Pennawd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Headline

Brawddeg neu ymadrodd un llinell ar frig erthygl newyddion neu fwletin newyddion darlledu sy’n nodi ei chynnwys/gynnwys, fel arfer mewn ffordd sy’n dal sylw. Nid yn unig y mae penawdau’n gwahaniaethu rhwng un stori newyddion a’r llall, maent yn dynodi lefel pwysigrwydd y storïau. Mewn print, mae’r pennawd yn cael ei ysgrifennu fel arfer gan yr is-olygydd (subeditor), h.y. nid gan y newyddiadurwr. Mae’r pennawd yn crynhoi natur yr erthygl neu’r stori er mwyn amlygu ei phrif bwynt, a hynny mewn ffordd sy’n hawdd i’r gynulleidfa ei deall.

Fel arfer, ysgrifennir pennawd trwy ddefnyddio berfau gweithredol ac iaith syml, glir, sy’n creu delweddau bywiog. Mae penawdau’n cystadlu â’i gilydd felly mae’n rhaid iddynt dynnu sylw.

Mae penawdau bras (banner headlines), sy’n ymestyn ar draws y dudalen gyfan, yn dynodi newyddion pwysig iawn a/neu stori sy’n torri.

Mewn newyddion darlledu, mae penawdau’n rhoi rhagflas o’r cynnwys ac yn dod ar frig newyddlen gan adlewyrchu’r straeon mwyaf arwyddocaol neu ddiddorol. Pan ddefnyddir penawdau ar y teledu, dangosir lluniau.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.