Parry-Williams, T. H.

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Yn y gyfrol Elfennau Barddoniaeth (1952) y ceir y crynodeb gorau o syniadau T. H. Parry-Williams am feirniadaeth lenyddol a’i pherthynas â llenyddiaeth. Deil Parry-Williams mai'r tair elfen gyntaf sydd i'w hystyried wrth ddadansoddi llenyddiaeth yw (i) y mater (neu’r ysbrydoliaeth); (ii) y modd (neu’r dechneg); (iii) y mwynhau (neu ymateb y darllenydd). Iswasanaethgar i’r ystyriaethau hyn yw'r bedwaredd elfen, sef beirniadaeth lenyddol, ac ni ddylid ‘ei chymryd yn rhy ddifrifol’.

Agwedd bragmataidd, yn hytrach na damcaniaethol, sydd ganddo at feirniadaeth lenyddol. Rôl beirniad llenyddol, medd ef, yw bod yn ‘ddehonglwr a chyfarwyddwr’ i’r darllenydd. Ni ddylai'r beirniad 'sefydlu safonau'; yn hytrach, dylai esbonio'r safonau a ‘osodwyd yn anymwybodol’ gan lenorion. 'Ar ôl y llenor y daw'r beirniad', meddai, a dim ond yn dra gochelgar yr arddela'r farn y gall beirniadaeth lenyddol hefyd fod yn 'Llenyddiaeth Feirniadol'. Myn ymhellach na all beirniadaeth lenyddol ond ymwneud ag ‘allanolion arwynebol’ llenyddiaeth, ac mai seithug yw ei hymwneud ag ysbrydoliaeth bardd, sef y cyffro awenyddol dirgel-Ramantaidd a drafodir ganddo mewn ysgrif megis 'Llenydda' (Synfyfyrion). I Parry-Williams, yn wyneb ‘creadigaeth lenyddol wir fawr ac athrylithgar', nid beirniadaeth lenyddol sy'n weddus, eithr 'distawrwydd’.

Er ei sgeptigiaeth amlwg ynglyn â phosibiliadau beirniadaeth lenyddol, â rhagddo i gategoreiddio dau fath o feirniad, sef (i) y beirniad goddrychol, neu argraffiadol, sy’n beirniadu yn ôl ei chwaeth a'i brofiad ei hun, ac yntau'n gallu ‘ymdeimlo â rhin’ a ‘grymuster effaith’ darn o lenyddiaeth; a (ii) y beirniad ‘gwyddonol, sistematig, academig, oer’ sydd yn barnu llenyddiaeth yn ôl canonau sefydledig, gan ddilyn yr egwyddor mai ‘defod yw llenyddiaeth’. Ym marn Parry-Williams, cyfuniad o’r ddau fath sy’n creu’r beirniad llenyddol gorau, sef beirniad sy’n meddu ar ‘chwaeth wedi ei thymheru â gwybodaeth’. Yn sicr, mae ei drafodaethau Fictorianaidd eu naws ar y cerddi a gynhwysir yn Elfennau Barddoniaeth yn tueddu i ganolbwyntio ar allanolion y grefft, a thueddir i ganfod rhin anniffiniadwy mewn cerddi telynegol yn bennaf. Er y dadansoddi ymarferol ar eiriau, ffurf a thechneg barddoniaeth, mae'r pwyslais Rhamantaidd ar lais unigolyddol y bardd yn golygu nad yw ei ddull yn cyd-fynd ag amcanion Beirniadaeth Ymarferol I. A. Richards a'i ddilynwyr a oedd mewn bri yn Lloegr adeg cyhoeddi Elfennau Barddoniaeth.

Yn sicr, nid yw beirniadaeth lenyddol Parry-Williams, na'i agweddau ceidwadol tuag ati, yn dangos dyfeisgarwch mentrus a modernedd deallusol ei greadigaethau llenyddol ei hun.

Angharad Price

Llyfryddiaeth

Parry-Williams, T. H. (1952), Elfennau Barddoniaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Parry-Williams, T. H. (1937), Synfyfyrion (Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.