Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Paul Turner"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
B
(dileu llun)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Paul Turner.jpg|right]]
 
Ganwyd Paul Turner yng Nghernyw ym 1945. Ar ôl astudio ffilm yn y coleg, gweithiodd fel dyn camera a golygydd yn y BBC gan weithio ar raglenni megis cyfres John Hefin o 1981, ''The Life and Times of David Lloyd George''. Yn yr un flwyddyn cynhyrchodd ei waith anibynnol cyntaf sef ''Trisgel'', ffilm yn ôl David Berry sydd yn "ramant uchelgeisiol, di-ddeialog sy'n drwch o draddodiad a mytholeg".
 
Diwygiad 16:01, 14 Gorffennaf 2014

Ganwyd Paul Turner yng Nghernyw ym 1945. Ar ôl astudio ffilm yn y coleg, gweithiodd fel dyn camera a golygydd yn y BBC gan weithio ar raglenni megis cyfres John Hefin o 1981, The Life and Times of David Lloyd George. Yn yr un flwyddyn cynhyrchodd ei waith anibynnol cyntaf sef Trisgel, ffilm yn ôl David Berry sydd yn "ramant uchelgeisiol, di-ddeialog sy'n drwch o draddodiad a mytholeg".

Yn fuan wedyn sefydlodd y cwmni cynhyrchu Teliesyn ar y cyd gyda Colin Thomas. Dan fantell y cwmni newydd hwn aeth ati i sicrhau comisiwn drama-ddogfen gan S4C o'r enw Chwedlau Serch ym 1982-3 yn ogystal â chyfres Saesneg a Chymraeg gefn-wrth-gefn i'r BBC o'r enw Arswyd y Byd / Tales From Wales.

Cyfarwyddodd Turner ddrama sengl awr o hyd ar gyfer S4C ym 1984 o'r enw Wil Six, sy'n adrodd atgofion dyn o'r amser yn fachgen ifanc mewn ysgol wledig, yn ogystal â'r drasiedi lesbiaidd Tra Bo Dwy.

Ym 1992, wedi i Turner hogi ei grefft ar sawl drama deldu fel Dihirod Dyfed, daeth ei lwyddiant mwyaf sylweddol sef y ffilm Hedd Wyn. Hon oedd y ffilm Gymraeg gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer gwobr Oscar am y Ffilm Iaith Dramor orau, ac aeth ymlaen i ennill llu o wobrau rhyngwladol eraill gan ddod â chlod a bri i sinema Cymraeg.

Ni chafodd yr un llwyddiant â Hedd Wyn wedi hyn ond aeth ymlaen i gyfarwyddo tair ffilm hyd llawn arall gyda'i gwmni cynhyrchu Pendefig o'r enw Cwm Hyfryd (1993) a Dial (1995) yn ogsytal a'r ffilm Porc Pei (1998) gafodd ei throi mewn i gyfres ddrama lwyddianus gan S4C.

Gwefan Cwmni Cynhyrchu Pendefig[1]