Parry, Thomas

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Defnyddiwyd y gair estheteg yn wreiddiol i olygu 'dealltwriaeth synhwyrus o bethau', ond drwy gamddefnydd daeth i olygu 'chwaeth neu ddamcaniaeth feirniadol'. A dyna beth a ddisgrifir yma, chwaeth neu ddamcaniaeth feirniadol Thomas Parry (1904-1985), awdur a golygydd ardderchog dwy o gyfrolau pwysicaf a mwyaf dylanwadol ysgolheictod Cymraeg yr ugeinfed ganrif, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (1944) a Gwaith Dafydd ap Gwilym (1952). Y mae'r syniadau sy'n diffinio'r ddamcaniaeth honno i'w gweld am y tro cyntaf mewn cyfrol gynharach o'i eiddo, sef Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (1935). Y syniadau hynny hefyd sydd yn llywodraethu'r dewis o gerddi a geir yn The Oxford Book of Welsh Verse (1962), cyfrol ddylanwadol arall a olygwyd gan Thomas Parry.

Er imi yn awr sôn am ddamcaniaeth, wrth drafod ei fwriadau yn y Rhagair i'w Hanes Llenyddiaeth Gymraeg y mae'r awdur yn honni nad amcanodd at ddamcaniaethu. Nid amcanodd at ddim 'ond disgrifio, heb olrhain dim o'r dylanwadau a fu ar na bardd na chyfnod. Ni ddamcaniaethwyd ychwaith,' meddai, 'na phrofi cysylltiad dim â'i gilydd.' Ond y mae wedyn yn dweud iddo hwnt ac yma yn y llyfr 'egluro ansawdd math arbennig o lenyddiaeth', ac iddo ymdrechu 'i ddangos cynnyrch y canrifoedd fel mynegiant o brofiad artistig un genedl, ... dangos y parhad hir a rhyfedd hwnnw sy'n nodwedd ar lenyddiaeth Gymraeg.'

Y mae'n deg gofyn a ellir 'ond disgrifio'? Yn y weithred o ddewis beth i'w ddisgrifio y mae'r ysgolhaig o leiaf yn nesáu at ddamcaniaethu. Ac y mae'r neb sy'n dymuno 'dangos y parhad hir a rhyfedd hwnnw' o raid a thrwy ddiffiniad yn ddamcaniaethwr, oherwydd y mae modd dadlau i'r gwrthwyneb, a maentumio nad yw'r 'parhad' hwnnw'n bod ac eithrio yn nehongliad hanesydd a beirniad llenyddol rhagfarnllyd o geidwadol fel Thomas Parry ac fel Saunders Lewis o'i flaen.

Beth yw prif bwyntiau'r ddamcaniaeth hon?

Yn gyntaf, mai barddoniaeth fawl yr Oesoedd Canol yw y peth canolog yng nghanon llenyddiaeth Gymraeg, y farddoniaeth honno y mae ei gwreiddiau yn yr Hen Ogledd lle canai Aneirin a Thaliesin, y farddoniaeth a ddatblygodd yn farddoniaeth gyfoethog gymhleth i foli a diddanu'r tywysogion Cymreig rhwng tua 1100 a 1300, ac a ddatblygodd eto yn farddoniaeth foliannus symlach yn Oes yr Uchelwyr. Parhaodd beirdd i ganu i uchelwyr hyd at yr ail ganrif ar bymtheg, yn yr un dull ond nid gyda'r un safon o artistri. Pennaf theori Thomas Parry yn Baledi'r Ddeunawfed Ganrif yw bod rhai o feirdd cynganeddol y cyfnod hwnnw yn gwneud yr un peth â chywyddwyr y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif, ac mai eu canu hwy 'oedd ymgais olaf y traddodiad cymdeithasol cynhenid i fyw'.

Y mae 'parhad' yn golygu bod rhywun neu rywrai yn gyfrifol am gario rhywbeth ymlaen: ni ellir traddodiad heb draddodi. Ail bwynt neu ail nodwedd estheteg Thomas Parry (yng ngeiriau T. J. Morgan) yw bod 'rhyw "ysgol farddol" yn anhepgor i lenyddiaeth Gymraeg ym mhob cyfnod.' I Feirdd y Tywysogion, yr Hengerdd ydoedd; i Feirdd yr Uchelwyr, y ddysg a dderbynient gan eu hathrawon barddol ydoedd; i'r ddeunawfed ganrif, Cylch Morrisiaid Môn ydoedd; i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'i phwys ar awdlau eisteddfodol, Dafydd Ddu Eryri ydoedd; ac i'r ugeinfed ganrif, John Morris-Jones (athro coleg Thomas Parry ei hun). Rheolau oedd yn bwysig i'r athrawon hyn ym mhob cyfnod, am eu bod yn mynnu gan y beirdd ddisgyblaeth, disgyblaeth mesur, disgyblaeth ffurf, a disgyblaeth ieithwedd.

A dyma ddod at drydedd nodwedd yr estheteg hon, sef y clod a rydd Thomas Parry i'r hyn a alwaf yn addurniant, cyfoeth iaith a hyfrydwch arddull. Eled y darllenydd drwy Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 ac fe wêl fod yr awdur ym mhob rhan o'r llyfr yn rhoi pwys mawr iawn ar ysgrifennu gofalus ac addaster arddull. Caiff hyn lawer mwy o sylw a chlod na syniadaeth, boed hynny ym maes cymdeithaseg, athroniaeth neu ddiwinyddiaeth. Wrth drafod Morgan Llwyd, y mwyaf gwreiddiol ei feddwl a'i ddychymyg o bawb a gyhoeddodd lyfrau Cymraeg yn y cyfnod modern cynnar, bron nad yr unig beth a ddywed Parry amdano yw mai ef yw'r 'mwyaf personol ei arddull', ond na ellir 'ei galw yn arddull llenor' am na cheir ynddi yr 'ymhyfrydu mewn ymchwydd brawddegau a geid gan y dyneiddwyr' o'i flaen na dim o'r 'ddisgyblaeth ewyllysiol' sydd gan ysgrifenwyr mawr y ganrif ar ei ôl. Nonsens, wrth gwrs. Ond dyna'r gair yna eto: disgyblaeth. Y mae'n amlwg fod Thomas Parry o'r farn fod yn rhaid i bob llenor gydymffurfio â rhywun neu rywbeth a aeth o'i flaen, a bod norm a phatrwm na wiw arddullio'n groes iddo.

Y mae sawl gwendid i'r estheteg hon. Y cyntaf yw ei bod yn rhoi pwys ar draddodiad ar draul gwreiddioldeb a newydd-deb, ac yn rhoi pwys ar addurniant ar draul syniadaeth. A rhaid i bob llenor ddweud rhywbeth. Yr ail yw ei bod yn methu â gwerthfawrogi gweithiau llenyddol nad ydynt yn cydymffurfio â'i syniadau. Un o addurnwyr gorau oll y Gymraeg yw Ellis Wynne, ond yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 ni chaiff ond traean paragraff. Pam? Am y byddai trin ei glasur Gweledigaetheu'r Bardd Cwsc yn gorfodi Thomas Parry i drafod atgasedd llwyr Ellis Wynne tuag at yr hyn a eilw ef yn 'gelwydd' y farddoniaeth fawl y mae'r Hanes yn ei mawrygu. Hanfod y farddoniaeth honno oedd delfrydu pawb a phopeth; hanfod crefydd Brotestannaidd Ellis Wynne yw bod pob peth byw yn bechadurus – a chan hynny creadigaethau celwyddog yw awdlau a chywyddau pawb o Gynddelw Brydydd Mawr hyd at Siôn Phylip. Trydydd gwendid yr estheteg yw ei bod yn gweld gogoniant lle nad oes gogoniant. Wrth fawrygu Dafydd Ddu Eryri am lynu wrth 'y traddodiad Cymraeg mewn iaith a mesur' y mae Thomas Parry yn dweud ar yr un gwynt na chynhyrchodd 'ef na'i gywion ddim gorchestwaith.' Beth gan hynny yw gwerth glynu wrth y traddodiad? Nid yw Parry yn gofyn y cwestiwn, heb sôn am ei ystyried a'i ateb.

Beirniad llymaf yr estheteg hon yn ei ddydd oedd D. Gwenallt Jones. Mewn adolygiad ar The Oxford Book of Welsh Verse beirniadodd y golygydd yn chwyrn am osod y fath fri ar farddoniaeth gaeth y canol oesoedd ac am roi rhy ychydig o le i feirdd rhydd ac annhraddodiadol y cyfnod modern. Y mae'n gofyn, er enghraifft, 'Pam na roddodd ... ei le dyledus' i Williams Pantycelyn? ac yn ateb ei gwestiwn ei hun: 'Am ei fod yn fardd anghywrain.' Ie, wrth gwrs, ond anghywrain o'i gymharu â Thudur Aled yr oedd Williams. Y gwir amdani yw bod iddo ei gywreinrwydd ei hun, o ran ieithwedd, delweddaeth, a chyfeiriadaeth ysgrythurol, ac o ran awenu'r pethau hyn ynghyd mewn emynau cyffrous, cerddi mawl newydd na pherthynant ddafn o waed i farddoniaeth fawl yr hen awdlau a chywyddau. At hynny, yn ei gerddi rhoddodd Williams fynegiant i brofiadau crefyddol hollol newydd. Ond nid oedd gan Parry ddiddordeb yn y grefydd ddiwygiadol a ddeffrôdd awen Pantycelyn.

Bid a fo am hynny, y mae awdurdodaeth fel awdurdodaeth Thomas Parry yn rhoi blas ar astudio hanes llenyddiaeth, ac heb amheuaeth y mae i'w estheteg Gymreig le tra phwysig yn hanes ein hysgolheictod a'n beirniadaeth lenyddol.

Derec Llwyd Morgan

Llyfryddiaeth

Parry, T. (1935), Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Parry, T. (1944), Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Parry, T. (1952), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Parry, T. (gol.) (1962), The Oxford Book of Welsh Verse (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen).

Llwyd Morgan, D. (2013), Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985 (Llandysul: Gwasg Gomer).



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.