried at eisteddfodau yng Nghymru. Ar ôl ennill gwobrau yn Abertawe yn 1863 ac yn Llandudno yn 1864, dychwelodd i Gymru y flwyddyn ddilynol ar gyfer Eisteddfod Aberystwyth, a derbyn yr enw barddol ‘Pencerdd America’.

Yn 1868 cafodd le yn yr Academi Gerdd Frenhinol (Llundain). Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yr Academi yn cael eu noddi gan bendefigion, ond bu modd i Joseph Parry fynychu o ganlyniad i gymorth ariannol a gafodd gan amrywiaeth ehangach o Gymry. Astudiodd gyfansoddi gyda Sterndale Bennett, ac yn 1871 (dair blynedd ar ôl dechrau yn yr Academi) ef oedd y Cymro cyntaf i ennill gradd MusB o Brifysgol Caergrawnt, lle’r oedd Sterndale Bennett hefyd yn Athro.

Yna dychwelodd i Unol Daleithiau America, ond bellach roedd ei ymlyniad wrth ei wlad enedigol yn gryf, a’i enw da yno wedi’i sicrhau. Daeth yn ôl i Gymru yn 1874 yn Athro Cerddoriaeth cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, a oedd newydd agor yn Aberystwyth. Roedd yn Athro bywiog ond anghonfensiynol a frwydrai’n ddiflino dros ei bwnc a’i gredoau, a bu aml i wrthdaro rhyngddo a’r coleg. Un achos anghydfod oedd ei fod yn mynnu y dylai menywod gael bod yn aelodau o’i adran – yn un peth am fod angen lleisiau merched ar ei gôr.

Gadawodd y brifysgol yn 1880 (wedi’i ddiswyddo i bob pwrpas gan awdurdodau’r coleg) am resymau sy’n dal heb eu llawn ddeall, ond bu ei gyfnod yno yn un pwysig. Plannwyd y syniad sylfaenol o gael addysg gerddorol ar lefel prifysgol yng Nghymru, a byddai eraill yn adeiladu ar y seiliau hyn. Cadarnhaodd hefyd ei enw da yn genedlaethol, yn enwedig wedi iddo gael ei wneud yn Ddoethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Caergrawnt. Ar gyfer ei ddoethuriaeth, cyfansoddodd gantata, Jerusalem, ar gyfer côr meibion, a pherfformiwyd y gwaith gan gôr o Aberdâr yng nghapel Coleg y Brenin.

Rhwng 1881 ac 1888 bu Joseph Parry’n byw yn Abertawe, lle bu’n cynnal ysgol gerddoriaeth, Coleg Cerddorol Cymru. Bu’r ysgol yn gymharol lwyddiannus, ond gadawodd i gymryd swydd fel darlithydd mewn cerddoriaeth a phennaeth yr Adran Gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yng Nghaerdydd. Er bod hon yn swydd amser llawn, sefydlodd hefyd Goleg Cerddoriaeth De Cymru, a’i redeg, yr un pryd.

Cyfansoddodd Joseph Parry nifer sylweddol o ddarnau cysegredig a seciwlar, gan gynnwys chwe opera. Perfformiwyd un o’i operâu, Blodwen, am y tro cyntaf mewn cyngerdd yn Abertawe yn 1878, a hon oedd yr opera Gymraeg gyntaf i’w chyfansoddi. Dywedir iddi gael ei pherfformio mewn 500 o gyngherddau rhwng 1878 ac 1900. Cyfansoddodd ddwy oratorio, ac roedd yn gweithio ar drydedd pan fu farw, ynghyd â sawl cantata a gweithiau i gerddorfa ac i leisiau. Cyfansoddwyd a threfnwyd ei Agorawd Tudful i Fand Cyfarthfa, y band a oedd wedi’i ysbrydoli’n blentyn. Mewn gwirionedd, mae llawer o’r deunydd thematig ar gyfer y gwaith hwnnw yn deillio o rai o’i weithiau eraill.
Mesurau Agoriadol yr Emyn-Dôn ‘Aberystwyth’ gan Joseph Parry.

Er gwaethaf enwogrwydd Joseph Parry a’i gynnyrch toreithiog, prin yw’r gweithiau o’i eiddo sy’n dal yn boblogaidd heddiw. Eithriadau yw’r rhangan ‘Myfanwy’ a’r emyn-donau, yn arbennig ‘Aberystwyth’. Ei brif gyfraniad oedd ei benderfyniad di-ildio i gysylltu Cymru â thraddodiadau a sefydliadau cerddoriaeth glasurol y byd a hynny o’r tu mewn i’r wlad: dewisodd y llwybr hwnnw yn hytrach na’r llwybr haws yn Llundain, lle y gallasai, mae’n bur debyg, fod wedi llwyddo mewn genres cerddorol ysgafnach. Yn hynny o beth, rhaid ei farnu yng nghyd-destun y cyfnod y bu’n byw ac yn gweithio ynddo. Roedd wedi codi o ddechreuadau cwbl ddi-nod, cyfansoddai gerddoriaeth yn iaith ei famwlad, ac er gwaethaf y cyfleoedd niferus a fyddai’n sicr wedi dod i’w ran drwy ei gysylltiadau â Chaergrawnt, Llundain a’r enwogion a gyfarfu yno, dewisodd ddatblygu math o yrfa gerddorol yn ei wlad ei hun a oedd yn gyfan gwbl ddigynsail.

Yn ogystal â bod yn gyfansoddwr, roedd hefyd yn arweinydd, golygydd, awdur, athro, beirniad a gweinyddwr. Ef oedd cerddor Cymreig pwysicaf ei gyfnod o bell ffordd, a’r cyntaf i fod yn amlwg deyrngar i’r iaith Gymraeg ac i draddodiadau hynafol a phwysig ei wlad enedigol fel y gwelai ef hwy. Roedd un o’i feibion, Haydn, yn gyfansoddwr operetas llwyddiannus a ddaeth yn Athro Cyfansoddi yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama’r Guildhall (Llundain).

Trevor Herbert

Llyfryddiaeth

  • O. T. Edwards, Joseph Parry, 1841–1903 (Caerdydd, 1970)
  • Dulais Rhys, Bachgen bach o Ferthyr – Joseph Parry (Caerdydd, 1998)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.