Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pelydrau, Y"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Bu’r [[grŵp pop]] Y Pelydrau yn [[perfformio]] yn y cyfnod rhwng 1966 ac 1973 a’r aelodau oedd Susan Dobbs, Edith Barker a Gwenan Jones (lleisiau), Glenys Davies (llais a gitâr), a Gareth Williams (gitâr, llais). Mae enw’r grŵp yn cyfeirio at yr atomfa yn Nhrawsfynydd, bro eu mebyd, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965.
+
Bu’r [[grŵp pop]] Y Pelydrau yn perfformio yn y cyfnod rhwng 1966 ac 1973 a’r aelodau oedd Susan Dobbs, Edith Barker a Gwenan Jones (lleisiau), Glenys Davies (llais a gitâr), a Gareth Williams (gitâr, llais). Mae enw’r grŵp yn cyfeirio at yr atomfa yn Nhrawsfynydd, bro eu mebyd, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965.
  
Roedd Susan Dobbs, Edith Barker, Glenys Davies a Gwenan Jones yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd. Cawsant gyfle yn eu hieuenctid i gymryd rhan mewn dramâu a digwyddiadau cerddorol lleol ac mewn gweithgaredd diwylliannol a ysgogwyd gan y Parch. Gwyn Erfyl [Jones]. Rhoddodd ymweliadau â gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn gyfle iddynt hefyd ddysgu [[caneuon gwerin]]. Ynghyd â Gareth Williams, dechreuodd y merched ganu cyfieithiadau o ganeuon Eingl-Americanaidd megis ‘Rŷn ni ar y ffordd i’r Nefoedd’. Yn 1964 ychwanegwyd y gitâr yn gyfeiliant i’w canu a dechreuodd y grŵp gystadlu mewn [[eisteddfodau]] lleol.
 
Llinell 9: Llinell 10:
 
Rhyddhaodd Y Pelydrau saith record, pump gyda Josiah Jones, Cambrian, a dwy gyda Dennis Rees, Cwmni’r Dryw. Ym Mai 1969 cyhoeddwyd eu sengl ‘Roced Fach Ni’, cân i blant am laniad dyn ar y lleuad a’r ffaith nad oedd baner y ddraig goch wedi ei gosod yno. Yn ychwanegol at boblogrwydd y gân, roedd y sengl yn nodedig ar gyfrif cân yr ail ochr, sef ‘Dim ond fi sydd ar ôl’, un o’r caneuon gan Y Pelydrau sy’n defnyddio geiriau’r [[prifardd]] Gerallt Lloyd Owen.
 
Erbyn hyn roedd Y Pelydrau yn wynebau [[cyfarwydd]] ar y teledu yng Nghymru ac yn ymddangos ar raglenni megis ''Y Dydd''. Ym mis Tachwedd 1969 ymddangosodd y grŵp ar y rhaglen deledu Brydeinig ''Opportunity Knocks'' gan ganu ‘Hwrli-Bwrli,’ sef geiriau Glenys Davies ar alaw ‘Mary Ann’ (Ray Charles) a boblogeiddiwyd gan Harry Belafonte. Daeth Y Pelydrau yn ail yn y gystadleuaeth ac yn sgil eu llwyddiant cawsant gynigion gwaith gan orsaf radio ym Michigan yn yr Unol Daleithiau a gwahoddiad gan Syr Billy Butlin i ganu yn ei wersyll gwyliau yn Skegness.
+
Erbyn hyn roedd Y Pelydrau yn wynebau cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru ac yn ymddangos ar raglenni megis ''Y Dydd''. Ym mis Tachwedd 1969 ymddangosodd y grŵp ar y rhaglen deledu Brydeinig ''Opportunity Knocks'' gan ganu ‘Hwrli-Bwrli,’ sef geiriau Glenys Davies ar alaw ‘Mary Ann’ (Ray Charles) a boblogeiddiwyd gan Harry Belafonte. Daeth Y Pelydrau yn ail yn y gystadleuaeth ac yn sgil eu llwyddiant cawsant gynigion gwaith gan orsaf radio ym Michigan yn yr Unol Daleithiau a gwahoddiad gan Syr Billy Butlin i ganu yn ei wersyll gwyliau yn Skegness.
  
Roedd Y Pelydrau yn nodedig ar sail eu synnwyr ffasiwn yn ogystal â’u cerddoriaeth, gan ymddangos mewn gwisgoedd unffurf wedi eu cynllunio gan Marianne Jewel (Marianne Wales) o Benrhyndeudraeth. Daeth y grŵp i ben yn 1973.
 
Diwygiad 19:51, 30 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Bu’r grŵp pop Y Pelydrau yn perfformio yn y cyfnod rhwng 1966 ac 1973 a’r aelodau oedd Susan Dobbs, Edith Barker a Gwenan Jones (lleisiau), Glenys Davies (llais a gitâr), a Gareth Williams (gitâr, llais). Mae enw’r grŵp yn cyfeirio at yr atomfa yn Nhrawsfynydd, bro eu mebyd, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965.

Roedd Susan Dobbs, Edith Barker, Glenys Davies a Gwenan Jones yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd. Cawsant gyfle yn eu hieuenctid i gymryd rhan mewn dramâu a digwyddiadau cerddorol lleol ac mewn gweithgaredd diwylliannol a ysgogwyd gan y Parch. Gwyn Erfyl [Jones]. Rhoddodd ymweliadau â gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn gyfle iddynt hefyd ddysgu caneuon gwerin. Ynghyd â Gareth Williams, dechreuodd y merched ganu cyfieithiadau o ganeuon Eingl-Americanaidd megis ‘Rŷn ni ar y ffordd i’r Nefoedd’. Yn 1964 ychwanegwyd y gitâr yn gyfeiliant i’w canu a dechreuodd y grŵp gystadlu mewn eisteddfodau lleol.

Yn sgil eu poblogrwydd lleol cafodd y grŵp wahoddiad i ymuno â Pharti Prysor a oedd yn cynnal nosweithiau llawen yn yr ardal. Yn 1967 enillodd y Pelydrau gystadleuaeth bop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin, a hynny gyda’u cân ‘Y Bachgen Llygad Du’ a gyfansoddwyd gan Glenys Davies. Ar ôl eu llwyddiant penderfynodd Gareth Williams ymadael â’r grŵp a chymerwyd ei le gan John Arthur Ifans.

Rhyddhaodd Y Pelydrau saith record, pump gyda Josiah Jones, Cambrian, a dwy gyda Dennis Rees, Cwmni’r Dryw. Ym Mai 1969 cyhoeddwyd eu sengl ‘Roced Fach Ni’, cân i blant am laniad dyn ar y lleuad a’r ffaith nad oedd baner y ddraig goch wedi ei gosod yno. Yn ychwanegol at boblogrwydd y gân, roedd y sengl yn nodedig ar gyfrif cân yr ail ochr, sef ‘Dim ond fi sydd ar ôl’, un o’r caneuon gan Y Pelydrau sy’n defnyddio geiriau’r prifardd Gerallt Lloyd Owen.

Erbyn hyn roedd Y Pelydrau yn wynebau cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru ac yn ymddangos ar raglenni megis Y Dydd. Ym mis Tachwedd 1969 ymddangosodd y grŵp ar y rhaglen deledu Brydeinig Opportunity Knocks gan ganu ‘Hwrli-Bwrli,’ sef geiriau Glenys Davies ar alaw ‘Mary Ann’ (Ray Charles) a boblogeiddiwyd gan Harry Belafonte. Daeth Y Pelydrau yn ail yn y gystadleuaeth ac yn sgil eu llwyddiant cawsant gynigion gwaith gan orsaf radio ym Michigan yn yr Unol Daleithiau a gwahoddiad gan Syr Billy Butlin i ganu yn ei wersyll gwyliau yn Skegness.

Roedd Y Pelydrau yn nodedig ar sail eu synnwyr ffasiwn yn ogystal â’u cerddoriaeth, gan ymddangos mewn gwisgoedd unffurf wedi eu cynllunio gan Marianne Jewel (Marianne Wales) o Benrhyndeudraeth. Daeth y grŵp i ben yn 1973.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Y Pelydrau [sengl] (Cambrian CEP405, 1967)
  • Caneuon Serch [EP] (Cambrian CEP401, 1967)
  • Eiliad i Wybod [EP] (Cambrian CEP416, 1968)
  • Dewch i Ddawnsio [EP] (Cambrian WRE1056, 1969)
  • ‘Roced Fach Ni’/‘Dim Ond Y Fi Sydd Ar Ôl’ (Wren Records WSP2002, 1969)
  • Hwrli Bwrli [sengl] (Wren Records WSP2003, 1970)
  • Coffa Hedd Wyn [EP] (Cambrian CEP487, 1973)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.